BROWN, AMOS WILLIAM (1860 - 1956), glöwr a mabolgampwr

Enw: Amos William Brown
Dyddiad geni: 1860
Dyddiad marw: 1956
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: glöwr a mabolgampwr
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Rebecca Eversley-Dawes

Ganwyd Amos Brown tua 1860 yn Apalachicola, Florida, yn fab i Henrietta a Rasmus Bull. Roedd ei rieni'n bobl gaethiwedig ar blanhigfa Snede Station yn Georgia, lle treuliodd Amos ei flynyddoedd cynnar. Mae union flwyddyn ei eni yn ansicr, ond dywedir ei fod yn bum mlwydd oed pan laddwyd ei dad yn Rhyfel Cartref America (1861-65). Bu farw ei fam yn fuan ar ôl diwedd y rhyfel, a newidiodd Amos ei enw gwreiddiol, Pessi Bull, i enw un o'i ewythrod. Mewn ymgais i ddod o hyd i weddill ei deulu, aeth Amos i chwilio am ei fam-gu Rachel, gan hwylio ar foncyffion i lawr yr afon o Georgia i Florida lle cafodd hyd iddi. Wrth iddo chwilio am waith wedyn, cafodd ei herwgipio ar long o Rwsia lle gorfodwyd ef i weithio fel cogydd. Llwyddodd i ddianc pan ddociodd ei long yng Nghaerdydd, lle cafodd loches yng nghartref Mary Reynolds yn West Church Street.

Cychwynnodd Amos Brown ei fywyd yng Nghymru trwy hysbysebu ei wasanaeth fel meddyg llysiau o'r enw Professor Brown, a bu'n gweithio ar hyd ei fywyd mewn nifer o lofeydd gan gynnwys Parc Slip, Penallta, Pentre, Mardy, Ogwr, Rhydaman a Blaengarw. Roedd yn un o nifer o lowyr a ddaeth i Gwm Garw i gloddio'r pyllau newydd, a daeth yn adnabyddus yno am ei gampau paffio a chwaraeon eraill.

Tra'n gweithio yn Parc Slip, bu ond y dim iddo gael ei ddal yn nhanchwa pan newidiodd shifftiau i fynd i fwth paffio Jack Scarrot. Rhoddodd Scarrot gyfle iddo ennill incwm ychwanegol fel paffiwr cyson dan yr enw 'Knockout Brown' ynghyd â glowyr Du eraill a oedd yn atyniad poblogaidd.

Priododd Amos â Jennet E. Wilcox yn 1902, a a chawsant un mab, Amos William Brown (g. 1902) a lladdwyd yng Nglofa Mardy yn 1916. Cafodd bedwar o blant eraill gyda Letaress E. Thomas: Harry Thomas Brown (1910-1960), Doris H. E. Brown (1914-2003), Beatrice M. Brown (1915-1946) a George M. S. Brown (1918-2006). Ar ôl marwolaeth ei wraig gyntaf, priododd Letaress yn 1927, a bu iddynt fabwysiadu David William John Saunders (1926-2016).

Roedd Amos Brown yn arbennig o hoff o seiclo a gwibio, ac roedd yn adnabyddus am redeg rasau yn Abercynon, lle bu'n byw gyda'i ail wraig a'i blant. Yn ei henaint bu'n destun ffilm fud fer a wnaed yn gan y gwneuthurwr ffilmiau lleol Evan Owen Jones (1905-1988), sy'n ei ddangos yn gofalu am ei foch, ac mae i'w weld yn gwibio yn un arall o ffilmiau Jones.

Bu Amos Brown farw ar 17 Ebrill 1956.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi:

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.