Fe wnaethoch chi chwilio am *

Canlyniadau

FOTHERGILL (TEULU), meistri gweithydd haearn, etc.

Gwŷr oedd y rhain o Kendal yn Westmorland, a hefyd o sir Cumberland. Dau frawd oedd y cyntaf ohonynt a ddaeth i Ddeheudir Cymru, sef Richard Fothergill I (1758-1821) a JOHN FOTHERGILL (1763-1828) - cysylltir John â Bedwellty. Cyfyngir yr ysgrif bresennol i Richard a'i olynwyr.

RICHARD FOTHERGILL I (1758-1821), meistr haearn

Fe'i denwyd o Clapham, lle'r oedd yn adeiladydd, gan bosibiliadau mwynawl De Cymru. Yn 1794 daeth yn bartner yng ngwaith haearn Sirhowy gyda Matthew Monkhouse ac un arall. Yn 1800 ymunodd â Samuel Homfray yn Tredegar; rhoes heibio ofalu am y gwaith hwnnw yn 1817. Pan ddaeth prydles gwaith Sirhowy i ben yn 1818 - yr oedd wedi arfaethu adnewyddu'r brydles ond fe'i rhoddwyd heb yn wybod iddo ef i'r Mri. Harford, Ebbw Vale - symudodd ei beiriannau i gyd a thorri pob cysylltiad â Sirhowy. Yr oedd ganddo waith haearn yn Ponthir, gerllaw Caerlleon, yn 1818, a bu'n byw am ychydig amser yn Back Hall, Caerlleon. Manteisiodd y Mri. Tappenden, perchenogion gwaith haearn Abernant, ar ei wybodaeth a'i allu. Yr oedd yn dyst o'r cytundeb (1804) a wnaed rhyngddynt hwy â'r Mri. Scale (yr Aberdare Iron Co.), perchenogion gwaith Llwydcoed, i gael defnyddio'r ffordd dram i gysylltu eu gwaith hwy â'r Neath Canal. Yn 1807 bu'n dyst o'r weithred gyfreithiol yn dibennu'r bartneriaeth yng ngwaith Abernant, pan gymerwyd hwnnw gan y Mri. Tappenden oddi wrth Jeremiah Homfray a James Birch. Daeth ei ddylanwad yn fawr yn rheolaeth gwaith Abernant ac yng ngweithydd Tredegar a Sirhowy; yr oedd hefyd yn paratoi'r ffordd i'w fab, ROWLAND FOTHERGILL, i gael rheoli ac, yn ddiweddarach, i feddu, gweithydd Llwydcoed ac Abernant. Dilynodd ei ail fab, THOMAS FOTHERGILL (1791-1858), ef yng ngwaith Ponthir; bu ef yn siryf sir Fynwy yn 1829.

ROWLAND FOTHERGILL (1794 - 1871), meistr haearn

Mab Richard Fothergill. Yr oedd yn feistr haearn galluog. Yn fuan iawn, ar ôl i Tappendens ymadael, daeth yn brif gyfarwyddwr gwaith Abernant; ychydig yn ddiweddarach daeth yn bennaf cyfarwyddwr gwaith Llwydcoed - anghytunai ef a'r Mri. Scales yn fynych. Wedi cyfreithio costus arwerthwyd y gwaith yn 1846; prynodd Rowland Fothergill ef, a chyn hir, oherwydd ei allu fel rheolwr, llwyddodd y gwaith, daeth y perchennog yn gyfoethog, ac ymneilltuodd i gastell Hensol, gerllaw'r Bontfaen. Yr oedd ganddo hefyd waith haearn, y 'Taff Vale Ironworks,' ym mhlwyf Llanilltud-y-faerdref - yn hwn buwyd yn llwyddiannus iawn wrth wneud rheiliau ffyrdd trenau.

Buasai Rowland Fothergill yn siryf Morgannwg yn 1850. Bu farw 19 Medi 1871 a chladdwyd ef yn eglwys Pendoylan, ac aeth ystad Hensol a'i gastell i'w aeres, Isabella, merch ei chwaer Ann; priododd hi, yn 1877, Syr Rose Lambert Price, barwnig.

