JONES, MORRIS CHARLES (1819 - 1893), hynafiaethydd, a chychwynnydd y Powysland Club, Welshpool

Enw: Morris Charles Jones
Dyddiad geni: 1819
Dyddiad marw: 1893
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hynafiaethydd, a chychwynnydd y Powysland Club, Welshpool
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant
Awdur: John Davies Knatchbull Lloyd

g. 9 Mai 1819 o hen deulu yn y Trallwng. Bu'n gyfreithiwr yn Lerpwl am flynyddoedd. Yn 1867 paratôdd gylchlythyr a'i anfon at lawer o bobl, ‘Proposals for the establishment of the Powysland Club,’ a phan ffurfiwyd y gymdeithas efe oedd ei hysgrifennydd cyntaf. Bu'n cyfrannu erthyglau am chwarter canrif i Montgomeryshire Collections, cylchgrawn y gymdeithas; yn eu plith y mae ‘The feudal barons of Powys,’ ‘The territorial divisions of Montgomeryshire,’ ‘Llanllugan Nunnery,’ ‘Devolution of the Manors of Arwystli and Cyfeiliog,’ ‘The Abbey of Ystrad Marchell,’ a ‘Materials for a History of Welshpool’ (gw. rhestr yn Mont. Coll., xxvii, ynghyd â nodyn coffa). Yr oedd yn un o sefydlwyr y Powysland Museum. Bu f. yn y Gungrog, Trallwng, 27 Ionawr 1893.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/