Fe wnaethoch chi chwilio am *

Canlyniadau

JONES, MORDECAI (1813 - 1880), hyrwyddwr Ysgolion Brutanaidd, perchennog gweithydd glo, etc.

Enw: Mordecai Jones
Dyddiad geni: 1813
Dyddiad marw: 1880
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hyrwyddwr Ysgolion Brutanaidd, perchennog gweithydd glo, etc.
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Addysg
Awdur: Watkin William Price

Ganwyd 2 Mai 1813 yn Aberhonddu, mab Richard Jones, adeiladydd ar gamlas Aberhonddu, a oedd yn nai i Robert Jones, Rhos-lan. Addysgwyd ef ar gost rhyw Lloyd, marsiandwr glo, Aberhonddu. Yn ddiweddarach dilynodd Jones ei noddwr fel perchennog y busnes; yr oedd hefyd yn cludo glo a chalch o Lanelli, sir Frycheiniog, i Aberhonddu mewn badau ar y gamlas. Yr oedd ganddo fragdy yn Aberhonddu (1841), prynodd yr Abergavenny Gas Works, ac efe oedd cadeirydd cwmni gwaith nwy Aberhonddu o'r cychwyn. Llwyddodd hefyd yn ei anturiaethau ym myd glo. Efe a agorodd bwll Nantmelyn yng nghwm Dâr, 1866, a phwll y Mardy, yn Rhondda Fach, 1876. Anfonodd y llwyth cyntaf o lo o bwll Mardy i Aberhonddu y dydd y dechreuodd yn y swydd o siryf Brycheiniog (1876). Bu'n faer Aberhonddu yn 1854, yr oedd yn ddirprwy-raglaw yn sir Frycheiniog, ac yn gadeirydd Bwrdd Ysgol Aberhonddu o'r cychwyn hyd 1879. Methodist Calfinaidd ydoedd o ran ei grefydd, a bu'n barod iawn i roddi tir, rhydd-ddaliadol, i adeiladu capeli arno ar ei stad yn Mardy.

Efallai mai ei waith dros addysg sydd yn haeddu mwyaf o glod. Efe oedd un o brif hyrwyddwyr ymdrechion Cymdeithas yr Ysgolion Brutanaidd ('British and Foreign Schools Society') yn Ne Cymru, a bu'n cynorthwyo i gael y Normal School, Aberhonddu, 1846. Ffromodd golygydd The Principality wrtho yn aruthr am ei fod yn cefnogi ymdrechion David Charles III, Trefeca, i gael gan rai hyrwyddwyr addysg (yn wyneb gwrthwynebiad gan Annibynwyr a Bedyddwyr) i fod yn barod i dderbyn y cymorth ariannol a gynigid gan y Llywodraeth er codi ysgolion, etc., ac ar yr un pryd barhau'r mudiad gwirfoddol. Yr oedd yn cefnogi ymdrechion sasiwn y Methodistiaid Calfinaidd yn y Gogledd i gynorthwyo'r ' Cambrian Education Society ' a oedd am sefydlu ysgolion a derbyn grantiau gan y Llywodraeth. Efe hefyd oedd ysgrifennydd pwyllgor (yn cynnwys gweinidogion a blaenoriaid ymhlith y Methodistiaid Calfinaidd) a anfonodd femorandwm at J. P. Kay Shuttleworth ('Committee of Council on Education') yn galw sylw at y pwysigrwydd o gael arolygyddion ysgolion yn medru Cymraeg (Mehefin 1848). Pan gyfarfu llawer o weinidogion Ymneilltuol siroedd Mynwy, Morgannwg, a Brycheiniog mewn cynhadledd ym Merthyr Tydfil, a phenderfynu derbyn grantiau'r Llywodraeth a ffurfio'r ' South Wales British Schools Association, ' dewiswyd Mordecai Jones yn drysorydd y gymdeithas a Syr Benjamin Hall yn llywydd (Y Diwygiwr, Ionawr 1855, 36). Bu farw 30 Awst 1880.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Canlyniadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.