Fe wnaethoch chi chwilio am *
Ganwyd yn Esgairgadwyth-fach, plwyf Darowen, Sir Drefaldwyn, c. 1800. Llafurwr a thyrchwr oedd ei dad, a bu yntau'n dilyn y gwaith am ysbaid. Trwy gymorth Pugh o'r Esgair (Llanbrynmair), a'r Parch. Thos. Richards a Miss Richards, Darowen, dysgodd ychydig Gymraeg, Saesneg, a rhifyddiaeth. Symudodd i sir Aberteifi, ac yno y priododd. Tua diwedd ei oes dychwelodd i Ddarowen a bu'n cadw ysgol ym Melinbyrhedyn. Wedi hyn cafodd waith edrych ar ôl y ffordd fawr yng Ngharno, a thrachefn yn nholldy Clater, Pont-dol-goch. Oddi yno aeth i Lanidloes, yna i Lawr-y-glyn i gadw ysgol ddyddiol, ac yn olaf i Ranc-y-mynydd, Dylife. Claddwyd ef yn Nylife, 12 Chwefror 1859, yn 58 mlwydd oed. Ymddangosodd llythyrau o'i eiddo o dro i dro yn Y Gwyliedydd. Anfonodd farddoniaeth i gystadleuaeth rai gweithiau ac y mae awdlau o'i eiddo, i'r ' Diluw,' ' Plaau'r Aifft,' a ' Heddwch,' mewn llawysgrif.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.