Ganwyd Sheikh Abdul-Hamid ar 21 Ionawr 1900 yn Rajputna (sy'n cyfateb yn fras i Rajasthan heddiw) yng ngogledd India. Dywedir ei fod yn fab i bennaeth un o'r tylwythau Rajput, er nad oes gwybodaeth fanwl ar gael am ei deulu. Sheikh oedd ei enw cyntaf, a gallai fod yn arwydd o'i dras, ond nid oedd yn deitl crefyddol.
Yn bedair ar ddeg oed dechreuodd weithio am gyfnod o dair blynedd fel dyluniwr i Gatrawd Tywysog Cymru yn Jodhpur, India dan Syr Samuel Swinton Jacob (1841-1917). O 1917 hyd 1928 bu'n gweithio dan 'Mr. Skelton, Architect, and Consulting Engineer' ar brosiectau yn Kodaikanal yn Tamil Nadu (de India), ac wedyn yn Delhi a Mount Abu yn nwyrain Rajasthan gyfoes. Enillodd ddigon o brofiad yn y pen draw i ymuno â chwmni Mr. Skelton fel partner. Yn 1929, newidiodd ei swydd eto ac ymuno â 'Messrs Lanchester and Lodge' yn eu prosiect i adeiladu palas newydd i Maharaja Marwar yn Jodhpur, gan weithio yno tan 1932 pan symudodd i Lundain a llwyddo i ennill trwydded Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain.
Gweithiodd Abdul-Hamid fel pensaer yn Llundain am y rhan fwyaf o'r 1930au, a byddai weithiau'n mynychu Mosg Shah Jahan yn Woking. Yn 1931 cwrddodd ag Armida Gioja, ac yn 1935 datganwyd gyda chryn rwysg yn y papurau eu bod wedi dyweddïo a'i bod hithau wedi troi at y ffydd Islamaidd er mwyn priodi. Armida oedd merch ddeg ar hugain oed y Cownt Eduardo Gioja (1862-1937), artist a phortreadydd enwog o'r Eidal. Llai na thri mis ar ôl troedigaeth Armida, trodd ei thad yntau at Islam, gan gyhoeddi'r newyddion yn yr Islamic Review, cyfnodolyn y Woking Muslim Mission. Bu Armida ei hun farw yn 1984, yn bedwar ugain oed, yn Middlesex.
Cyfnod o ymsefydlu ym Mhrydain oedd amser Abdul-Hamid yn Llundain yn ystod y 1930au. Bu'n rhwydweithio ymhlith actifwyr ac arweinwyr Mwslemaidd y ddinas, a chynnig ei wasanaeth fel pensaer ar gyfer prosiectau mosgiau, gan gynnwys y rhai a ddaeth yn Fosg Canol Llundain a Mosg Dwyrain Llundain (er na ddefnyddiwyd ei gynlluniau).
Yn 1940, symudodd Abdul-Hamid i'r Rhyl yng ngogledd Cymru fel aelod o staff y Weinyddiaeth Weithfeydd (comisiwn amser rhyfel yn ôl pob tebyg). Cofleidiodd Abdul-Hamid y newid hwn yn ei amgylchiadau trwy chwarae rhan weithredol ym mywyd trefol y Rhyl, gan drefnu digwyddiadau elusennol dros y Groes Goch a Chronfa Carcharorion Rhyfel St Ioan. Roedd hefyd yn ymwelydd cyson â Chlwb Criced Bae Colwyn.
Tra yn y Rhyl aeth ati i drefnu gweddïau Eid. Ar fore 9 Ionawr 1941, ymgasglodd Mwslemiaid ac eraill yn Nhŷ Nant, Prestatyn. Y gŵr gwadd oedd y Tywysog Mohammed Hasan Mirza o Bersia, a ddadorseddwyd pan ddaeth teyrnasiad teulu brenhinol Qajar i ben yn 1925 ar ôl rheoli Iran ers 1789. Y cyfarfod hwn ym Mhrestatyn fyddai'r gweddïau Eid olaf i'w cynnal yn yr ardal am ddegawdau.
