PRITCHARD, ROBERT, bardd a llongwr (fl. 1730-8).

Enw: Robert Pritchard
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd a llongwr
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Barddoniaeth
Awdur: David Thomas

Yn Blodeu-gerdd Cymry ceir cân grefyddol faith, ag enw ' Robert Pritchard, o Bentraeth, ym Môn, 1738,' o dani. Tebyg mai ef oedd y ' Robert Prichard Poet,' capten y llong fechan, Blessing, a fu'n cario llechi o Abercegin, ger Bangor, o 1730 hyd 1733 - cofnodir amdano ym mhapurau stad y Penrhyn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.