Fe wnaethoch chi chwilio am *

Canlyniadau

REES, DAVID (1918 - 2013), mathemategydd

Enw: David Rees
Dyddiad geni: 1918
Dyddiad marw: 2013
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: mathemategydd
Maes gweithgaredd: Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Lyn Owen

Ganwyd David Rees ar 29 Mai 1918 yn y Fenni, Sir Fynwy, y pedwerydd o bump o blant David Rees, masnachwr ŷd (g. 1881), a'i wraig Florence Gertrude (g. Powell, 1884-1970). Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Henry VIII yn y Fenni ac yng ngholeg Sidney Sussex, Caergrawnt, lle enillodd radd ddosbarth cyntaf mewn mathemateg.

Yn 1939 cychwynnodd astudiaeth ôl-radd yng Nghaergrawnt ar theori lled-grŵp, ond bu'n rhaid rhoi'r gorau iddi am fod angen ei wasanaeth i waith rhyfel. Cafodd ei recriwtio yn Rhagfyr 1939 i ymuno â thîm craidd Cwt 6 yn Bletchley Park a oedd yn gweithio ar dorri'r codau Enigma a ddefnyddid gan Gadlywyddiaeth yr Almaen. Ym Mai 1940, pan oedd lluoedd yr Almaen yn goresgyn Ffrainc, roedd problem fawr am nad oedd neb wedi datrys seiffr pwysicaf Enigma'r Almaenwyr a elwid yn 'gôd coch'. Gweithiodd David Rees ar y broblem ac arweiniodd y tîm a lwyddodd i ddatrys y côd coch, gan gyfrannu'n fawr at ymdrech y rhyfel. Roedd yn ddiymhongar iawn am ei gamp bersonol, a daliodd ati i weithio ar ddatrys codau pellach wrth iddynt gael eu dyfeisio. Ymhlith ei gydweithwyr roedd y torwyr codau enwog Bill Tutte ac Alan Turing. Defnyddiwyd peth o waith David Rees yn nes ymlaen i gynllunio Colossus, y cyfrifiadur modern cyntaf.

Wedi'r rhyfel bu'n ddarlithydd cynorthwyol ym Mhrifysgol Manceinion yn rhan o adran fathemateg ddisglair a wnaeth gyfraniad mawr i ddatblygiad cyfrifiaduron cynnar. Yn 1948 fe'i penodwyd i ddarlithyddiaeth y brifysgol mewn mathemateg ym Mhrifysgol Caergrawnt a daeth yn gymrawd Coleg Downing, lle y gwnaeth waith arloesol ar theori lled-grŵp ac algebra cymudiadol. Yn 1954 cyhoeddodd bapur dylanwadol iawn gyda Douglas Northcott ar gysyniadau gostyngiadau a chaead integrol. Mae nifer o gysyniadau a theorïau wedi eu henwi ar ei ôl, megis 'matrics lled-grŵp Rees', a 'Theorem Gwerthusiad Rees' ac eraill. O 1958 tan ei ymddeoliad yn 1983 bu'n Athro Mathemateg Bur ac yn Bennaeth Mathemateg a Gwyddorau Mathemategol ym Mhrifysgol Caerwysg.

Priododd Joan Cushen, hithau hefyd yn fathemategydd, yn 1952. Ganwyd iddynt bedair merch, a daeth dwy ohonynt hefyd yn athrawon prifysgol mewn mathemateg - Mary Rees yn Lerpwl a Sarah Rees yn Newcastle. Etholwyd David Rees yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol yn 1968 a gwasanaethodd ar Gyngor y Gymdeithas o 1979 i 1981. Bu David Rees a'i ferch Mary yn gymrodyr y Gymdeithas Frenhinol ar yr un pryd pan etholwyd Mary yn 2002 - yr unig dro i hynny ddigwydd erioed. Yn 1993 cyflwynodd Cymdeithas Fathemateg Llundain wobr Polya i David Rees am ei gyrhaeddiadau arwyddocaol.

Bu David Rees farw ar 16 Awst 2013. Cwta ddeuddeg diwrnod y bu ei wraig Joan fyw ar ei ôl.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2022-07-13

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Canlyniadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.