Dros flwyddyn ar ôl y cyfarfod gweddi hwn, yn Ebrill 1942, arweiniodd Abdul-Hamid y weddi agoriadol yn y cartref newydd i forwyr o'r India ar Upper Parliament Street yn Lerpwl. Ar 28 Awst 1942, trefnodd gyfarfod yng Nghaerdydd gyda Mwslemiaid eraill i weddïo dros lwyddiant i ymgyrch rhyfel Prydain. Ymhlith y gwesteion roedd yr athro Sufi Sirdar Ali Shah, Arglwydd Faer Caerdydd yr Henadur James Hellyer a'r Faeres Mrs Hellyer. Trefnodd Abdul-Hamid y digwyddiad dan faner 'Cymdeithas Fwslemaidd Cymru', cymdeithas a sefydlwyd ganddo ef ac y bu'n llywydd arni.
Mae Abdul-Hamid yn nodedig yn hanesyddol fel un o'r Mwslemiaid cynharaf i ymuniaethu â Chymru. Ni allwn ond dyfalu pam y gwnaeth hynny. Roedd wedi gwasanaethu Catrawd Tywysog Cymru yn ŵr ifanc, ac wrth i'w yrfa fynd rhagddi fe'i comisiynwyd i adeiladu palas dros Maharaja Umaid Singh, a oedd yntau wedi gwasanaethu fel aide-de-campe i Dywysog Cymru. Roedd ei gyflogwr, Henry Vaughan Lanchester, yr un a gefnogodd Abdul-Hamid i ddod i Brydain, hefyd wedi adeiladu Neuadd y Ddinas Caerdydd, un o dlysau pensaernïol Cymru. Ac yn olaf, yn sgil yr Ail Ryfel Byd roedd Abdul-Hamid wedi symud i ogledd Cymru. Trwy gydol ei fywyd, felly, byddai wedi clywed am y genedl hon ar ganol yr Ymerodraeth Brydeinig. Efallai nad oedd Cymru'n golygu rhyw lawer i Fwslemiaid yn y cyfnod hwn, o leiaf mewn cymhariaeth â 'r termau pwysfawr 'Prydain' a 'Prydeinig', ond roedd bywyd wedi cynysgaeddu Abdul-Hamid i ddeall fod gan Gymru ystyr arbennig i rai pobl, ac ystyr y gallai yntau dynnu arni.
Tynnodd Abdul-Hamid ar ei holl brofiad o drefnu cyfarfodydd, ei rwydweithiau ymhlith Mwslemiaid a chylchoedd dylanwadol Prydain, a'i gred ym muddiannau cyffredin Islam a Phrydain, i sefydlu Cymdeithas Cyfeillion y Byd Islamaidd yn 1944. Lansiwyd y gymdeithas newydd ar 13 Mehefin gyda chinio yng ngwesty'r Savoy yn Llundain dan nawdd Edward Turnour, Arglwydd Winterton. Roedd rhestr faith o bwysigion yn bresennol, gan gynnwys Llysgennad Twrci, yr Arglwyddes Willingdon (gweddw cyn-Raglaw India Marcwis Willingdon), a Leo Amery, yr Ysgrifennydd Gwladol dros India.
Deng niwrnod ar ôl lansiad Cymdeithas Cyfeillion y Byd Islamaidd, lladdwyd Sheikh Abdul-Hamid gan 'enemy action' yn ne Lloegr ar 23 Mehefin 1944, yn 44 oed (er mai 42 yw'r oedran ar ei dystysgrif farwolaeth). Nodir ei gyfeiriad ar y pryd fel 34A Buckingham Gate. Cynhaliwyd ei angladd yng Nghaerdydd ar 30 Mehefin, dan arweiniad Sheikh Hassan Ismail, ac fe'i claddwyd ym Mynwent Orllewinol Caerdydd, Adran E, bedd 223.
Yn sgil gweithgareddau Sheikh Abdul-Hamid yn y Rhyl, Llundain a mannau eraill cafwyd sawl ysgrif goffa iddo. Canmolodd y rhan fwyaf ei waith elusennol a'i gefnogaeth i achos Prydain, ond nodwyd hefyd ei yrfa lwyddiannus fel pensaer. Bu ei farwolaeth annhymig yn ddiwedd ar ei waith creu sefydliadau, a phetai wedi cael byw, efallai y byddai sefydliadau fel Cymdeithas Fwslemaidd Cymru wedi parhau hyd heddiw. Roedd Abdul-Hamid yn un o'r Mwslemiaid cyntaf, os nad y cyntaf un, i sefydlu cymdeithas ar gyfer Cymru'n benodol, a gosododd esiampl a efelychwyd yn y degawdau dilynol.
Dyddiad cyhoeddi: 2024-02-14
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.