BLAYNEY, THOMAS (1785 -?), telynor

Enw: Thomas Blayney
Dyddiad geni: 1785
Rhiant: Letitia Blayney
Rhiant: Arthur Blayney
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: telynor
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd yn Tynycoed, Llanllwchhaearn, Sir Drefaldwyn, mab i Arthur a Letitia Blayney. Enillodd y wobr (telyn arian a 30 gini) yn eisteddfod Caerfyrddin, 1819. Dywed Thomas Price ('Carnhuanawc') mai ef oedd y cyntaf iddo ei glywed yn canu'r delyn deir-res, a thystia i'w enwogrwydd fel telynor.

Cadwai westy yn Lydney North, ger Walcot, plasty Arglwydd Powis yn Sir Amwythig. Yn 1829 penodwyd ef yn delynor i deulu Arglwydd Powis, ond bu farw ymhen ychydig wedi ei benodiad, ond nid oes sicrwydd am yr amser. Yr oedd ei frawd, ARTHUR BLAYNEY, yn enwog fel chwaraewr medrus ar y ffidil.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.