DAVIES, ELIZABETH (BETSI CADWALADR, 1789 - 1860), gweinyddes yn y Crimea

Enw: Elizabeth Davies
Dyddiad geni: 1789
Dyddiad marw: 1860
Rhiant: Judith Cadwaladr (née Humphreys)
Rhiant: Dafydd Cadwaladr
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: gweinyddes yn y Crimea
Maes gweithgaredd: Meddygaeth; Milwrol
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Merch i Ddafydd Cadwaladr. ganwyd 24 Mai 1789, bedyddiwyd yn Llanycil 26 Mai. Daw'r cwbl a wyddom am ei gyrfa o'r Autobiography of Elizabeth Davis (dwy gyfrol, 1857), sef nodiadau o sgyrsiau gyda hi gan Jane Williams, Ysgafell. Wedi marw ei mam (tua 1795-6), a than ofal chwaer hyn nas hoffai, ystyfnigodd Elizabeth yn fore. Derbyniwyd hi ar aelwyd Simon Lloyd o Blas-yn-dre, perchen tyddyn ei thad, a thriniwyd hi'n garedig yno (dysgodd ddawnsio a chanu'r delyn), ond ffoes i Lerpwl yn 14 oed (dylid dweud mai amhendant iawn yw ei dyddiadau) ac aeth i wasnaethu; eto glynodd yn dynn wrth yr achos Methodistaidd yn y ddinas. Ar deithiau gyda theulu ei meistr, cafodd weld Mrs. Siddons yn Edinburgh, ac ymweld ag amryw o wledydd y Cyfandir. Dychwelodd i'r Bala, ond ffoes drachefn, i Gaer, ac oddi yno (er mwyn osgoi priodi) i Lundain, lle y bu'n aros dan nenbren John Jones, Glan-y-gors, yr honnai hi ei bod yn ‘perthyn o bell’ iddo. Yn forwyn yn nhy teiliwr ffasiynol, gallodd gyfuno ffyddlondeb cyson i'r capel a diddordeb yn y chwaraedy. Yn 1820, ar ô ymweliad â'r Bala (lle ‘diflas,’ meddai hi), aeth yn forwyn yn nheulu capten llong, a bu'n crwydro'r byd am flynyddoedd, gan gyfarfod pob math o bobl (megis William Carey a'r esgob Heber), actio Shakespeare ar fwrdd y llong a mynd drwy anturiaethau cynhyrfus (meddai hi, gyda gradd o ymffrost efallai); ond ymddygnodd yn erbyn priodi — merch wrywaidd braidd, gellir tybio. Wedi dychwelyd i Loegr, collodd ei henillion rywsut, ac aeth drachefn i wasnaethu — edrydd i Charles Kemble ei chlywed yn actio ‘Hamlet’ yng nghegin ei meistr a chynnig iddi le yn ei gwmni ef, a thâl o £50 yr wythnos. Bu yng Ngogledd Cymru yn 1844-5, ac yn y Deheudir yn 1849, gan fynychu sasiynau. Gadawodd ei meistr ‘ffortiwn’ iddi, ond collodd honno drwy driciau cyfreithiol; aeth wedyn yn weinyddes yn Guy's Hospital, ac arweiniodd hynny hi i gynnig mynd i weini i'r Crimea yn 1854. Fel y gallesid disgwyl, aeth pethau'n ddrwg rhyngddi a Florence Nightingale. Anfonwyd hi adre'n wael; llym i'r eithaf yw ei barn am gyflwr pethau yn y Crimea. Treuliodd ei blynyddoedd olaf mewn tlodi, a bu farw 17 Gorffennaf 1860, yn nhy ei chwaer Bridget yn Llundain. Hyd y diwedd, glynodd wrth grefydd, a'r Beibl bychan a roddwyd iddi'n eneth gan Thomas Charles oedd ei ‘chydymaith cyson,’ chwedl hithau. Ond llawn cyn gryfed oedd tynfa'r chwaraedy arni, a'i hawydd am weld y byd a chyfranogi o'i gyffro — yn hyn, ond odid, fe welir adwaith i gyfeiriad bywyd cyn-Fethodistaidd henfro ei thad.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/