Fe wnaethoch chi chwilio am Dafydd Jones o Drefriw

Canlyniadau

JONES, DAVID (1708? - 1785), o Drefriw, bardd, casglwr llawysgrifau, cyhoeddwr, ac argraffydd

Enw: David Jones
Dyddiad geni: 1708?
Dyddiad marw: 1785
Priod: Gwen ferch Richard ap Rhys
Plentyn: Ismael Davies
Rhiant: Jane ferch Elizabeth
Rhiant: Sion ap Dafydd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd, casglwr llawysgrifau, cyhoeddwr, ac argraffydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Griffith Milwyn Griffiths

Ychydig a wyddys am ei eni a'i ieuenctid. Rhoddir enw ei dad fel Siôn ap Dafydd yn NLW MS 476E a NLW MS 3107B , ac enw ei fam fel Jane ferch Elizabeth Rowland yn B.M. Add. MS. 14888, a Jane ferch Dafydd ap Sion yn NLW MS 3107B . Enw ei wraig oedd Gwen ferch Richard ap Rhys (NLW MS 3107B ), ond ni wyddys dyddiad y briodas; ceir yng nghofrestri plwyf Trefriw gofnod am briodas rhwng rhyw David Jones a Gwenna Prichard ar 27 Ionawr 1734-5.

Fel bardd ysgrifennodd gryn dipyn, ond nid enillodd fri mawr. Ei brif bwysigrwydd yw fel golygydd y flodeugerdd o farddoniaeth a elwir Blodeu Gerdd Cymry, sef Casgliad o Caniadau Cymreig gan amryw Awdwyr o'r oes ddiwaethaf , 1759. Golygodd hefyd weithiau fel Histori Nicodemus , 1745, hen gyfieithiad Cymraeg o'r 'Gospel of Nicodemus,' Egluryn Rhyfedd , 1750, a Cydymaith Diddan , 1766, y ddau olaf yn gasgliadau o farddoniaeth a rhyddiaith. Yr oedd yn ddiwyd iawn hefyd fel casglwr hen lawysgrifau Cymraeg, a cheir ffrwyth ei lafur yng nghasgliadau'r Amgueddfa Brydeinig a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Yn ddiweddarach yn ei fywyd daeth gwasg argraffu i'w feddiant, ac ymsefydlodd fel argraffydd yn Nhrefriw. Dechreuodd argraffu yn 1776, a'r gwaith mawr cyntaf a ddaeth o'i wasg oedd Historia yr Iesu Sanctaidd yn 1776, cyfieithiad Cymraeg o'r 'History of the Holy Jesus' gan William Smith. Parhaodd i argraffu hyd ei farwolaeth, 20 Hydref 1785.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Canlyniadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.