ELLIS, MARY ELIZABETH (Mrs Mary Gwilym Davies) (1881 - 1974), addysgydd a heddychwraig

Enw: Mary Elizabeth (Mrs Mary Gwilym Davies) Ellis
Dyddiad geni: 1881
Dyddiad marw: 1974
Priod: Gwilym Davies
Rhiant: Jane Ellis (née Roberts)
Rhiant: Edward Robert Ellis
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: addysgydd a heddychwraig
Maes gweithgaredd: Addysg; Ymgyrchu
Awdur: Siân Rhiannon Williams

Ganwyd Mary Ellis ar 8 Chwefror 1881 yn Nolgellau yn ferch i Jane Ellis (g. Roberts, 1850-1938) a'i gŵr, Edward Robert Ellis (1851-1890). Collodd ei rhieni eu dau blentyn cyntaf-anedig, sef merch, Ellin (neu Ellen) Jane (1875-1882) a mab, Robert Iorwerth (1878-1879), felly magwyd hi yr hynaf o dri o blant. Roedd ganddi chwaer iau, Jane (1886-1977) a brawd, Griffith (g. 1888).

Ar adeg ei geni cadwai ei rhieni siop nwyddau haearn a theganau 'Birmingham House' ym mhen uchaf y dref. Bu farw ei thad pan oedd Mary yn naw mlwydd oed a symudodd y teulu i fyw y drws nesaf i'w mam-gu ym Mro Aran, Upper Smithfield Street, lle cadwai ei mam randai. Erbyn 1911, roedd ei mam a'i chwaer wedi ymsefydlu yn Cader Villa, neu Dolygader, a ddaeth yn gartref sefydlog i Mary yn nes ymlaen.

Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Dr Williams gan serennu yn academaidd a datblygu ei dawn fel cantores. Parhaodd yr ysgol yn bwysig iddi; cymaint felly fel yr ystyriodd ymgeisio am y brifathrawiaeth yn 1924. Daliodd gysylltiad â'r sefydliad yn ystod cyfnod y pennaeth a benodwyd sef Constance Nightingale (1892-1967), heddychwraig a ddaeth yn ffrind iddi.

Dylanwadwyd ar Mary gan gefndir Anghydffurfiol a Rhyddfrydol y teulu. Roedd ei mam, chwaer i'r cenhadwr a'r ieithydd, y Parchedig Hugh Roberts (1841-1916), yn aelod ffyddlon yng nghapel Salem (MC), ac yno yr addolai Mary hefyd tra yn Nolgellau. Presbyteriaid oedd teulu ei thad hefyd, a rhai ohonynt yn adnabod mawrion yr enwad.

Cefnder hŷn i Mary a mab i frawd ei thad oedd Syr Ellis Jones Griffith (1860-1926), bargyfreithiwr ac Aelod Seneddol Sir Fôn rhwng 1895 a 1918. Rhwng 1892 a 1914, treuliodd Mary sawl cyfnod estynedig yn byw gydag Ellis a'i wraig, y gantores a'r Rhyddfrydwraig, Mary Owen Ellis Griffith (1862-1941) yn Llundain, Sir Fôn a mannau eraill. Oherwydd y cysylltiad hwn roedd hi'n gyfarwydd â chylch cymdeithasol Cymry Llundain, a chafodd gyfle i gyfarfod â Rhyddfrydwyr amlwg yr oes, i ymweld â Thŷ'r Cyffredin a mynychu capel Charing Cross.

Dioddefodd Mary byliau o afiechyd yn ystod ei hieuenctid. Bu'n rhaid iddi roi'r gorau i'w chwrs gradd yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth yn ystod ei thrydedd flwyddyn, a phan ail-gydiodd yn ei hastudiaethau aeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru ym Mangor. Graddiodd yn y Dyniaethau gan arbenigo yn Saesneg a Lladin yn 1904 cyn cwblhau blwyddyn o hyfforddiant dysgu. Chwaraeodd ran amlwg yng ngweithgareddau'r myfyrwyr yn y ddau goleg gan berfformio'n gyson fel unawdydd.

