Ganwyd Josef Herman ar 3 Ionawr 1911 yn Warsaw, Gwlad Pwyl, yn gyntaf o dri phlentyn i David Herman (c.1873?-1942), coblwr, a'i wraig, Sarah Krukman (c.1893?- 1942). Roedd ganddo frawd o'r enw Shmiel a chwaer o'r enw Zelda. Ar y cyd â'i bartner, Emanuel Friedman, roedd David yn berchen ar ffatri esgidiau a gyflogai tuag ugain o weithwyr. Cymerodd y partner fantais ar anllythrennedd David a'i dwyllo i dorri ei farc ar ddogfen yn cytuno i werthu'r busnes, cyn dianc i America gyda'r arian a gadael David ar ôl yn ddyn wedi ei sigo. Bu'n rhaid i'r teulu fyw mewn tlodi yn ardal Iddewig Warsaw. Yn y llety gorlawn hwnnw y datblygodd Josef ei arfer gydol oes o godi am bedwar y bore i gael amser iddo'i hun.
Cyflwynwyd Josef Herman i beintio pan ddechreuodd wneud tasgau i artist lleol o'r enw Master Xavery Rex. Gadawodd Herman yr ysgol yn dair ar ddeg oed, a chan ei fod yn wan ac wastad yn llwglyd, ni allai gadw swydd. Pan oedd yn un ar bymtheg oed, fodd bynnag, trefnodd ei ewythr iddo fwrw prentisiaeth gyda'r cysodydd Felix Yacubowitch. Tair blynedd yn ddiweddarach, aeth yn sâl gyda gwenwyn plwm yn sgil cael ei fwydo gyda brechdanau oedd yn cynnwys teip llawn inc, i'w 'groesawu' yn rhan o frawdoliaeth yr argraffwyr. Cafodd gyngor i osgoi plwm o hynny allan, a daeth yn ddylunydd graffeg llawrydd a chofrestru yn Ysgol Gelf ac Addurno Warsaw (1930-32). Fe'i siomwyd gan addysg academaidd a gadawodd y coleg gan ymroi i ddysgu techneg gan artistiaid eraill, a daeth dan ddylanwad Munch. Yn 1932 cynhaliodd ei arddangosfa gyntaf o luniau mewn siop gwneuthurwr fframiau, ond does dim cofnod iddo werthu unrhyw un ohonynt.
Roedd Gwlad Pwyl wedi dod yn fwy digroeso i Iddewon ac fe arestiwyd Herman sawl gwaith yn rhan o gyrchoedd i ddal deallusion Iddewig. Yn 1938 gadawodd am Wlad Belg. Er mai Paris oedd yn denu artistiaid modern o Wlad Pwyl yn y cyfnod, roedd yn well gan Herman ddwyster a symlrwydd celf yr Iseldiroedd a Fflandrys. 'A great French painting makes my mouth water, a great Northern painting makes my head spin' [Related Twilights, t. 53]. Nid oedd fyth i ddychwelyd nac i weld ei deulu eto. Yn 1942 dywedodd y Groes Goch wrtho fod ei deulu wedi eu lladd yn faniau nwy y Natsïaid yn Warsaw.
Er mwyn osgoi problemau gyda'r awdurdodau mewnfudo, cofrestrodd Herman yn Academi Celfyddydau Cain Brwsel gan ddod i astudio wrth draed Constant Permeke (1886-1952), prif beintiwr a cherflunydd Mynegiadol Gwlad Belg. Pan oresgynnwyd Pwyl gan y Natsïaid, ffodd Herman drwy Ffrainc i La Rochelle, lle y sylwodd Heddlu Milwrol Gwlad Pwyl ar ei gôt ledr ddu a'i feret a chamgymryd ei fod ar ffo o awyrlu'r wlad honno. Arestiwyd ef a'i roi ar long i Loegr, a glaniodd yn Lerpwl ym mis Mehefin 1940. Oddi yno, gan nad oedd yn medru Saesneg, fe'i hanfonwyd at y conswl Pwylaidd yn Glasgow.
Bu yn Glasgow am rai blynyddoedd. Yn 1942 cynhaliodd arddangosfa gelf yng Nghaeredin, ac ymwelwyd â hi gan artist Catriona MacLeod (m. 1987), merch i ddistyllwr wisgi cyfoethog, a brynodd bum paentiad. Gofynnodd am gael dod yn ddisgybl iddo yn Glasgow. Nid oedd Herman yn awyddus i dderbyn disgyblion ond datblygodd perthynas rhwng y ddau ac ymhen rhai misoedd fe briodasant. Esgorodd y newydd am farwolaeth ei berthnasau ar iselder dwfn, a chafodd ddiagnosis o sgitsoffrenia. Yn 1943 symudodd y cwpl i Lundain, a chynhaliodd Herman ei arddangosfa gyntaf yn y ddinas yn Oriel Reid a Lefevre, ar y cyd ag artist anenwog arall ar y pryd, L. S. Lowry.
Roedd Herman yn aml wedi darlunio themâu Iddewig ond teimlai nad oedd ganddo destun arwyddocaol. Newidiodd hynny pan ymwelodd â Chymru. Yn 1944 daeth i Aberhonddu i chwilio am dirluniau dramatig a chyfarfu â Dai Alexander Williams, saer coed a oedd hefyd yn gweithio yn y pyllau glo ac a ysgrifennai straeon byrion. Cyflwynodd hwn ef i gymuned lofaol Ystradgynlais ym mhen uchaf Cwm Tawe. Yno, cafodd gipolwg sydyn ar amlinelliad o griw o lowyr ar bont ar eu ffordd adref o'r gwaith gyda machlud o liw copr yn gefnlen iddynt:
'The image of the miners on the bridge against that glowing sky mystified me for years with its mixture of sadness and grandeur, and it became the source of my work for years to come. The image filled me with certainty that this village was the right place for me. I felt my inner emptiness filling' [Related Twilights, p. 73].
