Ganwyd Heinz Koppel ar 29 Ionawr 1919 ym Merlin, yr Almaen, yn ail fab i Joachim Koppel (1892-1946), ddyn busnes, a'i wraig Paula (g. Jalowicz gynt; 1886-1942). Kurt (1916-2004) oedd ei frawd hŷn. Roedd Joachim yn ddyfeisiwr a dechreuodd fusnes yn delio mewn metel ac yn arbenigo mewn cynllunio a chynhyrchu sipiau a bachau metel. Gwahanodd Joachim a Paula yn 1928 ac ysgaru yn 1930. Arhosodd Kurt a Heinz gyda'u mam yn ardal Tiergarten, Berlin. Ailbriododd eu tad gyda Cilly (Cohn gynt), a oedd wedi bod yn briod â Paul Pinkus cyn hynny ac yr oedd ganddi ddau o blant o'r berthynas honno, sef Heinrich ac Ilse. Symudodd Joachim a'i wraig newydd i ardal Charlottenburg yn y ddinas.
Mynychodd Heinz ysgol gynradd breifat ac ysgol uwchradd Friedrichs-Werdersche, ond yn ôl ei frawd nid oedd yn ddisgybl cryf; nid oedd ganddo ddiddordeb mewn dim ond peintio. Cafodd hyfforddiant gan y peintiwr Grigorij Oscheroff, a oedd yn gymydog ac yn denant i'w dad ac a oedd yn byw ar gomisiynau gan y teulu.
Ac yntau'n ddyn busnes Iddewig cyfoethog, roedd Joachim yn poeni am dwf Natsïaeth, a symudodd i Brâg gyda Cilly. Ymunodd Heinz a'i frawd â nhw ar 15 Tachwedd 1933, a'u mam rai misoedd yn ddiweddarach. Diddymwyd eu dinasyddiaeth Almaenig. Bu'r brodyr yn symud o gwmpas ac erbyn 1936 roeddent wedi ymuno â'u hewythr, Leo Koppel, ym maestref Hampstead Garden, Llundain. Yno, mynychodd Heinz yr Ysgol Peintio ac Arlunio Cyfoes ac astudio wrth draed y ffoadur o Berlin, Martin Bloch (1883-1954). Ailunodd y teulu â'i gilydd ym Mhrâg yn 1937.
Ffodd y teulu i Brydain, drwy'r Eidal ac Antwerp, yn 1938. Llwyddasant i osgoi cael eu carcharu fel 'gelynion estron' gan fod Joachim eisoes wedi talu am ddinasyddiaeth Costa Ricaidd iddynt yn Awstria. Rhwystrwyd mam Heinz rhag ymuno â nhw oherwydd problemau iechyd ac yna pan ddechreuodd y rhyfel, a bu'n rhaid iddi aros ar ôl ym Mhrâg. Yn 1942 alltudiwyd Paula i Theresienstadt ac yna ei hanfon i Dreblinka lle y'i lladdwyd.
Yn 1939 sefydlodd Joachim ffatri Aero Zip ar Ystad Ddiwydiannol Trefforest ger Pontypridd, gyda'r pencadlys yn Llundain. Erbyn 1965 roedd y ffatri'n gyfrifol am gynhyrchu un rhan o dair o'r sipiau oedd i'w hallforio o Brydain. Dychwelodd Heinz i Lundain ac i gael gwersi gan Martin Bloch. Yn 1941 ymunodd Heinz â staff dysgu Ysgol Gelf Burslem yn Stoke-on-Trent ac yn 1942 cynhaliodd arddangosfa yn yr Oriel Gelf Fodern yn Llundain, ar y cyd â Kurt Schwitters ac Oskar Kokoschka. Yn ystod ei gyfnod yn Lloegr cafodd Heinz driniaeth gan Dr. Willi Hoffer (1897-1967) o Gymdeithas Seicdreiddiad Prydain ac o hynny datblygodd ei ddiddordeb oes mewn seicdreiddiad. Rhoddodd wersi peintio i nifer o seicdreiddwyr, yn eu plith Marion Milner, Sylvia Payne a Masud Khan, a daeth yn gyfaill teuluol agos i Milner yn benodol.