Bu'n dysgu yn Ysgol Uwchradd Whalley Grange, Manceinion am ddeunaw mis cyn gadael i diwtora Arundel, mab Ellis Griffith (1907-09). Bu'n diwtor Saesneg mewn sefydliad addysg uwch i ferched ar gyrion Paris wedyn, yr École Normale Supérieure, Sèvres. Dychwelodd o'r cyfandir yn 1911 a gweithio am flwyddyn fel athrawes Ffrangeg yn Ysgol Colston i Ferched ym Mryste ond yn fuan, dioddefodd gyfnod pellach o salwch.

Ar drothwy'r Rhyfel Byd Cyntaf penodwyd hi'n arolygydd addysg yn Adran Gymreig y Bwrdd Addysg, gan ymuno â Welsh Department of the Board of Education where she joined Menai Rowlands (1873-1951), y fenyw gyntaf i'w phenodi i'r arolygaeth yng Nghymru, ac fel hithau, yn gyfrifol am addysg merched. Roedd y swydd yn amodol ar ennill cymhwyster mewn Gwyddor Cartref, felly dilynodd gwrs dri mis yng Ngholeg Hampstead, Llundain.

Yn ystod ei deng mlynedd ar hugain prysur yn yr arolygaeth (1914-43) daeth Mary Ellis yn adnabyddus yn y byd addysg yng Nghymru fel awdurdod ar addysg merched. Yn ystod y blynyddoedd cyntaf gweithiai yn ne Cymru gan fyw ym Mhenarth, ond ar ôl 1927 roedd yn gyfrifol am siroedd y gogledd a symudodd yn ôl i Ddolgellau, er bod ganddi sawl ardal yn y de o dan ei gofal yn ogystal.

Erbyn 1919 roedd Mary a Menai yn gyd-ysgrifenyddion ar Adran y Menywod Cyfysgol Gwasanaeth Cymdeithasol Cymru. Daeth Mary yn ffigwr blaenllaw ym mhwyllgorau a chynadleddau'r mudiad gan hybu nifer o ddatblygiadau ar ddechrau'r 1920au. Bu hefyd yn rhan o'r ymgais i sefydlu undeb i fenywod Cymru gyfan (Union of Welsh Women) yn 1922 i uno menywod y de a'r gogledd i weithredu dros achosion cymdeithasol blaengar.

Yn yr un flwyddyn, daeth y Parchedig Gwilym Davies (1879-1955), cyfarwyddwr y Cyfysgol, hefyd yn gyfarwyddwr ar Undeb Cynghrair y Cenhedloedd yng Nghymru, a chydweithiodd Mary yn agos ag ef er sicrhau cefnogaeth menywod Cymru i'r syniad o godi deiseb yn galw ar fenywod America i osod pwysau ar eu llywodraeth i ymaelodi â'r Gynghrair. Roedd hi'n allweddol i'r trefniadau cychwynnol, yn aelod o'r pwyllgor gwaith a sefydlwyd ym mis Mai 1923 ac o'r ddirprwyaeth swyddogol i'r Unol Daleithiau ynghyd ag Annie Hughes Griffiths ac Elined Prys (Kotschnig wedyn).

Prif gyfraniad Mary Ellis o ran y fenter oedd cydlynu rhwng menywod Cymru ac arweinwyr mudiadau menywod a heddwch America. Ar ôl llythyru â nhw yn ystod haf 1923, fe deithiodd i Efrog Newydd ddiwedd Rhagfyr. Mewn amser byr, enillodd gefnogaeth arweinwyr prif fudiadau menywod y wlad gan sicrhau derbyniad addas i'r ddirprwyaeth a'r ddeiseb yn Efrog Newydd a Washington erbyn mis Chwefror 1924. Yn America dywedwyd bod Mary wedi swyno menywod ymhobman a'u hennill at yr achos gyda'i haddfwynder diymffrost. Yng Nghymru canmolwyd hi am ei dewrder a'i gwasanaeth ardderchog i'w gwlad fel 'llysgenhades dros Gymru'.

