JONES, WALTER DAVID MICHAEL (1895-1974), arlunydd a bardd

Enw: Walter David Michael Jones
Dyddiad geni: 1895
Dyddiad marw: 1974
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arlunydd a bardd
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth; Barddoniaeth
Awdur: Luke Thurston

Mae David Jones yn un o artistiaid llenyddol mawr moderniaeth Brydeinig, yn ogystal â bod yn engrafiwr, yn ddarlunydd ac yn arlunydd o bwys, ac yn ysgrifwr medrus. Fe'i ganwyd yn Brockley, swydd Gaint, ar 1 Tachwedd 1895, y trydydd o blant James ac Alice Jones, ac fe'i bedyddiwyd yn Walter David (erbyn iddo fod yn naw oed roedd wedi llwyddo i ollwng ei enw cyntaf, gan ei ystyried yn rhy Eingl-Sacsonaidd). Pan gafodd droëdigaeth at Gatholigiaeth yn 1921, mabwysiadodd yr enw ychwanegol Michael. Brodor o Dreffynnon, Sir y Fflint, oedd ei dad, James Jones (1860-1943), ac fe symudodd i Lundain yn 1883 i weithio fel argraffydd i'r Christian Herald. Roedd ei fam, Alice Ann (1856-1937), yn ferch i Ebenezer Bradshaw, saer llongau a hwylbrenni o Rotherhithe, a honnai fod ei chyndeidiau ar ochr ei mam o dras Eidalaidd; cyn ei phriodas roedd wedi gweithio fel athrawes gartref. Yn 1910, daeth profedigaeth drasig i ran y teulu pan fu farw Harold, brawd hŷn David, o'r ddarfodedigaeth.

Yn 1909, yn bedair ar ddeg oed, dechreuodd Jones astudio yn Ysgol Gelf Camberwell. Dysgodd luniadaeth gydag A. S. Hartrick, a'i cyflwynodd i Walter Sickert, dylanwad artistig allweddol y daeth Jones i'w adnabod yn bur dda yn nes ymlaen. Hartrick hefyd a agorodd lygaid y disgybl ifanc i'r datblygiadau diweddaraf mewn arlunio Ôl-Argraffiadol (er i Jones nodi iddo fod yr adeg honno yn 'hollol ddryslyd o ran swyddogaeth y celfyddydau yn gyffredinol'). Pan ddechreuodd y rhyfel yn Awst 1914, penderfynodd Jones ymrestru, ond fe'i gwrthodwyd ddwywaith, ac ni lwyddodd i ymuno â 15fed Bataliwn 'Cymry Llundain' y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig tan Ionawr 1915. Gwasanaethodd fel preifat ar y ffrynt o Ragfyr 1915, gan gymryd rhan ym mrwydr Coed Mametz yng Ngorffennaf 1916 (brwydr y rhoddodd adroddiad barddonol amdani yn In Parenthesis). Yn sgil anafiadau a salwch, bu Jones yn gwella yn Lloegr am gyfnodau yn ystod y rhyfel, ond dychwelodd i'w fataliwn yn Ffrainc bob tro. Ar ddiwedd y rhyfel yn Nhachwedd 1918 trosglwyddwyd ef i Limerick ar gyfer y gwaith beichus ac annifyr o gynnal y drefn yn ystod y gwrthryfel yn Iwerddon.

