Fe wnaethoch chi chwilio am *

Canlyniadau

MILLS, RICHARD ('Rhydderch Hael '; 1809-1844), cerddor

Enw: Richard Mills
Ffugenw: Rhydderch Hael
Dyddiad geni: 1809
Dyddiad marw: 1844
Plentyn: Richard Mills
Rhiant: Jane Mills
Rhiant: Henry Mills
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Cerddoriaeth
Awdur: Gwilym Prichard Ambrose

Ganwyd Mawrth 1809 yn Tynewydd, gerllaw Llanidloes, mab Henry a Jane Mills (ail wraig Henry Mills). Wedi gadael yr ysgol yn 11 oed dechreuodd ddysgu crefft gwehydd. Daeth yn hysbys fel cyfansoddwr emyn-donau pan nad oedd ond 15 oed, gan i'w dôn, ' Maes-y-llan,' gael ei chyhoeddi yn Seren Gomer. Yr oedd yn aelod gweithgar o Gymdeithas Gerddorol Bethel, Llanidloes. Yn 1835 cyhoeddodd Y Gwladgarwr ddarlith ganddo ar y testun, ' Y gelfyddyd o gerddoriaeth.' Cafodd y wobr am emyn-dôn yn eisteddfod 1838 Cymreigyddion y Fenni, ac yn 1840 wobr gyffelyb mewn eisteddfod yn Lerpwl. Yn 1840 ymddangosodd ei Caniadau Seion, a chafwyd Atodiad yn 1842. Cafodd y ddau waith hyn ddylanwad mawr ar ganu cynulleidfaol yng Nghymru, a gellir eu cyfrif yn garreg-filltir ar ffordd gwella'r canu hwnnw. Dyma'r casgliad gorau hyd yn hynny; yr oedd yn cynnwys tonau gan J. Ambrose Lloyd, Rosser Beynon, a Richard Mills ei hunan, ynghyd ag anthemau gan Handel a Haydn. Cafwyd ychwaneg o emyn-donau ac anthemau yn Yr Arweinydd Cerddorol, a gyhoeddwyd mewn tair rhan gan Mills, 1842-5, y drydedd ran wedi ei farw ef; yn y gwaith hwn y cafwyd am y tro cyntaf emyn-dôn Almaenaidd ('Mannheim,' J. S. Bach) mewn casgliad wedi ei gyhoeddi yng Nghymru; ceid yn y gwaith hefyd gyfarwyddiadau mewn canu a cherddoriaeth. Bu gwerthu mawr ar y casgliadau hyn, a bu i ansawdd emyn-donau Mills a gwaith rhai eraill a gyhoeddodd ddylanwad er daioni ar safon canu cynulleidfaol; bu yntau hefyd yn darlithio llawer mewn rhai siroedd yng Nghymru ar y pwnc hwn. Bu farw 24 Rhagfyr 1844. Priododd ei weddw â John Pryse.

Mab iddo oedd RICHARD MILLS (1840 - 1903), a aeth â thraddodiad cerddorol y Millsiaid i ardal Rhosllanerchrugog, sir Ddinbych; ganwyd 1 Hydref 1840. Wedi i'w dad farw yn 1844 anfonwyd y bachgen ieuanc i'r Drenewydd, Sir Drefaldwyn, at dad ei fam. Daeth yn ôl maes o law i Lanidloes i fod yn gysodydd cerddoriaeth hen nodiant yn swyddfa ei lysdad John Pryse. Astudiodd gerddoriaeth yn ddyfal, enillodd wobr mewn eisteddfod yn Llanidloes am gyfansoddi tôn, ' Pendref,' ac mewn eisteddfod ddiweddarach (Llanidloes, 1864) cafodd y wobr am gyfansoddi 'canon' i dri llais. O Lanidloes aeth i Wrecsam i wasnaethu Hughes a'i Fab, a bu'n gyfarwyddwr cerddorol i'r ffyrm honno hyd 1877. Pan oedd yn Wrecsam bu'n arweinydd corau yn y dref honno ac yn Broughton a Bangor-is-coed; ef oedd arweinydd côr eisteddfod Wrecsam, 1876. Wedi iddo briodi Sarah Owen, Aberderfyn, Rhosllanerchrugog, yn 1876 sefydlodd (yn 1878) argraffdy yn y lle hwnnw, ac yn 1894 dechreuodd gyhoeddi y Rhos Herald, a pharhau i olygu'r newyddiadur hwnnw tra bu byw. Cyfansoddodd lawer o gerddoriaeth - anthemau megis ' Duw sydd noddfa,' ' Ai gwir yw,' ' Yr Arglwydd yw fy Mugail,' a ' Cân Moses a Chân yr Oen '; canigau megis ' Y Wybren Dlos,' ' Y Dderwen Lydan,' etc.; gweler hefyd Ceinion y Gân. Canwyd llawer ar ei driawd, ' Nid i mi,' a'r ddeuawd, ' Beti Wyn.' Cyfansoddodd a threfnodd lawer o donau - gweler esiamplau yn Rhaglen Cymanfa Ganu Goffa Richard Mills, 1946. Efe a gyfansoddodd y dôn ' Arweiniad.' Bu ' Côr y Rhos ' yn llwyddiannus iawn o dan ei arweiniad ef. Bu farw 18 Mai 1903 a chladdwyd ym mynwent y Rhos.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Canlyniadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.