Arhosodd y ddelwedd honno gydag ef gan ddarparu iddo'i destun. Treuliodd yr un mlynedd ar ddeg nesaf yn byw yn Ystradgynlais gan beintio a darlunio'r glowyr. Syniai amdanynt fel hen gerfweithiau Eifftaidd, creigiau tywyll ar ffurf ddynol, neu fel boncyffion trymion a oedd yn gyfuniad o falchder ac urddas llafur dynol. Cafodd ei dderbyn yn rhwydd i'r gymuned a'i lysenwi'n 'Joe Bach', a daeth yn rym artistig nodedig a llwyddiannus ym Mhrydain. Yn ôl Osi Rhys Osmond, rhoddodd Ystradgynlais iddo sefydlogrwydd personol a chymdeithasol nad oedd erioed wedi ei brofi o'r blaen, a dywedodd Herman ei hun iddo aros oherwydd bod Ystradgynlais yn darparu popeth yr oedd ei angen arno.
Yn 1948 troes Herman adfail hen ffatri bop yn stiwdio ac yn gartref iddo ef a'i wraig. Yr un flwyddyn cafodd ei dderbyn yn ddeiliad Prydeinig. Mae'r murlun 'Miners', a greodd ar gyfer Gŵyl Prydain (1951), wedi ei beintio ar chwe phanel 29 troedfedd wrth 14 troedfedd gyda chymorth myfyrwyr o Goleg Celf Abertawe, bellach ar gadw yn Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe.
Roedd Herman yn dioddef o drafferthion anadlu a chafodd ei gynghori gan ei feddygon i adael Cymru am hinsawdd fwy sych. Yn 1955 dychwelodd i Lundain, lle y cyfarfu â'r meddyg - seicotherapydd yn ddiweddarach - Eleanor Marie (Nini) Ettlinger (1925-2015), a ddaeth yn fodel iddo, a rhagor. Yn 1957 cawsant fab, David. Yn 1960 cafodd Herman ysgariad oddi wrth Catriona MacLeod a phriododd â Nini ar 11 Mawrth 1961. Cawsant ddau blentyn arall, sef y merched Sara (1962-1966) a Rebekah (Becci), a fabwysiadwyd. Cynhaliodd Herman arddangosfa ar y cyd ag L. S. Lowry a Nehemia Azaz yn Oriel Gelf Dinas Wakefield yn 1955 a rhai ôl-syllol yn Oriel Whitechapel yn Llundain yn 1956, yn Glasgow yn 1975 ac yng Nghanolfan Gelfyddydau Camden yn Llundain yn 1980.
Ceisiodd y teulu ymgartrefu yn Suffolk yn 1961 ond daeth trychinebau yn gysgod dros y cyfan. Yng nghanol y chwedegau dychwelodd yr iselder difrifol gan rwystro Herman rhag gallu gweithio. Yn 1966 bu farw'r ferch fach, Sara, a bu'n rhaid i Herman gael therapi electrogynhyrfol yn ogystal â thriniaeth gyda chyffuriau. Ni chafodd y teulu ddod yn ôl at ei gilydd tan 1975. Bu farw Herman yn ei gartref, 120 Edith Road, Barons Court, Llundain, ar 19 Chwefror 2000, a chafodd ei amlosgi ar 23 Chwefror yn Amlosgfa Golders Green.
Enillodd Herman Fedal Aur yr Eisteddfod yn 1962, dyfarnwyd OBE iddo yn 1981 ac etholwyd ef yn Gymrawd yr Academi Frenhinol yn 1990. Cedwir ei weithiau mewn nifer o gasgliadau Prydeinig, yn cynnwys yr Oriel a'r Amgueddfa Gelf yn Glasgow; Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe; Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Cymru, Caerdydd; Oriel Genedlaethol Celf Fodern yr Alban, Caeredin; casgliad y Tate a'r Amgueddfa Brydeinig, Llundain; Oriel Gelf Dinas Birmingham; Oriel Gelf Dinas Leeds; Oriel Gelf y Ddinas, Bryste; ac Oriel Gelf Aberdeen.
Daeth Sefydliad Celf Josef Herman i fod yn 2002 ac mae wedi ei leoli yn y Neuadd Les yn Ystradgynlais. Ym mis Mehefin 2023, cyhoeddwyd y byddai Sardis, capel gwag yn Ystradgynlais, yn cael ei droi'n oriel i arddangos ei waith ac adrodd ei hanes. Mae Josef Herman yn cael ei gofio am ei gyfraniad sylweddol i'r modd y portreadir bywyd dosbarth gweithiol, am ei ddylanwad ar realaeth gymdeithasol ym Mhrydain, am ei ran yn hanes diwylliannol Cymru, ac am ei etifeddiaeth fel artist a roddodd lais i bobl yr ymylon a'r gorthrymedig. Erys ei waith yn dystiolaeth bwerus i urddas a gwytnwch yr ysbryd dynol.
Dyddiad cyhoeddi: 2025-01-24
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.