Ganwyd Karel (neu Charles) Lek ar 7 Mehefin 1929 yn Antwerp, Gwlad Belg, yn fab i Hendrik Lek (1903-1985), aelod o deulu a feddai ar fusnes torri a chaboli diemwntau, a'i wraig Sophie (1907-1994). Er mai Iddewon oeddent, roedd y teulu yn Rhyddfeddylwyr Iseldiraidd. Ffoesant o Antwerp yn 1940 wedi i'r Natsïaid oresgyn Gwlad Belg. Roedd perthnasau Sophie yn llai ffodus a chafodd bron pob un ohonynt eu llofruddio yn yr Holocost.
Roedd gan Hendrik ddinasyddiaeth ddeuol Belgaidd-Brydeinig gan fod ei daid wedi treulio chwe blynedd yn Llundain yn torri a chaboli diemwntau ar gyfer y Frenhines Victoria. (Yn y pen draw, cafodd wared ar ei basbort Belgaidd.) Yn dilyn cyfnod byr dan glo, symudodd y teulu i Fangor. Roedd diwydiant torri diemwntau Prydain wedi ei leoli ar arfordir de Lloegr, ac roedd perygl i'r lleoliad hwnnw gael ei fomio gan yr Almaenwyr. Fe'i symudwyd i Fangor, felly, gan ei fod yn ddiwydiant hanfodol ar gyfer cynhyrchu offer trachywir.
Roedd tad Karel, Hendrik, wedi dymuno bod yn artist, ond fe'i gorfodwyd i ymuno â busnes diemwntau'r teulu. Bu'n astudio'n rhan-amser yn Academi Antwerp wrth draed Lucien De Jaegher, ac yn peintio yn ei amser hamdden. Roedd hefyd yn casglu hen bethau ac ar ôl y rhyfel daeth yn ddeliwr hen greiriau. Yn date 1946 bu'n gyfrifol am adfer y Tudor Rose, adeilad o'r 15fed ganrif ym Miwmares a ddaeth yn siop iddo ac yn wrthrych llawer o'i luniau. Pan roddodd Hendrik y gorau i ddelio mewn hen greiriau trowyd yr adeilad yn oriel lle y cai ei luniau ef a Karel eu harddangos. Cafodd Hendrik gynnal arddangosfa yn yr Academi Frenhinol Gymreig ac mewn lleoliadau eraill yng Nghymru, yn ogystal ag yng Nghanada, yr Iseldiroedd ac America. Cedwir ei waith yng Nghasgliad Celf Môn.
Roedd Karel yn artist a weithiai mewn amrywiaeth eang o gyfryngau, yn ogystal â bod yn ddylunydd ac yn ddarlithydd. Syrthiodd mewn cariad â chelf yn bedair oed, pan aeth ei dad ag ef i amgueddfeydd yn Antwerp. Tyfodd i fyny yn llwyr edmygu gwaith artistiaid o Wlad Belg megis Constant Permeke a James Ensor.
Mynychodd Karel Ysgol Ramadeg Friars ym Mangor ac yna Goleg Celf Lerpwl hyd at 1952, lle y cafodd athrawon nodedig yn cynnwys Karel Vogel a Geoffrey Wedgwood. Bu'n dysgu yn East Ham yn nwyrain Llundain gan letya yn Neuadd Toynbee. Yno cyfarfu â Phyllis Pinness (1921-2009), a phriodasant yn Hampstead yn 1957, cyn dychwelyd i ogledd Cymru i ymuno â thad Karel ym Miwmares, gan fynd ati i agor siop hen greiriau gyferbyn â'i un ef. Cafodd Karel a Phyllis ddau o blant, Nicholas (1960) a Suzanne (1962).
Yn ôl Karel nid oedd arno erioed awydd i fod yn ddim byd ond peintiwr, ac ymunodd â grŵp o artistiaid gogledd Cymru a oedd yn cynnwys Syr Kyffin Williams, Elis Gwyn, Tom Gerrard, Roy Ostle, Jonah Jones, Arthur Pritchard, Claudia Williams, Donald McIntyre a Helen Steinthal. Ymunodd Karel hefyd â'r cylch o artistiaid Iddewig a oedd wedi ffoi a oedd yn cynnwys Josef Herman a Heinz Koppel.
Daeth yn aelod o'r Academi Frenhinol Gymreig yn 1954. Cafodd arddangos ei waith yn yr Academi Frenhinol, Oriel Gelf Whitechapel, Cymdeithas yr Ysgythrwyr Pren, Oriel Woodstock, y Sefydliad Brenhinol, ICA ac mewn orielau cyhoeddus yn Amsterdam a Llandudno. Ymhlith ei arddangosfeydd unigol roedd y rhai a gafodd yn yr Academi Frenhinol Gymreig, Oriel Woodstock, Oriel Bangor, ac yn Oriel Tegfryn ym Mhorthaethwy.
Cyn ei farw cyflwynodd nifer fawr o'i weithiau yn rhodd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, a phrynodd y Llyfrgell nifer o'i lyfrau arlunio hefyd. Yn ôl y Llyfrgell: 'Human nature in all its diversity was the main subject of his work, and the importance of celebrating the civility of humanity. Needless to say, his experiences as a war refugee had a great impact on him as an artist.' Cedwir ei waith mewn amrywiol gasgliadau eraill hefyd, yn cynnwys casgliad Cymdeithas Celfyddydau Cyfoes Cymru, Prifysgol Bangor, Oriel Môn, a Banc Lincoln Earl Kennedy ac Oriel Gelf Dinas Kansas yn yr Unol Daleithiau. Ym mis Chwefror 2018 cafodd paentiad Karel o gefnogwyr Dinas Bangor yn stadiwm Ffordd Farrar yn 1952, ynghyd ag ysgythriad pren o gefnogwyr Lerpwl yn cerdded i mewn i Anfield, ei brynu gan yr Amgueddfa Bêl-droed Genedlaethol ym Manceinion.
Yn 2003 dyfarnwyd MBE iddo am wasanaethau elusennol i'r GIG yng ngogledd Cymru. Roedd ei waith codi arian yn cynnwys bysgio bob wythnos mewn ysbyty lleol.
Parhaodd Karel Lek i fyw ym Miwmares. Bu farw ar 1 Mawrth 2020 yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, yn 90 mlwydd oed, a chynhaliwyd dathliad o'i fywyd yn Amlosgfa Bangor ar 10 Mawrth. Caiff ei gofio am ei lais artistig nodedig, am ei gyfraniad i'r gymuned gelfyddydol yng Nghymru, am y modd yr aeth ati i ymdrin â themâu dyngarol, am ei gyfraniadau i elusennau ac am ei ddylanwad parhaol ar dirwedd ddiwylliannol Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 2025-01-30
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.