Fe wnaethoch chi chwilio am edward jones
Ganwyd Huldah Bassett ar 8 Mehefin 1901 ym Mhen-parc, Aberteifi, yn ferch i'r Parch. David Bassett, gweinidog gyda'r Bedyddwyr a hanai o Ystalyfera, a'i wraig Mary Hannah (g. Charles), a hanai o Fforest-fach, Abertawe. Roedd ganddi frawd iau, Alun, a ddatblygodd yn fathemategydd galluog ac a fu'n bennaeth adran arholiadau Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru. Yn 1914 symudodd ei thad i ofalaeth yn Aberdâr, lle y mynychodd Huldah Ysgol Ramadeg y Merched a chystadlu'n llwyddiannus iawn mewn eisteddfodau lleol ar gystadlaethau cerddorol a llenyddol.
Yn 1919 hi oedd enillydd cyntaf gwobr Cymrodorion Aberdâr i'r ymgeisydd o Ysgolion Sirol Aberdâr a dderbyniai'r marciau uchaf mewn Cymraeg yn arholiad y Bwrdd Canol Cymreig; hi hefyd ddaeth yn ail trwy Gymru mewn Cymraeg yn yr un arholiad. Aeth i Goleg y Brifysgol Caerdydd i astudio Cymraeg o dan yr Athro W. J. Gruffydd, ac roedd ymhlith y pump o'i fyfyrwyr y cyflwynodd Gruffydd ei Llenyddiaeth Cymru o 1450 hyd 1600 iddynt yn 1922. Graddiodd gyda dosbarth cyntaf yn y Gymraeg y flwyddyn honno.
Penodwyd hi yn athrawes yn y Bont-faen, a symudodd oddi yno i Ysgol Sir y Merched, Y Barri, lle y bu'n cydweithio â'r athrawes gerdd, Rhyda A. Jones: cyhoeddwyd eu carol, 'Ymdaenai cyfrin lenni'r nos' gan Wasg Prifysgol Rhydychen a'r Cyngor Cerdd Cenedlaethol yn 1932 a thrachefn yn Carolau Hen a Newydd yn 1954. Yn y Barri hefyd y cwblhaodd ei hymchwil ar fywyd a gwaith 'Golyddan' (John Robert Pryse, 1840-1862), a derbyn gradd MA Prifysgol Cymru yn 1935 am ei thraethawd 'Golyddan: ei fywyd a'i weithiau: gyda chyfeiriad arbennig at yr arwrgerdd Gymraeg'.
Yn 1937 fe'i penodwyd yn brifathrawes gyntaf Ysgol Sir y Merched yn Nhre-gŵyr, a bu yn y swydd honno tan ei hymddeoliad yn 1966, gan gynnal safonau academaidd uchel ac ennill enw da iawn i'r ysgol. Ymdrechodd hefyd i gynnal ei Chymreictod: roedd yr ysgol, er enghraifft, yn tanysgrifio i recordiadau y 'Welsh Recorded Music Society' o gerddoriaeth Gymreig ddiwedd y 1940au.
Dechreuodd ddarlledu yn y 1940au gyda Stephen J. Williams yn y gyfres i ddysgwyr, 'Dysgu Cymraeg', yna cafodd ei rhaglen ei hun, 'Rhigwm a Chân', lle y byddai'n paratoi'r sgript, yn cyflwyno, yn canu, ac yn cyfeilio ar y piano. Profodd y rhaglen yn boblogaidd iawn ymhlith gwrandawyr ifanc, a dangosodd hithau ei meistrolaeth lwyr ar y cyfrwng.
Cynrychiolodd Undeb Cenedlaethol yr Athrawon (Cymru) ar y Cyngor Darlledu i Ysgolion yng Nghymru, a bu hefyd yn aelod o Gyngor Cymru a Mynwy. Rhoddodd lawer o amser a chefnogaeth i Urdd Gobaith Cymru, a byddai'n beirniadu yn gyson yn Eisteddfod yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol. Roedd yn aelod o Bwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 1964, ac yn un o Lywyddion Anrhydeddus Eisteddfod yr Urdd yn Abertawe, 1971.
Bu farw Huldah Bassett yn Abertawe ar 15 Gorffennaf 1982, yn 81 oed.
Dyddiad cyhoeddi: 2023-06-28
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.