Fe wnaethoch chi chwilio am edward jones
Ganwyd Gerald Battrick ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar 27 Mai 1947 yn fab i Denzil John Battrick (1924-2016), Uwch-Swyddog Iechyd Cyhoeddus llywodraeth leol, a'i wraig Pearl Madeleine (ganwyd Egan, 1925-2011). Bu Pearl Battrick yn ffigwr dylanwadol ac yn aelod o bwyllgorau Cymdeithas Tenis Lawnt Cymru. Cartref y teulu oedd Cornerways, Island Farm Road, Pen-y-bont ar Ogwr.
Addysgwyd Battrick yn Ysgol Ramadeg Pen-y-bont lle dangosodd gryn addewid fel chwaraewr tenis ifanc, ac yn 1962, yn 15 oed, dyfarnwyd iddo ysgoloriaeth i fynychu Ysgol Millfield yng Ngwlad yr Haf. Ymysg ei gyd-ddisgyblion roedd J. P. R. Williams (ganwyd 1949), hefyd yn fachgen o Ben-y-bont ac yn bencampwr tenis bechgyn, a ystyrai Battrick fel model rôl.
Ym 1965 cafodd Battrick lwyddiannau cynnar gan ennill Junior Wimbledon, yn ogystal â senglau agored i fechgyn dan 18 oed yn Ffrainc a Gwlad Belg. Byddain datblygu yn fuan i fod y chwaraewr gorau erioed o Gymru yn y gamp.
Er i Battrick gael ei ddisgrifio yn 1968 fel chwaraewr 'hynod o dda' gan Jack Kramer, cyn-bencampwr Wimbledon a sylwebydd tenis teledu'r BBC, ni chyrhaeddodd efallai ei botensial llawn. Bun byw yng nghysgod chwaraewyr megis Roger Taylor (ganwyd 1941) a Mark Cox (ganwyd 1943), ond, serch hynny, llwyddodd i gyrraedd y trydydd safle ymhlith detholion chwaraewyr Prydain, a chynnal hynny am bum mlynedd. Yn ogystal, fe gystadlodd nifer o weithiau ym mhob un or pedair prif gystadlaethau sengl: yr Unol Daleithiau, Wimbledon, a phencampwriaethau agored Ffrainc ac Awstralia. Roedd yn gystadleuydd llaw dde effeithiol iawn, ond ar adegau roedd ei ymddygiad ar y cwrt yn ei adael i lawr, ac ar un achlysur bu'n rhaid iddo ymddiheuro i awdurdodau tenis Awstralia am ddefnyddio iaith anweddus!
Mewn gornestau dyblau llwyddodd Battrick i gyrraedd yr wyth olaf ym mhencampwriaeth agored Ffrainc yn 1968 a 1970. Cynrychiolodd Brydain Fawr ddwywaith yng Nghwpan Davis yn 1970 a 1974. Yn 1970 enillodd gystadeuaethau pwysig, sef Pencampwriaerth Cwrt Caled Prydain, a gynhaliwyd yn Bournemouth, gan drechur gŵr o Croatia, Željko Franulović, (ganwyd 1947) mewn pedair set: 6-3, 6-2, 5-7, 6-0. Efallai mai yn 1971 y cafodd ei lwyddiannau mwyaf pan enillodd bencampwriaeth senglau agored yr Iseldiroedd a gynhaliwyd yn Hilversum trwy guro Ross Case (ganwyd 1951) o Awstralia: 6-3, 6-4, 9-7. Yn ystod yr un flwyddyn enillodd senglau dan do Cwpan Dewar gan drechu y chwaraewr adnabyddus o Dde Affrig, a aned yn Awstralia, Bob Hewitt (ganwyd 1940): 6-3, 6-4.
Yn 1971 priododd Carolyn A. Camp (ganwyd 1947), cyn-chwaraewraig tenis dros swydd Surrey. Ganwyd iddynt un mab, James 'Jamie' Edward (1974), a merch Amanda Jane (1979).
Yn 1972 cafodd Battrick ei ddal yng nghanol yr helynt amatur / proffesiynol a rwygodd y gamp pan ddewisodd chwarae yn broffesiynol ac ymuno â chylchdaith Lamar Hunt, y miliwnydd ar hyrwyddwr chwaraeon o Texas. Ond pan gafwyd datrusiad ir helynt dychwelodd Battrick i chwarae yn Wimbledon gan gyrraedd yr wyth olaf yng nghystadleuaeth y dyblau mewn partneriaeth gyda Graham Stilwell (ganwyd 1945) yn 1975. Roedd y ddau eisoes wedi ennill pencampwriaeth cwrt caled UDA yn Columbus, Ohio yn 1973.
Yn dilyn ei ymddeoliad rhannol yn 1976, aeth Battrick i hyfforddi a chwarae yn Hamburg, yng Ngorllewin yr Almaen, ac yno y ganwyd ei ferch. Dychwelodd i Gymru yn 1981 i sefydlu canolfan hyfforddi tenis yn ei gartref, Waterton Hall, ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Parhaodd i chwarae yng nghystadlaethau dros 45 oed Wimbledon hyd at 1996. Roedd hefyd yn chwaraewr golff o fri a bun aelod o Glwb Brenhinol Porth-cawl.
Canfuwyd tyfiant ar ei ymenydd yn 1997, a bu farw o gancr yn 51 oed yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr ar 26 Tachwedd 1998. Cynhaliwyd ei angladd yn Amlosgfa Llangrallo, Pen-y-bont ar Ogwr, ar 2 Rhagfyr 1998.
Dyddiad cyhoeddi: 2017-01-11
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.