Ni ollyngwyd Jones o'r fyddin tan Ionawr 1919; a diolch i gymorthdal i gyn-filwyr gallai ailgydio yn ei astudiaethau wedyn yn Ysgol Gelf Westminster. Yn ystod ei amser fel myfyriwr yno dechreuodd Jones fynychu'r Offeren Gatholig yn Eglwys Gadeiriol Westminster gerllaw, ac ym Medi 1921 trodd at Gatholigiaeth (er mawr ofid i'w dad a oedd yn anghydffurfiwr Protestannaidd). Profiad cynhyrfus iawn a ddaeth i ran Jones yn ystod y rhyfel oedd digwydd gweld offeiriad yn gweinyddu'r Offeren i filwyr mewn ysgubor adfeiliedig ger y ffrynt: yn wir, daeth y foment honno'n epiffani neu'n drobwynt ysbrydol iddo. Yn Ionawr 1921 cwrddodd ag Eric Gill, gŵr a oedd wedi troi at Gatholigiaeth yn ddiweddar ac a gafodd ddylanwad aruthrol ar Jones trwy ei weledigaeth esthetig-grefyddol a'i ddulliau artistig. Trwy gydol y 1920au bu Jones yn gysylltiedig â 'brawdoliaeth grefyddol' Gill, grŵp o artistiaid a chrefftwyr Catholig seiliedig yn y lle cyntaf yn Ditchling yn Sussex ac wedyn, o 1924 hyd 1928, yng Nghapel-y-ffin yn y Mynyddoedd Duon. Trwy weithio gyda Gill dysgodd Jones sgiliau engrafio pren, llythrennu ac argraffu, a chymerodd ran mewn trafodaethau grŵp helaeth ar ddiwinyddiaeth, athroniaeth a theori celf. Yn 1924, dyweddïodd â Petra, un o ferched Gill; parodd y dyweddïad tan 1927, pan dorrwyd ef ganddi hi. Er i Jones gael sawl perthynas agos â merched (a bod mewn cariad angerddol yn aml), arhosodd yn hen lanc ar hyd ei oes.

Yn 1928 aeth Jones gyda Gill ar daith i Ffrainc, ac ar ôl y daith honno profodd gyfnod dwys o greadigrwydd artistig a barodd hyd 1932. Yn ystod y cyfnod hwnnw cynhyrchodd gannoedd o luniau a drafft cyntaf In Parenthesis. Yn y cyfnod hwn hefyd y blagurodd cyfeillgarwch Jones â nifer o ffrindiau agos, yn enwedig Harman Grisewood, Jim Ede a Tom Burns, criw o ddeallusion Catholig ifainc yn ardal Llundain. Datblygodd perthynas angerddol rhyngddo a'r bendefiges Prudence Pelham hefyd, a dechreuodd dderbyn cymorth ariannol gan y noddwraig gefnog Helen Sutherland. Roedd yn aelod o gymdeithas Ben Nicholson, y 'Seven and Five Society', ac yn ystod y blynyddoedd hyn bu Jones yn dangos ei waith mewn nifer o arddangosfeydd o fri.

Yn 1932 dioddefodd Jones chwalfa nerfol ddifrifol, gyda chyfnod hir o anhunedd a'i rhwystrodd rhag gweithio am sawl blwyddyn, gan ei adael yn ysglyfaeth i gyflwr o iselder (a alwai ef yn 'Rosie') a fyddai'n dychwelyd o dro i dro ar hyd ei oes. Achosodd y salwch hwn oedi hir gyda'r gwaith o orffen In Parenthesis, ac nis cyhoeddwyd (gan Faber) tan 1937. Pan ymddangosodd y llyfr o'r diwedd cafodd glod uchel gan T. S. Eliot a W. B. Yeats, a dyfarnwyd Gwobr Hawthornden iddo yn 1938.

Efallai mai In Parenthesis yw'r ymdriniaeth fodernaidd fwyaf â phrofiad gwirioneddol milwr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn gymysgfa rydd o ryddiaith a barddoniaeth, mae'r testun yn adrodd hanes John Ball, sy'n sefyll dros bob milwr, a'r 'many men so beautiful' a wasanaethodd wrth ei ochr. Mae'r gwaith yn gyforiog o gyfeiriadau at Hopkins, Lewis Carroll, Coleridge, Shakespeare, Malory a'r Gododdin, yn ogystal ag at fodernwyr fel Eliot a Joyce. Rhoddir llais i gymhlethdod y gerdd - yr ymdriniaeth â gwrthdrawiadau a rhaniadau diwylliant Prydain ar draws ei hanes, y teimlad bod y rhyfel yn brawf rhyfedd a datguddiol ar y diwylliant hwnnw-gan y persona mytholegol Dai Greatcoat (y dywedir amdano 'he articulates his English with an alien care'), sy'n cyfarch y darllenydd yn uniongyrchol mewn un man fel hyn: 'You ought to ask: Why, / what is this, / what's the meaning of this.' Yn yr amwysedd hwn - a 'this' yn golygu naill ai'r gerdd neu'r rhyfel - gwelwn Jones yn defnyddio anawsterau dehongli ei arddull fodernaidd yn fodd i gyfleu enigma sylfaenol y rhyfel, ei her ddigynsail i holl strwythur hunan-ddealltwriaeth ddynol. Yn sgil yr oedi hir cyn cyhoeddi In Parenthesis, gyda rhyfel arall ar y gorwel, gwelai Jones ei gerdd yn neges frys i'w gyfoedion (fe anfonodd gopi at y prif weinidog Neville Chamberlain).

