ROBERT, GRUFFYDD (c. 1522 - c. 1610), offeiriad, gramadegydd, a bardd

Enw: Gruffydd Robert
Dyddiad geni: c. 1522
Dyddiad marw: c. 1610
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: offeiriad, gramadegydd, a bardd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Griffith John Williams

Ni wyddom pa le y ganwyd ef, er bod ymchwil ddiweddar yn tueddu i brofi mai gŵr o sir Gaernarfon ydoedd. Ni wyddom, chwaith, pa le yr addysgwyd ef, oherwydd ni ellir bod yn sicr mai ef yw'r ‘Griffin Roberts’ a oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg Eglwys Crist yn Rhydychen rhwng 1550 a 1555. Er hynny, fe'i gelwir yn ‘Griffin Roberts, clerk, M.A.’, yr hyn sy'n awgrymu iddo fod naill ai yn Rhydychen neu yng Nghaergrawnt. Yn 1558, fe'i penodwyd yn archddiacon Môn, ond gan i'r frenhines Mari farw ryw fis wedi hynny, gellir bwrw mai byr fu ei arhosiad yno. Gwrthododd gydnabod awdurdod y frenhines Elisabeth mewn materion ysbrydol, ac aeth ef a Morys Clynnog i'r Cyfandir. Arhosodd Morys Clynnog yn Brussels a Louvain, ac efallai mai dyna hanes Gruffydd Robert, yntau, er y gellid barnu wrth a ddywedir ar ddechrau'r gramadeg iddo deithio trwy lawer o wledydd y Cyfandir. Pa un bynnag, yr oeddynt ill dau yn gaplaniaid yn yr ysbyty Seisnig yn Rhufain yn 1564. Yno enillodd sylw'r cardinal Carlo Borromeo, a phan wnaethpwyd y gŵr hwnnw'n archesgob Milan, aeth Gruffydd Robert gydag ef, ac fe'i penodwyd yn un o gyffeswyr yr archesgob a hefyd yn ganon diwinyddol yn yr eglwys gadeiriol. Cyfeirir ato yng nghofiant Borromeo, a cheir rhai manylion am y gorchwylion a gyflawnai yn y llythyrau hynny o waith ei gyfaill, Owen Lewis, sydd yn y Biblioteca Ambrosiana ym Milan. Tua mis Tachwedd 1582, mynnai Borromeo iddo roddi heibio'i waith fel canon diwinyddol, a hynny oherwydd na allai siarad Eidaleg yn ddigon rhugl. Ni wyddom pa beth a ddigwyddodd iddo, ond arhosodd ym Milan, ac yno yr oedd yn 1596-7 pan yrrodd lythyr at Rosier Smyth. Ni wyddom chwaith pa bryd y bu farw, na pha le y claddwyd ef. Fe'i gelwid gan ei gyfoeswyr yn ‘Doctor,’ ond ni ddywedir pa le na pha bryd yr enillodd y ddoethuriaeth.

Y mae'n bosibl iddo gyhoeddi llyfryn bychan o farddoniaeth tua 1560-3. Yna, yn 1567, ymddangosodd rhan gyntaf ei ramadeg, Dosparth Byrr ar y rhan gyntaf i ramadeg cymraeg, a argraffwyd ym Milan. Ni chyhoeddwyd yr ail ran (sy'n trafod y rhannau ymadrodd) cyn tua 1584, a gellir bwrw bod y drydedd (ar y cynganeddion) a'r bedwaredd (ar y mesurau) wedi ymddangos cyn 1594. Gellir edrych ar ddau lyfryn bychan arall, sy'n cynnwys casgliad o farddoniaeth Cymraeg, a dechrau cyfieithiad o lyfr Cicero, De Senectute, fel atodiadau i'r gramadeg. Ef oedd y cyntaf i geisio dadansoddi'r iaith Gymraeg. Y peth pwysicaf a ddaw i'r golwg ydyw'r ymgais i wneuthur y Gymraeg yn ‘iaith dysg,’ yn offeryn cymwys i'r sawl a fynnai drafod yr holl bynciau a gâi sylw'r dyneiddwyr. Ac wrth ddangos fel y gellid cyfoethogi geirfa'r iaith, y mae'n ymdrin â'r elfen Ladin yn y Gymraeg. Nid oedd ganddo wybodaeth fanwl am gerdd dafod, ond eto, dengys yr adrannau ar y gynghanedd a'r mesurau fod ganddo ddoniau mawr fel beirniad llenyddol. Dyma un o lyfrau Gymraeg pwysicaf cyfnod y Dadeni. Ac y mae'n bwysig hefyd yn hanes rhyddiaith Gymraeg. Dangosodd Saunders Lewis mai Gruffydd Robert yw'r meistr Cymraeg cyntaf, a'r mwyaf hefyd, ar arddull arbennig y Dadeni Dysg, yr arddull Giceronaidd.

Ef a gyhoeddodd yr Athravaeth Gristnogavl dros Forys Clynnog ym Milan yn 1568. Priodolwyd Y Drych Cristianogawl, 1585, iddo, a cheir ei enw ar ddiwedd y rhagymadrodd, ond y mae cryn amheuaeth ynglŷn â hyn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/