Ganwyd William John Philpin Jones (a elwid fel arfer yn John Jones) ar 17 Awst 1913 yn Roseleigh yn Llandrindod, Sir Faesyfed, yr ieuengaf o dri o blant John Jones (1875-1959), bwci, a'i wraig Mary (g. Johns, 1881-1948). Cafodd ei addysg yn Ysgol Sir Llandrindod, a chyhoeddwyd rhai o'i gartwnau cynnar yn y Radnor Express yn 1928. Yn 1932 dechreuodd astudio yn Ysgol Gelf Birmingham, ac wedyn enillodd ysgoloriaeth i'r Coleg Celf Brenhinol, ond ni chwblhaodd y cwrs. Dychwelodd i Gymru yn 1933 i weithio fel cartwnydd gwleidyddol i'r Western Mail yng Nghaerdydd, gan roi'r llofnod 'Jones' ar ei waith. Erbyn 1937 roedd wedi symud i Lundain ac ymuno ag asiantaeth hysbysebu Godbolds. Priododd un o'i gydweithwyr yn Godbolds, Rose Spence (1919-2005), yn 1938 a chawsant un ferch, Judith.
Ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd cafodd Jones ei ddiswyddo, a dychwelodd gyda'i deulu i fyw gyda'i rieni yn Llandrindod. Yn 1940 gwirfoddolodd i'r Coldstream Guards, ond oherwydd diffyg incwm preifat cafodd gomisiwn yn y pen draw gyda'r Catrawd Cymreig. O 1943 ymlaen gwasanaethodd yng Ngogledd Affrica, Sisili a'r Eidal, gan weld brwydro fel Dirprwy Swyddog Glanio Milwrol yn Salerno ac Anzio. Yn sgil ei ddawn fel cartwnydd cafodd ei drosglwyddo i Uned Papurau Newydd Byddin Prydain dan olygyddiaeth Hugh Cudlipp, a chyfrannodd Jones gartwnau dychanol a gwleidyddol (fel 'JON' ac fel 'Philpin') i gyhoeddiadau'r fyddin, Eighth Army News, Union Jack, Crusader a Soldier. Byddai'n ymweld â milwyr ar y llinell flaen yn aml, a'i greadigaethau cartŵn enwocaf oedd y 'Two Types': pâr o swyddogion yr Eighth Army â mwstashis ac ôl tywydd arnynt, anghonfensiynol ond talog, a oedd wedi ymladd eu ffordd ar draws Gogledd Affrica ac erbyn hyn yn dyrnu mynd i fyny drwy'r Eidal. Roedd 'Two Types' JON yn boblogaidd dros ben gyda'r milwyr, ac ailgyhoeddwyd eu hanturiaethau yn y Daily Express gan ddod yr un mor eiconig ag 'Old Bill' Bruce Bairnsfather yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Cafodd cyfraniad Jones i ysbryd milwyr Prydain a'r Cynghreiriaid ei ganmol gan uwch-swyddogion yn cynnwys yr Is-Gadfridog Syr Bernard Freyberg VC a'r Cadlywydd Harold Alexander. Yn ôl y sôn honnodd Freyberg fod y 'Two Types' yn werth adran o filwyr. Ym marn ei gyd-gyfrannwr i'r Uned Papurau Newydd Cyril James adlewyrchent 'the true spirit of Army humour that helps us to get over the bad times and emphasizes the brotherhood of all who bear arms' ('Introduction' i The Two Types, 1944). Cyhoeddwyd dau gasgliad o gartwnau'r 'Two Types' (o blith cyfanswm o ryw 300) yn ystod y rhyfel, a gwnaed Jones yn MBE am ei gartwnau rhyfel.
Ar ôl gadael y fyddin yn 1946 dilynodd Jones Hugh Cudlipp i grŵp papurau newydd y Mirror, gan lunio cartwnau chwaraeon i'r Sunday Pictorial, cyn ymuno â phapurau newydd Kemsley yn 1952. Gweithiodd Jones ar y Daily Graphic, Sunday Graphic, Empire News a'r Sunday Times tan 1955, gan lunio deuddeg cartŵn bob wythnos, a symudodd wedyn i'r News Chronicle lle bu'n llunio cartwnau poced gwleidyddol a chwaraeon yn ddyddiol. Yn 1960 llyncwyd y News Chronicle gan y Daily Mail, ac am yr un mlynedd ar hugain nesaf lluniodd Jones dros 15,000 o gartwnau ar gyfer y Mail. Yn aelod sefydlu o Gymdeithas Cartwnwyr Prydain, fe'i dyfarnwyd yn Gartwnydd Cyfamserol a Chwaraeon y Flwyddyn gan Glwb Cartwnwyr Prydain Fawr yn 1966, ac yn Gartwnydd Poced y Flwyddyn yn 1981. Er iddo roi'r gorau i weithio i'r Daily Mail yn 1981, parhaodd Jones i arlunio i'r Mail on Sunday tan 1988.
Tra'n byw yn Llundain cyn ymddeol, cadwodd Jones gysylltiadau cryf â Chymru. Yn 1969 sefydlodd wobr elusennol 'JON' â'r nod o gefnogi pobl ifainc talentog a theilwng yn y celfyddydau creadigol yng Nghwm Rhymni, gyda seremoni wobrwyo flynyddol yng Nghastell Caerffili. Pan ddaeth ei gyswllt â Stryd y Fflyd i ben, symudodd i Raglan, ac o 1987 hyd 1990 lluniodd gartwnau i'r South Wales Argus a'r Abergavenny Chronicle, a rhai ohonynt yn adleisio'r darluniau ysmala o fywyd y cymoedd yng ngwaith ei gyfoeswr Grenfell Jones ('Gren') i'r South Wales Echo.
Wedi i'w briodas gyntaf ddod i ben yn ystod yr Ail Ryfel Byd, priododd Margaret June Price yn 1949, a chawsant ddwy ferch, Harriet a Louise, cyn ysgaru yn 1969, ac yna yn 1978 priododd Sylvia Hull (1927-2009). Bu John Jones farw ar 28 Mehefin 1992 yng nghartref nyrsio St Joseph's, Casnewydd, ac fe'i claddwyd ym mynwent eglwys St Cadog, Rhaglan.
Mae poblogeiddrwydd parhaus y 'Two Types' wedi tueddu i fwrw gweddill gyrfa Jones fel cartwnydd gwleidyddol i'r cysgod. Er iddo honni bod ganddo ddaliadau adain-chwith yn ddyn ifanc, daeth Jones, fel y gellid disgwyl gan rywun a weithiai i'r Daily Mail yn y 1960au a'r 1970au, yn feirniad dygn o'r Prif Weinidog Llafur Harold Wilson ac yn gefnogwr i Geidwadaeth Margaret Thatcher. Wrth fyfyrio ar ei yrfa tua diwedd ei fywyd, ysgrifennodd Jones fod cartwna yn 'hard, but worthwhile work. You have to give it your whole attention: it is your life' (Jon's Complete Two Types, 36).
Dyddiad cyhoeddi: 2024-11-15
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.