Tra yn yr Unol Daleithiau bu Mary hefyd yn ymweld ag ysgolion a cholegau a oedd yn adnabyddus am eu dulliau addysgu blaengar, ond cyhuddwyd hi gan y Bwrdd Addysg o gamddefnyddio'r ymweliad a thorri'r Cod Ymarfer proffesiynol drwy ganiatáu i'w henw ymddangos yn y wasg mewn perthynas ag achos 'gwleidyddol'. Er na ddisgyblwyd hi, derbyniodd rybudd swyddogol at y dyfodol. Parhaodd yn weithgar gyda'r Cyfysgol a daeth yn aelod o Bwyllgor Menywod Undeb Cynghrair y Cenhedloedd yng Nghymru yn ystod y 1930au, ond uchafbwynt ei gwaith cyhoeddus oedd y rhan a chwaraeodd ym menter y Ddeiseb Heddwch.

Ym mis Ionawr 1942, priododd Gwilym Davies yng nghapel Bethel, Tywyn. Cafodd ganiatâd arbennig i wneud hynny gan y Bwrdd Addysg oherwydd amgylchiadau'r rhyfel. Erbyn hyn roedd yn 61 mlwydd oed, a'r flwyddyn ganlynol ymddeolodd o'i swydd. Soniwyd y pryd hwnnw am ei 'sêl dros hawliau merch' a dylanwad 'cenhadaeth Cymru Fydd' ar ei gyrfa. Roedd Cymru a'r Gymraeg yn hollbwysig iddi. Fel arolygydd byddai'n trefnu cyrsiau i athrawon ar iaith a llenyddiaeth Cymru, ac yn ystod y 1920au bu'n aelod o Gylch Dewi, grŵp cenedlaetholgar yng Nghaerdydd.

Tua diwedd y rhyfel symudodd Mary i Aberystwyth at Gwilym, gan ymgartrefu yn 8 Rhodfa'r Môr. Parhaodd i'w gefnogi a'i gynorthwyo gyda'i waith dros gydweithrediad rhyngwladol ac addysg dinasyddiaeth fyd-eang. Cawsant ddegawd gyda'i gilydd cyn i Gwilym farw yn 1955. Yn dilyn ei farwolaeth, aeth Mary ati i ddiogelu dyfodol 'Neges Heddwch ac Ewyllys Da Plant Cymru' a sefydlwyd gan Gwilym yn 1922, drwy gydweithio ag Urdd Gobaith Cymru. Byddai'n helpu paratoi'r pamffled blynyddol, yn llythyru ac yn ymateb i negeseuon o bedwar ban byd am flynyddoedd lawer.

Cyn diwedd ei hoes, sicrhaodd y byddai'r hyn a gyflawnwyd gan Ellis Jones Griffith a Gwilym Davies, dau a fu mor bwysig yn ei bywyd, ar gof a chadw. Cyfrannodd at raglen radio am Ellis a darparodd ddeunydd i T. I. Ellis ysgrifennu cofiant iddo (1969). Rhoddodd gychwyn i'r gyfrol deyrnged fechan i Gwilym a olygwyd gan Ieuan Gwynedd Jones (1972). Yna, rhoddodd drefn ar ei phapurau ei hun a'u cyflwyno i'r Llyfrgell Genedlaethol.

Bu farw Mary yn Aberystwyth ar 15 Chwefror 1974 yn 93 mlwydd oed a chladdwyd hi ym mynwent Eglwys Llanelltud. Gadawodd arian sylweddol yn ei hewyllys i nifer o sefydliadau cenedlaethol a oedd yn agos at ei chalon, gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Urdd Gobaith Cymru (i'r Adran Ryngwladol er mwyn sicrhau dyfodol y neges heddwch) a Choleg Harlech i ariannu grant i fyfyrwyr yn dwyn ei henw.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 2024-12-04

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.