Ganwyd 16 Mai 1841 yn Narowen, yn ŵyr o du ei dad i un o ymddiriedolwyr cyntaf capel Wesleaidd Tŷ Cerrig. Addysgwyd ef yng Ngholeg Normal Abertawe (1861-2). Bu'n bregethwr cyflogedig ar gylchdaith Pwllheli (1862-5), ac wedi hynny yn weinidog ar gylchdeithiau Amlwch (1865), Abergele (1867), Blaenau Ffestiniog (1869), Llanberis (1872), Bagillt (1874), Llanfaircaereinion (1877), Tregarth (1880), Bangor (1883), Dolgellau (1886), Coedpoeth (1889), Llanrhaeadr Mochnant (1892), Manceinion (1894), yr Wyddgrug (1897), Conwy (1900), Manceinion (1903), Machynlleth (1905), Coedpoeth (1907). Ymneilltuodd yn 1910; bu farw ym Mangor 16 Chwefror 1934. Yr oedd yn llywydd y gymanfa Wesleaidd yn 1906.
Ysgrifennodd ysgrifau lawer i'r Eurgrawn Wesleaidd, yn cynnwys cyfres ar 'Emynyddiaeth Wesleyaidd Gymreig' (1902-3). Ymysg ei lyfrau cyhoeddedig gellir enwi 'Esboniad yr Efrydydd' ar Rhufeiniaid 1889, Ioan 1891, Hebreaid 1892, Matthew 1895, Marc 1898, a Luc 1899; llyfrau athrawiaethol fel Rhagoriaeth Moesoldeb y Beibl 1880, Damcaniaeth Dadblygiad 1880, Athroniaeth Foesol y Beibl 1883, ac eraill; llawlyfr ar drefn y Wesleaid, Y Rheoliadur, 1885; a braslun gwerthfawr o hanes ei gyfundeb, Methodistiaeth Wesleyaidd Gymreig, 1900. Daliodd hefyd swyddi taleithiol, a bu'n aelod o fyrddau ysgol Abermaw a'r Wyddgrug.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.