Pan aeth Rowland Fothergill i gastell Hensol i fyw rhoddwyd gofal y gweithydd haearn a'r pyllau glo ar ysgwyddau ei nai

RICHARD FOTHERGILL III (1822 - 1903), meistr haearn, perchennog pyllau glo a gwleidydd

Mab RICHARD FOTHERGILL II, (1789-1851), a oedd yn frawd hŷn na Rowland. Dilynodd Richard III ei ewythr fel rheolwr, ac yn ddiweddarach fel perchennog gwaith haearn Aberdâr, etc. Yr oedd ganddo wybodaeth helaeth o'r holl weithrediadau ynglŷn â gweithio haearn a chodi glo. Yr oedd ganddo siop y cwmni ('Truck shop'), a pharodd hyn fod gwrthwynebiad iddo; galwyd arno (1851) i ateb cyhuddiadau yn llys Aberdâr, a bu raid i H. A. Bruce, arglwydd Aberdâr, yr ynad cyflog, ei feirniadu'n llym. Llwyddodd gwaith Abernant mewn modd neilltuol. Yn y flwyddyn 1873, ychydig cyn y dirwasgiad a ddilynodd, yr oedd cyfanswm y cyflogau a delid yn £200,000 - 25 mlynedd cyn hynny £60,000 ydoedd. Yn 1862 yr oedd gwaith Plymouth, gerllaw Merthyr, wedi dyfod i'w ddwylo. Hyd y flwyddyn honno gweithid yno yn ôl yr hen ddull ond mynnodd Richard III ddefnyddio dulliau newydd, a chyn hir yr oedd y gwaith yn cystadlu'n ddygn â'r gweithydd mawrion yn Nowlais a Chyfarthfa. Daeth gwaith Penydarren i'w ddwylo hefyd, ac o'r herwydd yr oedd iddo gymaint pwysigrwydd a phoblogrwydd yn ardal Merthyr ag oedd iddo yn ardal Aberdâr. Adeiladodd blasty yn Abernant (cartref St. Michael's College ac ysbyty Aberdâr wedi hynny) wedi ei amgylchu â thiroedd prydferth - fe'i gelwir yn 'Fothergill's Park' hyd heddiw.

Gwnaed Richard III yn un o aelodau cyntaf bwrdd iechyd Aberdâr yn 1854. Pan gafodd Merthyr ac Aberdâr yr hawl i ddewis dau aelod seneddol, yn 1868, etholwyd Henry Richard ac yntau. Wedi iddo fynd i'r Senedd bu'n ddiwyd yn galw sylw at gymhwyster glo ager De Cymru i gael ei ddefnyddio gan y llynges o'i gymharu â glo gogledd Lloegr a glo Ysgotland; gwnaeth araith, 29 Gorffennaf 1870, yn ystod y rhyfel rhwng Ffrainc a Prwsia, gan ddangos mor angenrheidiol oedd y glo neilltuol hwn mewn argyfwng o'r fath oherwydd nad oedd mwg yn codi ohono. Ategwyd ef gan Syr H. H. Vivian.

Yr oedd yn un o aelodau gwreiddiol yr Iron and Steel Institute (1869), ac fe'i dewiswyd yn aelod o gyngor y sefydliad hwnnw yn 1871. Priododd (1), 1848, Elizabeth, chwaer James Lewis, Plasdraw, Aberdâr, a (2), 31 Rhagfyr 1850, Mary Roden. Parhaodd yn aelod seneddol hyd 1880; ymneilltuodd y flwyddyn honno ac aeth i fyw i Ddinbych-y-pysgod, lle y bu farw 24 Mehefin 1903.

Oherwydd y datblygiadau newydd a ddilynodd pan fabwysiadwyd dull Bessemer yn rhai o'r gweithydd haearn, a streiciau yn y pyllau glo, methodd y cwmnïau yr oedd ef yn ben arnynt, megis y gwnaeth amryw eraill yn y cyfnod hwn. Caewyd gweithydd haearn Llwydcoed ac Abernant, ac nis ailagorwyd.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Canlyniadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.