Fe wnaethoch chi chwilio am *
Ganwyd Ben T. Hopkins ar 3 Rhagfyr 1897 yn Waunhelyg, Lledrod, Ceredigion, yn fab i Ifan Hopkins (1851-1931), saer coed, a'i wraig Mary (g. Jones, 1859-1897). Bu farw ei fam wythnos ar ôl ei enedigaeth, ac fe'i magwyd gan chwaer a brawd ei fam, Margaretta Jones (1867-1944) a Dafydd Jones (1854-1929), yn y Triael, Blaenpennal, tyddyn sydd bellach yn furddun. Ailbriododd ei dad a ganwyd mab arall iddo, Evan Pugh Hopkins, yn hanner brawd i Ben.
Cafodd ei addysg yn Ysgol Elfennol Tan-y-garreg, lle dysgodd y cynganeddion a dechrau llunio penillion dan gyfarwyddyd y prifathro, David Davies, a bardd lleol, John Rowlands, Dolebolion. Gyda'i gyd-ddisgybl, y llenor Tom Hughes Jones, bu'n cystadlu mewn eisteddfodau lleol.
Gadawodd yr ysgol yn bymtheg oed i ffermio'r Triael a chyda'r nos mynychai dri dosbarth allanol i oedolion mewn athroniaeth, amaethyddiaeth a llenyddiaeth Gymraeg yn yr ysgol leol. Daeth i adnabod dau gyfaill a rannai ei ddiddordeb mewn barddoniaeth, Prosser Rhys (1901-1945) a Jenkin Morgan Edwards (1903-1978). Daeth y tri yn bennaf ffrindiau, i seiadu gyda'i gilydd, trin eu gwaith a chystadlu, a darllen i'w gilydd weithiau Cynan a R. Williams-Parry.
Cafodd ei alw i'r fyddin yn 1918, aeth trwy ei brawf meddygol ym mis Mehefin, ond cyn iddo ymuno ag unrhyw wersyll daeth y rhyfel i ben, ac arbedwyd ef rhag gorfod gadael bro ei febyd. Bu'n brysur yno gyda Chapel Blaenafon, lle'r etholwyd ef yn flaenor yn 1923, a chymerodd ran amlwg fel aelod o gwmni drama'r capel. Gwasanaethodd ar Gyngor Plwyf Blaenpennal o 1922 hyd 1979, ac etholwyd ef yn 1964 yn aelod o Gyngor Dosbarth Tregaron.
Yn wleidyddol perthynai i Blaid Cymru ac ef oedd un o sylfaenwyr Pwyllgor Gwaith etholaeth sir Aberteifi yn 1932. Dewiswyd Prosser Rhys yn Llywydd, ef yn Is-Lywydd a J. M. Edwards yn Ysgrifennydd. Trefnodd gyfarfod i'r blaid genedlaethol ym Mlaenpennal mor gynnar â Mawrth 1933, a meddyliai'r byd o'i gyd-gefnogwyr yng Ngheredigion, fel Cassie Davies, Tregaron a Sali H. Davies, Llanbedr Pont Steffan.
Enillodd B. T. Hopkins chwech o gadeiriau yn eisteddfodau Ceredigion, y gyntaf yn Eisteddfod Llangeitho yn 1913, yna yng Ngoginan yn 1925, Aberaeron yn 1927, Pontrhydfendigaid yn 1933 a choron Eisteddfod Y Berth ger Tregaron yn 1937. Bu pob un o'r pryddestau a'r cerddi hyn o dan feirniadaeth seiat y Mynydd Bach. Aeth y ddau ffrind arall ymlaen i ennill y Goron a'r Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Oherwydd ei swildod a'i ddiffyg hyder, ni fentrodd ef i gystadlu, er yn ôl Prosser Rhys a J. M. Edwards, mi fyddai wedi ennill yn hawdd, ac ni ddanfonodd yr un llinell erioed i'r Eisteddfod Genedlaethol. A phan luniodd ei gampwaith o gywydd, 'Rhos Helyg', yn 1931, nid oedd amheuaeth yn eu meddyliau ei fod wedi creu un o gerddi mawr yr iaith Gymraeg.
Torrwyd ar y seiadau a gynhelid gan amlaf yn y Morfa Du, Trefenter, cartref Prosser Rhys, pan symudodd J. M. Edwards i'r Barri yn niwedd y tridegau. Erbyn hynny, roedd B. T. Hopkins wedi sefydlu cartref arall, gan iddo briodi Jane Ann Phillips (1905-1988), Brynwichell, yn 1937. Unwyd y Triael a Brynwichell yn un fferm ac amaethodd yno hyd ei ymddeoliad yn 1964. Ganwyd iddynt ddau fab, Emyr (1939-2015) ac Eilian (1941-2007). Symudodd ef a'i briod yn ei ymddeoliad i dŷ capel y Presbyteriaid Cymraeg Blaenafon a elwid Maes-y-Wawr. Roedd ef ei hun ers blynyddoedd yn bregethwr lleyg cydnabyddedig.
Ym Maes-y-Wawr, daeth y seiadau gyda Prosser Rhys a J. M. Edwards yn bosibl eto fel yn nyddiau'r Morfa Du. Tyrrai beirdd Ceredigion yno yn gyson, y ddau frawd o fferm y Cilie, Isfoel ac Alun Jones, y ddau englynwr o Ffair Rhos, Evan Jenkins a Dafydd Jones, y Prifardd T. Llew Jones, a John Roderick Rees, Gwynfil Rees, Pennant a'r Athro Gwyn Williams, Bethel, Mynydd Bach. Roedd B. T. Hopkins yn gyndyn i gyhoeddi cyfrol o'i gerddi, ond ildiodd yn y pen draw i bwysau gan gyfellion. Gan nad oedd y bardd wedi cadw copïau o'i gerddi, bu'n rhaid i Dyfnallt Morgan, T. Llew Jones a D. Ben Rees chwilota amdanynt mewn cylchgronau fel Y Llenor ac Y Genhinen. J. Eirian Davies a ddetholodd y deunydd ar gyfer y gyfrol, Rhos Helyg a Cherddi Eraill, a gyhoeddwyd yn 1976. Aeth Alun Creunant Davies ati i gyhoeddi Detholiad o Gerddi B. T. Hopkins yn 1979 a dosbarthwyd y llyfryn yn lleol. Ei orchest bennaf fel bardd yw 'Rhos Helyg', cywydd sydd wedi ymddangos ym mhob blodeugerdd o farddoniaeth Gymraeg oddi ar y tridegau. Cafwyd beirniadaeth odidog ganddo ar gystadleuaeth y delyneg yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd yn 1938, ac ef oedd un o'r beirniaid ar yr awdl yn Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi yn 1976.
Bu B. T. Hopkins farw ar 21 Ionawr 1981 mewn cartref gofal yn Aberystwyth. Cynhaliwyd ei angladd yng Nghapel Blaenpennal ar 24 Ionawr. Codwyd cofeb i goffáu pedwar awdur o ardal y Mynydd Bach, B. T. Hopkins, Prosser Rhys, J. M. Edwards a T. Hughes Jones, ar lan Llyn Eiddwen yn 1992.
Dyddiad cyhoeddi: 2022-09-15
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.