Ganwyd William Jones ar 23 Chwefror 1839 yn Luzerne County, Pennsylvania, y pedwerydd o wyth o blant John Jones (1805-1853), gweithiwr haearn a gweinidog Anghydffurfiol a anwyd yn Aberhonddu, a'i wraig Magdalene, a anwyd yn Ystradgynlais yn 1809. Roedd ei rieni wedi ymfudo i Pennsylvania tua 1832, gan ymgartrefu yn y pen draw yn Catasauqua.
Yn ddeng mlwydd oed, dechreuodd Jones weithio yng ngweithfeydd haearn Lehigh Crane yn Catasauqua dan David Thomas, 'Tad diwydiant glo carreg America' a anwyd yng Nghastell-nedd ac a oedd wedi adnabod tad Jones yng Nghymru. Cafodd hyfforddiant fel peiriannydd gan Hopkin Thomas. Rywbryd rhwng 1854 a 1856, symudodd Jones i Philadelphia a gweithio fel peiriannydd yng nghwmni I. P. Morris, gan gynhyrchu dau beiriant chwythu mawr ar gyfer gweithfeydd haearn Lehigh Crane a'u codi yn Catasauqua. Ar ôl amryw swyddi, cyflogwyd ef yn 1859 fel peiriannydd yng ngwaith haearn Cambria yn Johnstown, Pennsylvania. Cyflogwyd ef wedyn i adeiladu ffwrnais chwyth yn Chattanooga, Tennessee. Yn y fan honno cwrddodd â Harriet Lloyd, merch i weinidog Presbyteraidd a fuasai'n berchen ar weithfeydd haearn yn Ffrainc ac a ymfudodd gyda'i deulu i America ganol y 1850au. Roedd Harriet yn cyd-weld â daliadau diddymol Jones. Priododd y ddau, a ganwyd iddynt bedwar o blant, ond dau yn unig, William a Cora, a oroesodd eu plentyndod.
Yng Ngorffennaf 1862, ymunodd Jones â byddin yr Undeb am gyfnod o naw mis, gan ymladd mewn dwy o fwydrau mwyaf gwaedlyd Rhyfel Cartref America, yn Fredericksburg a Chancellorsville. Dychwelodd wedyn i waith haearn Cambria. Nid oedd gweithwyr haearn yn cael eu hannog i wirfoddoli i'r fyddin gan lywodraeth Abraham Lincoln am fod yr haearn a gynhyrchid ganddynt yn hollbwysig ar gyfer yr arfau a'r rheilffyrdd a oedd yn angenrheidiol i'r rhyfel, ond pan alwodd Lincoln am hanner miliwn yn rhagor o wirfoddolwyr yng Ngorffennaf 1864, trefnodd Jones gatrawd o wirfoddolwyr ac ymrestrodd eto. O hynny ymlaen cyfeiriwyd ato'n aml fel 'Capt Jones'.
Wedi'r rhyfel, ailymunodd Jones â chwmni haearn Cambria a chynorthwyodd i adeiladu ei weithfeydd dur Bessemer a melin flŵm. Bu wedyn yn rhan o'r gwaith o godi gweithfeydd dur a melin gledrau ar gyfer cwmni Melin Ddur Edgar Thompson yn Braddock ger Pittsburgh. Perchennog y gweithfeydd oedd Andrew Carnegie, a gwnaed Jones yn rheolwr cyffredinol ganddo. O dan 'Capt Jones', torrodd Melin Edgar Thompson bob record am gynhyrchu dur yn America ac ym Mhrydain. Gofynnodd Jones am gyflog mawr gan Carnegie, a oedd yn ddrwg-enwog am ei gybydd-dod, a chafodd y swm digyffelyb o $25,000 y flwyddyn, ynghyd â chanran o gynnyrch y felin. Mynnodd Jones roi tâl teilwng i'w weithwyr ac yn 1881 sefydlodd ddiwrnod gwaith wyth awr i'r rhai o dano. 'Flesh and blood cannot stand twelve hours of continuous work,' meddai. Serch hynny, yn 1887 adferodd Carnegie y diwrnod deuddeg awr a oedd yn gyffredin yn y diwydiant dur Americanaidd. Roedd gan Carnegie feddwl uchel iawn ohono, ond dywedodd Jones wrth ei deulu iddo wrthod cynnig o bartneriaeth gan Carnegie am nad oedd yn ei drystio.
