HOPKINS, EVAN (bu farw 1888), daearegwr

Enw: Evan Hopkins
Dyddiad marw: 1888
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: daearegwr
Maes gweithgaredd: Natur ac Amaethyddiaeth; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Abertawe. Bwriodd ei ieuenctid yng ngweithiau haearn Penydarren, Dowlais, a Rhymni. Yn 1833 aeth i Ddeheudir America i arolygu mwyngloddiau aur ac arian; yn nes ymlaen aeth yno drachefn, ar ymchwil yn yr Andes ac yn Panama; ac yn 1852 bu yn Awstralia 'n gynghorydd i gwmnïau mwyngloddiau aur. Yr oedd yn arbenigwr ar y tynfaen ('magnet').

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.