DAVIS, ISAAC ('Aikake') (c. 1756 - 1810), morwr a chynghorydd brenhinol

Enw: Isaac ('aikake') Davis
Dyddiad geni: 1756
Dyddiad marw: 1810
Priod: Nakai Nalima'alu'alu Davis
Priod: Kalukuna Davis
Plentyn: Sarah Kani'aulono
Plentyn: George Hū‘eu Davis
Plentyn: Elizabeth (née Davis)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: morwr a chynghorydd brenhinol
Maes gweithgaredd: Politics, Government and Political Movements
Awdur: Noah Hanohano Dolim

Ganwyd Isaac Davis tua 1756 ym Milford (Aberdaugleddau), Sir Benfro. Daeth i chwarae rhan allweddol yn uniad Ynysoedd Hawai'i a ffurfiant Teyrnas Hawai'i dan yr ali'i (pennaeth) Kamehameha I.

Yn 1790, aeth Davis i Ogledd-orllewin y Môr Tawel ar y sgwner Fair American dan reolaeth yr Americanwr Thomas Metcalfe yn rhan o ymdaith hel ffwr a arweiniwyd gan dad hwnnw, Simon Metcalfe, capten yr Eleanora. Penderfynodd y tad a'r mab aros yn Ynysoedd Hawai'i lle'r aeth pethau o chwith yn gyflym iawn.

Ar Ynys Hawai'i, oherwydd rhyw gamwedd anhysbys, gorchmynnodd Simon Metcalfe fflangellu pennaeth uchel o'r enw Kame'eiamoku. Addawodd y pennaeth dalu'r pwyth yn ôl ar y llong estron nesaf. Teithiodd Metcalfe ymlaen wedyn i Maui i fasnachu gydag ynyswyr Kānaka ‘Ōiwi (Brodorion Hawai'i). Wedi i gwch bychan gael ei ddwyn o'r Eleanora, dialodd y capten drwy saethu ar sifiliaid ym Mae Olowalu, gan ladd ac anafu dwsinau o Frodorion.

Cyrhaeddodd y Fair American Ynys Hawai'i fis yn ddiweddarach, lle cudd-ymosodwyd arni gan Kame'eiamoku a'i ryfelwyr. Yr unig un a oroesodd oedd Isaac Davis, wedi ei glywfo'n arw, a oedd wedi saethu ar y pennaeth ond methu. Aethpwyd â Davis, ynghyd â'r holl ddrylliau a ffrwydron, at Kamehameha, pen-rhyfelwr a oedd newydd gychwyn ar ei ymgyrch milwrol i oresgyn yr archipelago.

Anfonodd Simon Metcalfe Sais o'r enw John Young i'r ynys i gael gwybod beth oedd wedi digwydd i'r Fair American a'i fab Thomas. Ond daliwyd Young gan Kamehameha, a defnyddiwyd Davis a Young gan y pennaeth fel ymgynghorwyr milwrol wedyn er mwyn cynnwys technoleg orllewinol yn ei ryfela.

Yn nes ymlaen yn 1790, cynorthwyodd Isaac Davis a John Young Kamehameha yn erbyn y pennaeth Kalanikūpule yn y frwydr fawr yng Nghwm 'Iao ar ynys Maui, gan weithio dau ganon a gymerwyd o'r Fair American. Ataliwyd llif yr afon gan gyrff niferus y rhyfelwyr, ac o ganlyniad cafodd y frwydr yr enw Kepaniwai ('y dŵr cronedig').

Ymladdodd Davis a Young eto ym mrwydr forol Kepūwaha‘ula ('y gwn safngoch') yn erbyn lluoedd Kaua'i a Maui. Honno oedd y frwydr gyntaf lle defnyddiwyd technoleg filwrol orllewinol gan y ddwy ochr. Dros y blynyddoedd nesaf, bu Kamehameha'n fuddugol mewn brwydrau tyngedfennol ac enillodd reolaeth dros hanner yr ynysoedd.

Cwrddodd y fforiwr a masnachwr o Brydain George Vancouver ag Isaac Davis a John Young yn Chwefror 1793 pan laniodd yn Hawai'i i ailgyflenwi ei long. Daeth yn gyfeillgar â Kamehameha, a nododd fod Davis wedi ei eni ym Milford, yn 36 oed, ac yn cael ei drin yn dda gan y pennaeth. Gan eu bod yn rhugl yn yr iaith frodorol (Ō'lelo Hawai'i), cyflawnodd Davis a Young wasanaeth pwysig fel cyfieithwyr rhwng Vancouver a'r Brodorion, a nododd Vancouver iddynt ei hysbysu am nodweddion amryw benaethiaid.

Yn 1795, hwyliodd Kamehameha ei fflyd o ganŵau rhyfel i ynys O'ahu i ymosod ar Kalanikūpule unwaith eto. Ymysg rhyfelwyr Kamehameha roedd ali'i wahine , penaethesau, a hyfforddwyd gan Davis a Young i saethu mysgedau. Wrth i Kamehameha sianelu lluoedd O'ahu i mewn i gwm Nu'uanu, tywalltodd ei ddau gynhorydd belenni o'u canonau ar y cribau. A hwythau wedi eu dal ar ymyl clogwyn 1,000 tr (304m) o uchder, dewisodd llawer o ryfelwyr O'ahu lamu i'w marwolaeth. Cyfeirir at y frwydr honno fel Ka Lele a Ka 'Anae ('llam yr hyrddiaid').

