WILLIAMS, THOMAS (1658 - 1726), clerigwr a chyfieithydd

Enw: Thomas Williams
Dyddiad geni: 1658
Dyddiad marw: 1726
Rhiant: Elizabeth Williams
Rhiant: William Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr a chyfieithydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Thomas Iorwerth Ellis

Ganwyd yn yr Eglwys-bach, sir Ddinbych, yn 1658, mab y Parch. William Williams ac Elizabeth ei wraig. Ymaelododd ym Mhrifysgol Rhydychen o Goleg Iesu, 3 Ebrill 1674, a graddio'n B.A. yn 1677 ac M.A. yn 1680. Tybir iddo ddilyn ei dad yn rheithor Llansansiôr, ger Abergele, yn 1684; a daliodd efallai reithoraeth Llanarmon Dyffryn Ceiriog o 1687 hyd 1702. Yr oedd yn ficer Llanrwst o 1690 hyd 1697, ac yn rheithor Dinbych o 1697 hyd ei farwolaeth yn 1726. Cyfieithodd nifer o weithiau i'r Gymraeg, yn eu plith Ymadroddion Bucheddol ynghylch Marwolaeth (Sherlock), 1691; Pregeth o achos y dymmestl Ddinistriol, 1705; Eglurhad o Gatecism yr Eglwys (Beveridge), 1708; Annogaeth Fer i'r Cymmun Sanctaidd (Assheton), 1710; a Cydymaith i Ddyddiau Gwyliau ac Ymprydiau Eglwys Loegr, 1712 (cyf. o waith Robert Nelson).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.