RICHARDS, JOHN ('Isalaw '; 1843 - 1901), cerddor

Enw: John Richards
Ffugenw: Isalaw
Dyddiad geni: 1843
Dyddiad marw: 1901
Rhiant: Mary Richards
Rhiant: Richard Richards
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd 13 Gorffennaf 1843 mewn tŷ a elwid, y King's Head (gosodwyd tabled goffa ar ei dŷ yn 1931), Hirael, Bangor, Sir Gaernarfon, mab Richard a Mary Richards. Hanoedd y tad o Aberdaugleddau, Sir Benfro, a'r fam o Llangwnadl, Llŷn. Addysgwyd ef yn Ysgol Frutannaidd y Garth, Bangor; wedi hynny cafodd ddwy flynedd yn ysgol Shoreland Road, Birmingham, ac yno, o dan gyfarwyddyd Mr. Andrew Deakin, organydd, y cychwynnodd gyda cherddoriaeth. Dychwelodd i Fangor a dysgodd gyfundrefn y Tonic Sol-ffa, a sefydlodd ef a Thomas Williams, arweinydd canu 'r Tabernacl (Methodistiaid Calfinaidd), ddosbarth i ddysgu Sol-ffa - y cyntaf ym Mangor a'r cylch. Yr oedd ganddo lawysgrifen ragorol, a gallai drosi y naill nodiant i'r llall, yr Hen Nodiant a Sol-ffa, a bu o gynhorthwy i gyfansoddwyr ei gyfnod mewn adysgrifennu, cywiro, a pharatoi eu cyfansoddiadau i'r wasg. Yr oedd hefyd yn ysgrifennydd artistig ar anerchiadau goreuredig a galwad cyson arno i'w hysgrifennu. Ysgrifennodd lawer o ysgrifau i gylchgronau ar gerddoriaeth, ac ysgrifennodd ffug-chwedl, ' Teulu Min y Môr,' i'r Cymro. Cyfansoddodd nifer mawr o ddarnau cerddorol, a chyhoeddodd Caneuon Isalaw, ' Mola'r Iôr, O Jerusalem,' ac amryw eraill. Canwyd llawer ar ei ganig, ' Seren Unig,' ac erys ei ranganau ar emynau Ann Griffiths a ' Glan Geirionydd ' - ' Bydd melus gofio y cyfamod ' ac ' Enaid cu, mae dyfroedd oerion ' - yn boblogaidd o hyd. Cyfansoddodd lawer o donau, a cheir hwy yng nghasgliadau tonau yr enwadau crefyddol. Cenir ei dôn, ' Sanctus,' 8.7.D., gan Gymry ym mhob rhan o'r byd. Yr oedd ar gais Côr Philharmonic Lerpwl yn cyfansoddi gwaith ar gyfer y Pasg, ' Thy task is ended,' ond ni chafodd orffen y gwaith. Bu farw 15 Medi 1901 a chladdwyd ef ym mynwent gyhoeddus Glanadda, Bangor.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.