Fe wnaethoch chi chwilio am *

Canlyniadau

DOGMAEL (DOGFAEL, DOGWEL), sant

Enw: Dogmael
Rhiant: Ithel ap Ceredig ap Cunedda Wledig
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: sant
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Hywel David Emanuel

Nid oes unrhyw fanylion i'w cael am fywyd y sant hwn ond yn unig iddo fyw yn y 6ed ganrif. Dywed yr achau Cymreig mai mab oedd i Ithel ap Ceredig ap Cunedda Wledig, ac felly cysylltir ef ag un o dri llwyth saint Cymru. A barnu oddi wrth yr eglwysi a gysegrwyd iddo, cyfyngwyd ei lafur bron yn llwyr i Sir Benfro; canys yn y sir honno y mae Llandudoch (ar Deifi ger Aberteifi), Capel Degwel yn yr un plwyf, S. Dogwel (ger Abergwaun), Mynachlogddu, a Meline. Yr unig eithriad yw eglwys Llanddogwel ym Môn, gynt yn blwyf annibynnol, ond wedi hynny yn gysylltiedig â Llanfechell. Yn y 12fed ganrif sefydlwyd mynachlog o urdd y Benedictiaid ar sail prif eglwys Dogmael yn Llandudoch. Ceir olion hanes sant o'r enw Dogmael hefyd yn Llydaw. Nodir dau ddiwrnod yn y gwahanol ffynonellau fel dydd gŵyl y sant hwn, sef 14 Mehefin a 31 Hydref.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Canlyniadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.