GWENLLIAN (bu farw 1136)

Enw: Gwenllian
Dyddiad marw: 1136
Priod: Gruffydd ap Rhys ap Tewdwr
Plentyn: Gwladus ferch Gruffydd
Plentyn: Maredudd ap Gruffudd ap Rhys
Plentyn: Rhys ap Gruffydd
Rhiant: Angharad ferch Owain ab Edwin
Rhiant: Gruffudd ap Cynan
Rhyw: Benyw
Maes gweithgaredd: Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Milwrol
Awdur: Thomas Jones Pierce

Merch Gruffydd ap Cynan ac Angharad, merch Owain ab Edwin. Daeth yn wraig Gruffydd ap Rhys yn fuan wedi 1116; ei mab enwocaf oedd yr Arglwydd Rhys. Pan gychwynnodd y gwrthryfel Cymreig mawr yn 1136 arweiniodd Gwenllian, yn absenoldeb ei gŵr, y cyrch ar amddiffynfa'r Normaniaid yng Nghydweli a chafodd ei lladd wrth ymladd y tu allan i'r dref mewn man a elwir yn Maes Gwenllian hyd heddiw.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.