Fe wnaethoch chi chwilio am *
Ar ôl gadael Rhydychen gosodwyd ef mewn bywiolaethau yn esgobaeth Bangor - Trefeglwys yn 1622, Llanwnog yn 1633; ac yn Glasbury, esgobaeth Tyddewi, yn 1639. Trowyd ef allan o Lanwnog o dan Ddeddf y Taeniad (1650-3), ac o ficeriaeth Glasbury, lle y dygwyd cyhuddiadau hyll iawn yn ei erbyn. Yn naturiol ddigon, teimlai'n ffrom iawn ynghylch holl drefn y Taeniad, ac yn enwedig yn erbyn Vavasor Powell, nid yn unig am fod hwnnw'n bennaeth y pregethwyr crwydr ond yn gyfrifol (yn ôl Alexander Griffith) am yr eithafion yr aed iddynt wrth ddymchwel y drefn eglwysig yn Nhrefaldwyn Isaf a sir Faesyfed. Yn 1652 saernïodd betisiwn yn erbyn gweithrediadau'r Ddeddf, a chyhoeddodd bamffled yn pwysleisio'r cwynion; yn 1654 cyfleodd A True and Perfect Relation o'r hyn a ddigwyddodd yn 1652, a'i gyflwyno i'r ' Protector ' newydd; yn yr un flwyddyn cyhoeddodd y Strena Vavasoriensis, pamffled o 28 tudalen. Ynddo teflir golwg dros yrfa Vavasor o'r dechreuadau cyntaf, dychenir ei gredo a'i syniadau (ar ôl eu gwyrdroi'n glyfar), ac nid anghofir ei gasineb at Ddiffynwriaeth Cromwell - y cwbl yn llawn o ansoddeiriau brathog ac o ensyniadau cyrhaeddbell. Derbyniwyd y dystiolaeth unochrog hon - ni thalwyd ymron ddim sylw i'r Vavasoris Examen et Purgamen a ysgrifennwyd gan gyfeillion Vavasor - ymhlith beirniaid eglwysig y drefn Biwritanaidd, yn enwedig gan y Dr. John Walker yn ei Sufferings (gweler 147-70 yn y llyfr hwnnw). Annhebyg y buasai clerigwr mor anhywaith ag Alexander Griffith yn cael y 'fifths' a delid o dan y Ddeddf i bobl a âi allan yn dawel; ond ceir prawf ei fod yn ysgolfeistr awdurdodedig yn y Gelli o 1658 ymlaen i 1660. Gyda'r Adferiad adferwyd yntau i Glasbury; cyn 1665 yr oedd yn rheithor Llyswen yn ogystal; ar ôl 1670 y mae ym mywoliaeth Llanelieu; am rai blynyddoedd wedi 1662, eisteddai yn llys 'consistory' Aberhonddu fel un o gynorthwywyr yr archddiacon. Bu farw yn Glasbury ar 21 Ebrill 1676, ymron ar yr union amser pan ddisgwylid atebion y 'census' gan yr archesgob Sheldon; dyna, mae'n bur debyg, paham nad oes air am Glasbury yn y 'census' hwnnw.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.