Fe wnaethoch chi chwilio am 1941

Canlyniadau

WOOLLER, WILFRED (1912-1997), cricedwr a chwaraewr rygbi

Enw: Wilfred Wooller
Dyddiad geni: 1912
Dyddiad marw: 1997
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cricedwr a chwaraewr rygbi
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: D. Huw Owen

Ganwyd Wilfred Wooller yn Wentworth, Church Road, Llandrillo yn Rhos, sir Ddinbych, ar 20 Tachwedd 1912, yn fab i Wilfred Wooller, adeiladwr a chontractiwr, a'i wraig Ethel (ganwyd Johnson, bu farw 1924). Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg John Bright, Llandudno ac Ysgol Rydal a Choleg Crist, Caergrawnt. Priododd 1) Gillian Windsor-Clive (1922-1961), Castell Sain Ffagan yn 1941, ysgarwyd yn 1946, a 2) Enid Mary James o Gwm Ogwr yn 1948. Bu tri mab a dwy ferch o'r ail briodas.

Ac yntau'n dal yn ddisgybl yn Ysgol Rydal, chwaraeodd rygbi i glwb Sale, ac yna i Gymru yn 1933 yn erbyn Lloegr yn y gêm gofiadwy pan enillodd Cymru am y tro cyntaf yn Twickenham. Enillodd Wooller 18 cap rhwng 1933 a 1939. Roedd yn chwaraewr allweddol yn y fuddugoliaeth dros Seland Newydd yn 1935, ac ef oedd capten Cymru yn erbyn Iwerddon yn 1937. Yn Las Caergrawnt yn 1933, 1934 a 1935, chwaraeodd i glwb Caerdydd wedi 1936, gan fod yn gapten y tîm yn nhymorau 1938-9 a 1939-40.

Chwaraeodd griced i Fae Colwyn a sir Ddinbych hefyd tra'n dal yn Ysgol Rydal, ac yna i Brifysgol Caergrawnt yn 1935 a 1936, gan felly ddod yn Las Dwbl. Wedi gadael y Brifysgol gyda gradd mewn archaeoleg ac anthropoleg yn 1936, symudodd i Gaerdydd i weithio ym musnes allforio glo G.L.M. a leolwyd yn Nociau Caerdydd. Ymunodd â chlwb criced Sain Ffagan cyn chwarae ei gêm gyntaf i Forgannwg yn 1938 pan gipiodd dair wiced am 22 rhediad yn ei gyfnod bowlio cyntaf a chafodd ffigurau o bum wiced am 90 rhediad yn y batiad cyntaf. Parhaodd i ragori fel bowliwr cyflym-ganolig a batiwr taro'n galed, gan sgorio ei gant cyntaf a chipio pum wiced am 69 rhediad yn y fuddugoliaeth dros India'r Gorllewin yn 1939. Tra'n filwr yn ne-ddwyrain Asia yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fe'i cipiwyd yn garcharor yn 1942 a'i ddal yng ngharchar drwg-enwog Changi yn Singapore tan ddiwedd y rhyfel.

Wedi'r rhyfel ail-gydiodd yn ei yrfa fel cricedwr a chynorthwyodd ymdrechion J. C. Clay i ail-adeiladu clwb Morgannwg. Fe'i penodwyd yn is-ysgrifennydd yn 1946 a chapten yn 1947 pan sgoriodd fwy na 1,000 o rediadau am y tro cyntaf, a rhannu partneriaeth record seithfed-wiced o 195 gyda Willie Jones yn erbyn swydd Gaerhirfryn, a chipio 79 wiced. Yn gapten cadarn, arweiniodd Forgannwg yn 1948 i'w teitl pencampwriaeth sirol cyntaf. Yr oedd yn faeswr coes-fer eofn, ac yn y 1950au mi fyddai yn aml yn agor y batio a'r bowlio. Yn 1954, pan oedd yn 41 mlwydd oed, llwyddodd i gyflawni'r dwbl, gan sgorio 1,059 o rediadau a chipio 107 o wicedi. Mae'n bosib mai ymrwymiadau busnes, gan gynnwys ei fusnes yswiriant, a'i rhwystrodd rhag chwarae i Loegr, ond bu'n ddewiswr i dîm prawf Lloegr o 1955 tan 1962.

Er gwaethaf dadleuon achlysurol gyda phwyllgor y clwb, parhaodd yn gapten tan ei ymddeoliad fel chwaraewr yn 1960, a chwaraeodd unwaith eto yn 1962. Gwasanaethodd fel ysgrifennydd y clwb o 1961 tan 1978, ac fe'i hetholwyd yn Llywydd yn 1991. Roedd ei weithgareddau eraill ar y maes chwarae yn cynnwys chwarae pêl-droed i Dref y Barri a Dinas Caerdydd, gan daro tair pan yn flaenwr i Ddinas Caerdydd. Hefyd chwaraeodd sboncen i Gymru a bowlio i Glwb Athletig Caerdydd.

Bu hefyd yn sylwebydd chwaraeon amlwg, yn ysgrifennu am rygbi a chriced i'r Sunday Telegraph a sylwebu ar griced i BBC Wales; un achlysur nodedig oedd ei sylwebaeth pan darodd Gary Sobers chwe chwech mewn un pelawd yn Abertawe yn 1968. Roedd yn barod iawn i ymuno'n frwd mewn materion dadleuol ac roedd yn amddiffynnydd di-flewyn-ar-dafod o deithiau timau rygbi De Affrica ym Mhrydain.

Bu Wilfred Wooller farw yng Nghaerdydd ar 10 Mawrth 1997, ac fe'i claddwyd ym mynwent Thornhill ddeuddydd yn ddiweddarach.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2015-02-18

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Canlyniadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.