Fe wnaethoch chi chwilio am *
Llwynderw, Sir Gaerfyrddin; ganwyd 1652, mab y Parch. John Lewes, Llysnewydd. Priododd (1), Cecil Lloyd o Fairdre, Sir Aberteifi, a (2), Eleanor Pryce o Rhydybenne. Yr oedd yn achydd digymar, a chasglodd lawysgrifau o Henllys, Penybenglog, Fairdre, a Rhydygors. Ysgrifennodd dros 25 o lyfrau achau wedi eu sylfaenu yn bennaf ar waith David Edwardes. Cynorthwyodd Edward Lhuyd, John Davies (Rhiwlas), Browne Willis, Theophilus Evans, a Hugh Thomas. Medrai ysgrifennu yn rhwydd mewn Lladin, Saesneg, a Chymraeg. Copïwyd y ' Golden Grove Book ' o'i lawysgrifau. Bu farw yn ddiblant fis Rhagfyr 1722. Priododd ei weddw William Lewis (bu farw 1757) o Lanlas, Sir Aberteifi, ac y mae hyn wedi peri llawer o ddryswch yn hanes y ddau ŵr.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.