Fe wnaethoch chi chwilio am edward jones
Fel mab (ganwyd 13 Mai 1737) i Owen Williams o'r Cefn Coch yn Llansadwrn, a pherchennog hefyd ar Dregarnedd a Threffos, a'i fam yn ferch Hendre Hywel ger Llangefni, gwaith cymharol hawdd fu i Thomas Williams fyned i fyny llawes gwŷr mawr Môn; ef oedd prif drefnydd papurau stad Bodior; ef a wariodd gryn 10 mlynedd yn ceisio cael rheswm allan o'r ddeuddyn ystyfnig, William Hughes, sgwïer y Plas Coch, a'i fab, y William Bulkeley Hughes cyntaf; ef hefyd (1791) a lwybreiddiodd brynu Plas yn Llanfair gan yr iarll Uxbridge oddi wrth y bonheddwr John Lewis o Lanfihangel (Tre'r Beirdd). Rai blynyddoedd cyn hynny, o gwmpas 1785, daeth Williams i gyswllt agos a'r iarll ac yn brif reolwr ar weithiau copr Mynydd Parys, gweithiau a berchenogid gan Uxbridge a theulu Llysdulas; ymddiriedwyd eu datblygu gan y ddwy ochr i ddwylo yr un gŵr. Bu'r llwyddiant yn rhyfeddol; nid yn unig allforid miloedd o dunelli o gopr, ond tyfodd amryfal ddiwydiannau yn sgil y copr - adeiladau mawrion yn Ravenhead a Stanley, ffwrneisi toddi yn Amlwch ei hun, clwstwr o felinau yn ardal Holywell - a, llynges o fân glud-longau yn dod allan o hafn Porth Amlwch i wynebu'r moroedd. Llwyddodd Williams i gael clust Bwrdd y Llynges (yn ystod y rhyfeloedd â Napoleon), a gwnaed bargeinion proffidiol â Chwmni India'r Dwyrain; parodd ddychryn nid bychan i farsiandwyr mawr Cernyw, cartref cynhenid y diwydiant copr; galwyd ef fwy nag unwaith o flaen pwyllgorau arbennig Tŷ'r Cyffredin i roddi tystiolaeth fel arbenigwr; erbyn 1800 cyfaddefai fod hanner adnoddau'r fasnach yn ei ddwylo, gyda chefndir ariannol yn ymyl miliwn o bunnau. Beth bynnag oedd barn cyfalafwyr Cernyw a masnachwyr pres Birmingham amdano, ' Twm Chwarae Teg ' y gelwid ef ar lafar gwlad ym Môn. Yn naturiol ddigon deuai'r gyfathrach glos ag Uxbridge â Williams i ganol bywyd politicaidd y cyfnod, a gwnaeth gymaint a neb i gael y Pagets, meibion Uxbridge, i mewn yn aelodau seneddol dros sir Fôn a bwrdeisdrefi Arfon o'r flwyddyn 1790 ymlaen; prif fyrdwn ei lythyrau yw pwysleisio mor anhepgor oedd cyfeillgarwch a chyd-ddeall rhwng yr iarll a'r arglwydd Bulkeley o Fiwmares. Nid oedd dim da rhwng yr arglwydd hwnnw a'r esgob Warren o Fangor, yn enwedig gan i'r esgob wrthwynebu ymgais Syr Robert Williams, hanner brawd yr arglwydd, i ddod yn aelod seneddol dros sir Gaernarfon, yn 1796; sarrug oedd osgo Uxbridge yntau at yr esgob oherwydd i Warren ymgyndynnu rhag codi eglwys newydd, yn Amlwch; dyma'r prif ystyriaethau dros gredu taw Williams oedd awdur y pamffled ffyrnig yn condemnio'r esgob a ymddangosodd o dan yr enw Shôn Gwialan yn 1796. Prif ysgogydd efallai, nid awdur; y mae ymron yn sicr mai saernïwr y geiriau siarp a'r brawddegau coeth oedd David Williams (1738 - 1816); sylfaenydd y ' Royal Literary Fund ', ar hynny o bryd yn glerc yng ngwasanaeth Thomas Williams yn Llundain. Mewn llythyr at Uxbridge yn 1788, rhydd Williams rybudd cynnil o'i fwriad ef ei hun i ddod yn aelod seneddol; daeth yn aelod dros Great Marlow yn 1790, a daliodd y sedd hyd ei farwolaeth 30 Tachwedd 1802. Trodd ei ddisgynyddion eu cefnau ar y diwydiant copr; fel meddianwyr stad Craig-y-don a sefydlwyr banciau y cofir amdanynt. Bu amryw yn aelodau seneddol; priododd tair o ferched Thomas Peers Williams, mab i OWEN WILLIAMS (1764 - 1832), aelod seneddol, ac ŵyr i Thomas Williams, ag aelodau o Dŷ'r Arglwyddi, a dwy arall â meibion i arglwyddi; brawd i'r merched hyn oedd Hwfa Williams, gŵr pur amlwg (ef a'i wraig) yn llys Edward VII.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.