Fe wnaethoch chi chwilio am *

Canlyniadau

LLOYD, DAVID (1597 - 1663), deon Llanelwy

Enw: David Lloyd
Dyddiad geni: 1597
Dyddiad marw: 1663
Plentyn: Siencyn Llwyd
Rhiant: David Lloyd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: deon Llanelwy
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John James Jones

Ganwyd yn 1597 ym Mherthlwyd, Llanidloes, Sir Drefaldwyn, mab David Lloyd. Ymaelododd yn Rhydychen o Hart Hall yn 1612, a graddiodd yn B.A. yn 1615; ymgorfforodd yng Nghaergrawnt y flwyddyn ddilynol. Daeth yn gymrawd o Goleg All Souls, Rhydychen, yn 1618, B.C.L., 1622, a D.C.L., 1628. Penodwyd ef yn gaplan i 6ed iarll Derby yn 1639. Wedi bod am ysbaid yn rheithor Trefdraeth, sir Fôn, sefydlwyd ef (yng Ngorffennaf 1642) i fywoliaeth Llangynhafal ac (yn Rhagfyr yr un flwyddyn) i ficeriaeth Llanfair Dyffryn Clwyd. Yr un flwyddyn hefyd gwnaed ef yn warden ysgol Rhuthyn. Difreiniwyd ef o'i fywiolaethau gan y Senedd Faith, ond cafodd hwynt yn ôl ar ddychweliad Siarl II, a'i ddyrchafu i ddeoniaeth Llanelwy. Yn 1662 cyflwynwyd iddo ran o waddol Llansannan. Bu farw 7 Medi 1663. Nid oes gofadail i nodi ei fedd yn Rhuthyn, ond y mae ei feddargraff, fel y cyfansoddodd ef ei hunan ef, wedi ei argraffu gan Wood (Athenae Oxonienses, iii, 653). Ynddo y mae'n cyfaddef iddo fod yn orhoff o bleserau bwyta ac yfed. Yr oedd yn eiddgar dros blaid y brenin, ac yn ei ddeiseb am ei adferiad yn 1660 fe ddywed iddo lawer gwaith letya y tywysogion Rupert a Maurice, ac unwaith hefyd y brenin Siarl I ei hunan. Adnabyddir Lloyd yn bennaf fel awdur gwatwargerdd hynaws, The Legend of Captain Jones, 1631, sydd yn disgrifio campau un o forwyr teyrnasiad Elisabeth. Ffrwyth dychymyg yw'r arwr ymffrostgar, ond tebyg ei fod yn nodweddiadol o lawer o'i ddosbarth. Daeth y Legend yn boblogaidd ar unwaith, a chafodd ei argraffu droeon.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Canlyniadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.