Fe wnaethoch chi chwilio am meiriadog

Canlyniadau

FISHER, JOHN (1862 - 1930), ysgolhaig Cymraeg

Enw: John Fisher
Dyddiad geni: 1862
Dyddiad marw: 1930
Rhiant: Mary Fisher
Rhiant: Edward Fisher
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolhaig Cymraeg
Maes gweithgaredd: Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Ellis Davies

Ganwyd 5 Ionawr 1862, mab hynaf Edward a Mary Fisher, Cilcoll, Llandebie. Addysgwyd ef yn Ysgol Genedlaethol Llandebie, Talybont (Pontardulais), ysgol Llanymddyfri, ac yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, lle y graddiodd yn B.A. yn 1884 a B.D. yn 1891, a lle y derbyniasai ysgoloriaeth a gwobrau. Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1885, ac yn offeiriad yn 1886, a bu'n gurad ym Mhontbleiddyn, Llanllwchaearn, a Rhuthyn, yn esgobaeth Llanelwy. Ei unig fywoliaeth oedd rheithoraeth Cefn Meiriadog a dderbyniodd yn 1901. Yr un flwyddyn daeth yn llyfrgellydd llyfrgell eglwys gadeiriol Llanelwy; gwnaeth gatalog (mewn llawysgrif) o lyfrau'r llyfrgell honno. Penodwyd ef yn ganon yn 1916, ac yn ganghellor yr eglwys gadeiriol yn 1927. Gwnaed ef yn gaplan arholi yn Gymraeg i'r archesgob Edwards yn 1921. Daliasai y swydd o arholwr mewn Cymraeg yng Ngholeg Llanbedr o 1905 hyd 1909. Yn 1917 etholwyd ef yn aelod o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru. Ymunodd â'r ' Cambrian Archaeological Association ' yn 1899, ac yn 1914 dilynodd y canon R. Trevor Owen yn ysgrifennydd cyffredinol. Am ysbaid yn ystod y rhyfel mawr cyntaf gweithredodd fel golygydd yn ogystal. Yn 1917 rhoes y swydd flaenaf heibio, ond parhaodd yn olygydd Archaeologia Cambrensis hyd 1925, pryd y daeth yn un o'r is-lywyddion. Ei brif waith llenyddol, y llafuriodd arno gyda S. Baring Gould, oedd The Lives of British Saints (pedair cyfrol), a gyhoeddwyd gan Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1907-13. Golygasai yn flaenorol lawysgrifau Cefn Coch, 1899. Yn ddiweddarach golygodd Tours in Wales (R. Fenton) dros y ' Cambrian Archaeological Association,' 1917, Allwydd Paradwys, 1930, a Kynniver Llith a Ban, 1931. Rhai o'i gyfraniadau i Archæologia Cambrensis oedd ' The Religious and Social Life of former days in the Vale of Clwyd,' 1906, ' Some Place-names in the locality of St. Asaph,' 1914, ' Wales in the time of Queen Elizabeth,' ' The Wonders of Wales,' 1915, ' Two Welsh Wills,' 1919, ' The Welsh Celtic Bells,' ' Bardsey Island and its Saints,' 1926. Etholwyd ef yn F.S.A. yn 1918, a chyflwynwyd iddo y radd o D.Litt. gan Brifysgol Cymru yn 1920. Penodwyd ef hefyd yn aelod o'r ' Royal Commission on Ancient Monuments (Wales).' Gwasanaethodd fel cynrychiolydd y ' Cambrian Archaeological Association ' ar lys llywodraethwyr Prifysgol Cymru ac ar Fwrdd y Gwybodau Celtaidd; yr oedd hefyd yn aelod o lys llywodraethwyr a chyngor Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bu farw 9 Mai 1930, a chladdwyd ef ym mynwent eglwys gadeiriol Llanelwy.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Canlyniadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.