Fe wnaethoch chi chwilio am gruffydd

Canlyniadau

ADDA FRAS (1240? - 1320?), bardd a brudiwr o fri

Enw: Adda Fras
Dyddiad geni: 1240?
Dyddiad marw: 1320?
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd a brudiwr o fri
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Raymond Wallis Evans

Yn ôl Dr. John Davies a Thomas Stephens, blodeuai tua 1240. Cyfeirir ato yn Peniarth MS 94 (26), a Llanstephan MS. 119 (82) fel gwr yn byw tua 1038, ac yn cydoesi â Goronwy Ddu o Fôn. Ond yn G. P. Jones, Anglesey Court Rolls, 1346, tt. 37 a 39, ceir sôn am 'the son of Adda Fras', a 'the suit of Goronwy Ddu, attorney for the community of the Township of Porthgir.' Yn Dafydd ap Gwilym a'i gyfoeswyr 156 cyplysir ef â Chasnodyn (c.1290 - 1340) gan Gruffydd Gryg (c. 1340 - 1412). Buasai 1240 - 1320, felly, heb fod ymhell o'i le fel cyfnod ei oes. Claddwyd ef yn abaty Maenan ger Conwy (Gwaith Tudur Aled, i, 83). Ei athro, yn ôl Llanstephan MS. 133 (617), oedd Wmbar.

Y mae'r beirdd diweddarach yn cyfeirio ato'n fynych yn y marwnadau a ganent i'w gilydd, nid yn unig fel daroganwr, ond fel meistr ar gelfyddyd y beirdd, e.e. yn Peniarth MS 94 (144) a Gwaith Tudur Aled, ii, 743, ac, yn arbennig, farwnad Tudur Aled i Ddafydd ab Edmwnt (nad oedd yn enwog fel daroganwr) (Gwaith Tudur Aled, i, 283). Ychydig, yn gymharol, o'i waith a ddaeth i lawr i ni. Ni ellir bod yn gwbl sicr, ar hyn o bryd, faint ohono sy'n ddilys, oblegid priodolir peth ohono i feirdd eraill.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Canlyniadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.