Yn 1880, roedd Carnegie am i Jones fynd i Gymru i gael syniadau ar sut i wella proses gynhyrchu dur Bessemer gan y cemegydd amatur o Gymro Sidney Gilchrist Thomas, ac yn y pen draw cwrddodd Jones â Thomas yn Birmingham.
Dyfeisiodd Jones nifer o welliannau i broses gwneud dur a'u patentu, yn fwyaf nodedig y 'Jones Hot Metal Mixer', y cafodd batent arno 1888. Roedd hwnnw'n troi mwyn haearn poeth yn ddur gan arbed amser, tanwydd a llafur, tra'n cynhyrchu dur o'r ansawdd cyson angenrheidiol i adeiladu'r pontydd a'r nendyrau a oedd yn amlhau yn America ar ddiwedd y 19eg ganrif. Mae'r 'Jones Mixer' yn cael ei ddefnyddio o hyd.
Roedd gan Jones gynlluniau i sefydlu ei fusnes cynhyrchu dur ei hun yn Ohio, ond bu farw ar 28 Medi 1889 yn sgil damwain ddiwydiannol. Dau ddiwrnod ar ôl ei farwolaeth, yn ôl ei ddisgynyddion, cafodd cynrychiolydd Carnegie lawer o'i batentau oddi wrth ei weddw a oedd yn orweiddiog ac yn defnyddio lodnwm i leddfu poen sglerosis ymledol. Talwyd swm o $35,000 iddi, ond gwnaeth y Jones Mixer filiynau o elw i Carnegie.
Petai Jones wedi cael byw a ffurfio ei fusnes ei hun yn Ohio fel y bwriadai, gan ddefnyddio'r Jones Mixer yno, yn ôl pob tebyg byddai hynny wedi costio arian mawr i Carnegie. Oherwydd hynny, roedd disgynyddion Jones yn ddrwgdybus iawn am amgylchiadau ei farwolaeth. Roedd yn ddyn tra manwl a gofrestrodd ei batentau niferus yn ofalus, ac eto ymddengys nad oedd ei ewyllys wedi ei diweddaru ers 1874. Goroesodd llawer o'i ohebiaeth â Carnegie, heblaw'r hyn a berthynai i'w bedair blynydd olaf, ffaith a fu'n ddirgelwch i fywgraffyddion Carnegie. Roedd y meddygon lleol yn optimistig y byddai Jones yn goroesi'r ddamwain, ond wedi i Carnegie anfon ei feddyg ei hun ato, bu Jones farw yn sydyn ac yn annisgwyl. Un o'i elorgludwyr anrhydeddus oedd Andrew Carnegie. Gadawodd Jones wraig weddw, Harriet, fab 26 oed, Will, a merch 22 oed, Cora.
Roedd William Jones yn gymwynaswr clodwiw. Yn 1889, ef a drefnodd y cymorth pan dorrodd argae ac achosi llifogydd Johnstown, gan beri i'r gymuned y Cymry golli gwerth tua $1 miliwn o eiddo. Mynnodd warchod treftadaeth Gymreig ei deulu ar hyd ei oes. Medrai siarad rhywfaint o Gymraeg, ac roedd yn aelod o cymdeithas elusennol Dewi Sant Pittsburgh. Cynigiai lwncdestun i 'Wlad ein Tadau' bob Gŵyl Ddewi, ond eto roedd braidd yn gyndyn i gyflogi Cymry'n weithwyr. Yn 1877 cynghorodd Carnegie i gyflogi gweithwyr hydrin ('tractable') a chyfyngu ar nifer y Cymry. Yn 1883, awgrymodd i Carnegie y dylai, fel Jones ei hun, gefnogi'r Eisteddfod leol yn ariannol am fod ymdrechion y dosbarth hwnnw i'w gwella'u hun yn foesol ac yn feddyliol yn haeddu cefnogaeth a chymorth. Arwydd o boblogeiddrwydd Jones yw'r dorf o ddeng mil a ddaeth i wylio ei orymdaith angladdol.
Dyddiad cyhoeddi: 2025-03-20
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.