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd dewisodd Jones (braidd yn ddewr) aros yn Llundain, a daliodd ati i weithio gyda chryn lwyddiant fel arlunydd ac fel awdur, gan gyhoeddi nifer o ysgrifau ac arddangos ei waith yn aml. Yn 1944 datblygodd dechneg newydd o arysgrifau peintiedig, lle trawsnewidir y testun gan ddefnyddio paent a chreonau cwyr i wneud i'r llythrennau edrych fel petaent wedi eu cerfio ar garreg hynafol. Erbyn diwedd y rhyfel roedd Jones, mewn gwirionedd, wedi dod yn un o ffigyrau mwyaf blaenllaw celf gyfoes Prydain.

Yn 1946 dioddefodd Jones ei ail chwalfa nerfol fawr, ac o wanwyn 1947 treuliodd chwe mis yn Bowden House, cartref gofal seiciatrig yng ngogledd Llundain, lle cafodd ei drin gan y seicotherapydd Dr Bill Stevenson; ni allai ddychwelyd i fyw'n annibynnol tan Ionawr 1948. Gan barhau i weithio'n galed fel arlunydd ac awdur, cyhoeddodd nifer o adolygiadau ac ysgrifau, ac yn 1951 cwblhaodd ei ail waith llenyddol mawr, The Anathemata. Y testun hir a drylliog hwn - 'very probably the finest long poem written in English this century' yn ôl W. H. Auden - yw gwaith mwyaf uchelgeisiol Jones. Yn waith trofaus a ddisgrifiwyd gan Thomas Dilworth fel 'great wandering work', mae'n datblygu myfyrdod rhyngdestunol dwys ar 'Fater Prydain', gan symud ar draws ystod pensyfrdanol o gyd-destunau, o'r daearegol i'r diwylliannol, o'r hanesyddol i'r mytholegol. Mae adran ganolog, 'Redriff', yn cynnwys Eb Bradshaw, taid Jones ar ochr ei fam, sy'n lleisio gwrthsafiad doeth i ideolegau cynhennus. Fel y dechreua'r gerdd gyda dyrchafiad yr aberth yn yr Offeren, felly hefyd y daw i uchafbwynt gyda'r offeiriad yn codi'r ffiol, gan arysgrifo ei thema ganolog ar ffurf cylch gwaredigol Cristnogol.

'Mae Cymru', meddai Pennar Davies, 'yn hanfodol i feddwl David Jones.' Ymuniaethai Jones yn gryf â thras a diwylliant ei dad o Gymro, a thrwy ei gyfeillgarwch diweddarach â Saunders Lewis a Valerie Wynne-Williams daeth yn rhan o drafodaethau ar genedlaetholdeb Cymreig a thwf Plaid Cymru. Ond byddai bob amser yn ystyried yr ymgyrch dros annibyniaeth ddiwylliannol a gwleidyddol i Gymru fel rhan o 'Fater Prydain': mewn geiriau eraill, fe'i cysylltai â'r hyn a welai ef yn draddodiad bywiol o grefydd a gweithgarwch artistig a flodeuasai yn niwylliannau Celtaidd cyn-fodern yr ynysoedd hyn ac a oedd yn parhau mewn rhai arferion artistig yn yr oes fodern. Dyna'r traddodiad y ceisiai Jones ei goffáu a'i ddathlu yn ei waith celf ac yn 'harmoni amlweddog' (chwedl Dilworth) ei waith llenyddol.

Dyrchafwyd Jones yn CBE yn 1955 ac yn 'Companion of Honour' yn 1974. Enillodd ei waith lawer o wobrau ac anrhydeddau, a derbyniodd radd Dlitt er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1960. Bu farw ar 28 Hydref 1974 yng nghartref gofal Calvary yn Sudbury Hill, Harrow, wedi rhai blynyddoedd o waeledd cynyddol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2015-02-10

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.