Yn 1944 symudodd Heinz i dde Cymru, gan letya gyda'i gefnder a'i gyd-artist Harry Weinberger yn y Ddraenen Wen ger Pontypridd. Symudodd i Ddowlais ger Merthyr Tudful a dechrau cynnal gwersi peintio yn Sefydliad Addysg Merthyr Tudful; erbyn 1948 roedd wedi cymryd awenau Canolfan Gelf Dowlais. Roedd ganddo stiwdio mewn hen stabl yn Nowlais, ac yno y cyfarfu â'r peintiwr Renate Fischl (a elwid yn Pip Koppel) y flwyddyn honno. Roedd hi wedi ei geni yn Dresden ac wedi astudio yn Ysgol Peintio ac Arlunio East Anglia, ac fe briododd y ddau yn 1949. Cawsant chwech o blant, Hanno (1950), Ruth (1952), Siân (1955), Sarah a anwyd yn 1958 ond a fu farw mewn amgylchiadau trasig y flwyddyn ganlynol, y gwneuthurwr ffilm a'r artist Gideon (1960), a Jessica (1963). Disgrifiodd Pip ei gŵr fel dyn ecsentrig a difrifol, ond agos-atoch a chanddo berthynas dda iawn gyda'i fyfyrwyr.
Yn 1949 cynhaliodd ei arddangosfa fawr gyntaf, ar y cyd â'r cerflunydd John Brown, yn Oriel Kingly, Llundain, a chynhaliwyd arddangosfa arall yn Oriel Glyn Vivian, Abertawe, yn 1951. Yn 1956 symudodd y teulu i Highgate yn Llundain. Bu'n ddarlithydd yng Ngholeg Celf Hornsey o 1960 i 1962 ac yn Ysgol Gelf a Chrefft Camberwell o 1960 i 1963. Yn 1956 roedd yn un o sylfaenwyr y '56 Group', a ddaeth i gael ei adnabod yn ddiweddarach fel 56 Group Wales/Grŵp 56 Cymru; y nod oedd hyrwyddo celf fodernaidd yng Nghymru. Elfen allweddol yn ei ddatblygiad oedd ei berthynas agos â'r artist a'r curadur Helen Lessore (1907-1994) a'i Horiel Gelf Beaux, lle y cafodd gynnal tair arddangosfa unigol rhwng 1958 ac 1963.
Yn 1964 fe'i penodwyd yn Uwch-ddarlithydd Peintio yng Ngholeg Celf Lerpwl a symudodd y teulu i Burscough. Yn 1967 dyfnhaodd ei gyfeillgarwch â'r artist John Heartfield pan ddaeth hwnnw i aros gyda'r teulu. Ceisiodd Heartfield annog Heinz a Pip i symud i Ddwyrain Berlin. Yn 1969 daeth tyddyn ynysig Llety Caws yng Nghwmerfyn ger Aberystwyth i feddiant y teulu, ac aethant i fyw yno'n barhaol yn 1974 pan roddodd Heinz y gorau i ddysgu. Cynlluniodd ddwy stiwdio bwrpasol, a threuliodd y 1970au yn gweithio gartref yn bennaf gan gynhyrchu gweithiau mwy haniaethol.
Mae ei arddull wedi ei gwreiddio mewn mynegiadaeth Almaenig. Cedwir ei waith yng nghasgliadau Oriel Genedlaethol Cymru (Caerdydd), Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd, Castell Bodelwyddan, Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa, Amgueddfa Caerlŷr, ac Oriel Tate ac Oriel Ben Uri yn Llundain.
Yn 1980, cafodd Heinz Koppel ddiagnosis o angina. Bu farw'n annisgwyl yn ei gartref yn Llety Caws ar 1 Rhagfyr 1980. Claddwyd ef mewn mynwent fechan ar fryn sy'n edrych dros dir ei fferm. Fe'i cofir am ei gyfraniad sylweddol i gelf fodern, am ei weledigaeth artistig nodedig a swreal, ac am ei rôl yn meithrin ac ysbrydoli cenedlaethau o artistiaid y dyfodol.
Dyddiad cyhoeddi: 2025-01-31
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.