Gwnaeth Kamehameha ddau ymgais seithug i gipio ynys Kaua'i, y rhwystr olaf rhag undod. Yn 1796, dinistriwyd ei fflyd canŵau gan storm ffyrnig, ac yn 1804 ysbeiliwyd ei luoedd cyn cychwyn gan haint a elwid ma'i 'ō'ku'u (colera efallai). Anfonwyd sawl cennad, gan gynnwys Isaac Davis, i geisio darbwyllo Kaumuali'i i ildio, ond ofer fu'r ymdrechion tan 1810, pan dderbyniodd Kaumuali'i dra-arglwyddiaeth Kamehameha gan barhau'n bennaeth llywodraethol ar ynys Kaua'i. Y cytundeb hwn oedd man cychwyn Teyrnas Hawai'i (1810-1893) a thra-arglwyddiaeth Kamehameha fel mō'ī (brenin) yr archipelago.

Roedd carfan o bobl Kamehameha yn anfodlon â'r cytundeb heddwch. Disgwyliai'r penaethiaid hyn dderbyn tiroedd ar ynys Kaua'i fel ysbail rhyfel, ond fe'u gadawyd yn waglaw. Aethant ati o'r herwydd i gynllwynio lladd Kaumuali'i trwy wenwyno ei fwyd mewn gwledd. Ond rhybuddiwyd Kaumuali'i gan Isaac Davis, a llwyddodd i osgoi ei dynged. Am fod Davis wedi atal y cynllwyn, dialodd y penaethiaid arno trwy ei wenwyno yntau yn lle, a bu farw yn 1810.

Cafodd Isaac Davis ddylanwad mawr ar ffurfiant Teyrnas Hawai'i fel un o gynghorwyr ffyddlonaf Kamehameha dros gyfnod o ddau ddegawd. Ystyriwyd Davis a Young yn punahele (anwyliaid) y pennaeth mawr. Enw Davis yn iaith Hawai'i oedd ''Aikake', traws-seiniad o Isaac.

Dyrchafwyd Davis gan Kamehameha i safle cyfatebol i bennaeth; ar un adeg bu iddo wasanaethu fel Llywodraethwr O'ahu. Rhoddwyd iddo diroedd yn Kawaihae, pentref glan môr yn ardal De Kohala ar ynys Hawai'i. Caniatawyd iddo briodi i mewn i deuluoedd y penaethiaid ac felly roedd ei ddisgynyddion yn ali'i o dras Gymreig a Brodorol Hawai'i. Gyda'i wraig gyntaf, Nakai Nalima'alu'alu, cafodd ferch, Sarah Kani'aulono Davis (1797-1867). Gyda'i ail wraig, Kalukuna, cafodd fab, George Hū'eu Davis (1800-1873), a merch arall, Elizabeth Davis (1803-1860), a elwid yn 'Peke' (trawslythreniad o Betty).

Yn y 1820au, priododd Elizabeth Davis fab Kaumuali'i, George Humehume; ac felly roedd ei thad, heb yn wybod, wedi achub bywyd tad-yng-nghyfraith ei ferch. Cawsant dri o blant, gan gynnwys Harriet Kawahinekipi (1823-1843). Amlhaodd tylwyth Davis yn ddirfawr trwy George Hū'eu a gafodd lu o blant. Daeth ei wyres, Lucy Kaheiheimalie Kaopulu Peabody, yn foneddiges breswyl i'r Frenhines Emma Kaleleonālani Rooke, gwraig mō'ī Alexander Liholiho (Kamehameha IV, ŵyr i Kamehameha I). Roedd y Frenhines Emma yn wyres i John Young; parhaodd y ddau deulu'n agos gysylltiedig drwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif, cymynroddodd Peabody a'i nith, Lucy Kalanikumaikiekie Davis Henriques, dir ac ymddiriedolaeth i sefydlu canolfan feddygol yng nghymuned wledig Kohala. Agorwyd Canolfan Feddygol Lucy Henriques yn 1977, ac erbyn hyn mae'n rhan o Ysbyty Cymunedol Queen's North Hawai'i, sy'n gangen o Gyfundrefn Iechyd Queen's a gychwynnodd gyda sefydlu Ysbyty'r Frenhines gan y Frenhines Emma yn 1859. Cofir y ddwy hefyd am eu cyfraniadau i ddiwylliant a hanes Brodorol Hawai'i; gadawyd casgliad sylweddol o archifau ganddynt yn amgueddfa Bernice Pauahi Bishop yn Honolulu, Hawai'i.

Mae'r tywlyth Davis yn amlganghennog erbyn hyn ac yn dal i ffynnu yn Hawai'i.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2025-03-26

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.