Ganwyd Ludwig Mond ar 7 Mawrth 1839 yn Kassel, yr Almaen, yn fab i Moritz Bär Mond (1811-1891), masnachwr Iddewig, a'i wraig, Henriette (g. Levinson, 1816-1891). Addysgwyd ef mewn ysgolion yn Kassel, ac yna ym mhrifysgolion Marburg a Heidelberg. Bu'n gweithio mewn ffatrïoedd yn yr Almaen a'r Iseldiroedd, cyn symud i Loegr i ymuno â chwmni John Hutchinson & Co. yn Widnes yn 1862. Treuliodd gyfnod yn Utrecht rhwng 1864 a 1867 yn meithrin rhagor o brofiad, cyn dychwelyd i Widnes. Yn 1866 priododd ei gyfnither Frida Löwenthal (1847-1923). Cawsant ddau fab, Robert Ludwig (1867-1938) ac Alfred Moritz (1868-1930).
Yn 1873 symudodd i Winnington yn swydd Gaer ac yno sefydlodd y cwmni cemegol Brunner, Mond & Co. gyda'i bartner, John Tomlinson Brunner. Yn 1880 cafodd Ludwig ei dderbyn yn ddeiliad Prydeinig. Yn 1884 symudodd i Lundain, lle y bu'n byw weddill ei oes.
Yn 1889 llwyddodd Ludwig a Dr Karl Langer, ei gynorthwyydd o Awstria, i ddatblygu proses newydd ar gyfer adfer nicel a elwir yn broses carbonyl. Roedd y dull newydd hwn yn gwaredu amhureddau o'r mwyn, gan adael dim ond nicel pur. Ar sail y darganfyddiad, sefydlodd Ludwig The Mond Nickel Mining Company gyda'i ddau fab, Alfred a Robert, yn 1900, ac adeiladodd burfa yng Nghlydach yng Nghwm Tawe.
Dechreuodd y cwmni gynhyrchu yn 1902 a daeth â ffyniant i ardal a oedd gynt yn ddifreintiedig yn economaidd. Dewiswyd Clydach ar sail ei gysylltiadau trafnidiaeth ardderchog, a olygai ei bod yn rhwydd mewnforio deunydd crai o fwyngloddiau'r cwmni yng Nghanada. Darparai afon Tawe gyflenwad cyson o ddŵr ar gyfer y broses oeri, ac roedd y glo carreg lleol yn cynhyrchu'r egni a'r nwyon angenrheidiol ar gyfer y broses buro. Erbyn 1910 roedd dros 40 y cant o boblogaeth y pentref yn gweithio yn y burfa ac erbyn 1921 dyma'r gwaith nicel mwyaf yn y byd. Cyflwynodd Ludwig ddiwrnod gwaith wyth awr a chodi tai ar gyfer ei weithwyr.
Cafodd Ludwig ei ethol i gymrodoriaeth y Gymdeithas Frenhinol (1891), aelodaeth o Gymdeithas Gemeg yr Almaen, Società Reale Napoli (1908) ac Akademie der Wissenschaften Prwsia (1909). Derbyniodd ddoethuriaethau er anrhydedd gan brifysgolion Padua (1892), Heidelberg (1896), Manceinion (1904) a Rhydychen (1907). Dyfarnwyd 'grand cordon' Coron yr Eidal iddo yn 1909. Roedd yn bolymath gyda'i ddiddordebau yn ymestyn y tu hwnt i'w broffesiwn diwydiannol. Roedd yn hynod wybodus am hen ddodrefn a chelf, a gadawyd y rhan fwyaf o'i gasgliad celf i'r Oriel Genedlaethol yn Llundain.
Dioddefai Ludwig Mond o glefyd y galon, a bu farw ohono ar 11 Rhagfyr 1909 yn ei gartref, The Poplars, 20 Avenue Road, Regent's Park, Llundain. Tua diwedd ei oes roedd wedi ailgydio yn ei etifeddiaeth Iddewig, a chafodd ei gladdu yn unol â defodau Iddewig ym mynwent St Pancras, Finchley. Yn ddiweddarach cododd ei feibion feddadail i'r teulu ar safle ei fedd.
Mae Ludwig Mond yn cael ei gofio am ei gyfraniadau arloesol i gemeg ddiwydiannol, yn enwedig ym maes cynhyrchu nicel, am ei rôl yn sefydlu cwmnïau cemeg o bwys, am ei ddyngarwch yn cefnogi gwyddoniaeth ac addysg, ac am hyrwyddo cydweithredu gwyddonol rhyngwladol. Mae ei etifeddiaeth yn parhau i ddylanwadu ar feysydd cemeg a diwydiant.
Ganwyd Robert Mond, cemegydd ac archaeolegydd, yn Farnworth, ger Widnes, swydd Gaerhirfryn, ar 9 Medi 1867. Priododd ddwywaith: gyda Helen Edith (c. 1873-1905), trydedd ferch Julius Levis, yn 1898, a chawsant ddwy ferch; ac yn 1922 gyda Marie Louise (1869-1949), merch Guillaume Jean Le Manach o Belle-Isle-en-Terre, Llydaw, a oedd yn weddw i Simon Guggenheim. Roedd Robert yn gemegydd nodedig yn ei rinwedd ei hun a chyhoeddodd ei ymchwil wyddonol. Daeth yn gyfarwyddwr ar nifer o'r cwmnïau a sefydlwyd gan y teulu Mond. Bu'n ariannu yn ogystal ag yn gwneud gwaith maes mewn archaeoleg Eifftaidd. Cafodd ei urddo'n farchog yn 1932. Bu farw ym Mharis ar 22 Hydref 1938 a chafodd ei amlosgi ym mynwent Père Lachaise. Claddwyd ei ludw yn Belle-Île-en-Terre.
Ganwyd Alfred Mond, diwydiannwr a gwleidydd, ar 23 Hydref 1868, yn Farnworth, Widnes, swydd Gaerhirfryn. Addysgwyd ef yng Ngholeg Cheltenham ac yn ddiweddarach astudiodd yng Ngholeg Sant Ioan, Caer-grawnt, lle y methodd y tripos mewn gwyddoniaeth naturiol. Yna, astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Caeredin a chafodd ei alw i far y Deml Fewnol yn 1894, a threulio cyfnod byr ar gylchdaith Gogledd Cymru a Chaer. Priododd â Violet Goetze (1867-1945) yn 1894, a chawsant bedwar o blant, Violet Florence (1895-1973), Mary Angela (1901-1937), Henry Ludwig (1898-1949), a Rosalind Jean (1905-1966).
Ymunodd Alfred Mond â chwmnïau ei dad, Brunner Mond & Company a'r Mond Nickel Company a dod yn rheolwr gyfarwyddwr ar y ddau. Unwyd yr ail o'r rhain â thri chwmni arall i ffurfio Imperial Chemical Industries (ICI) yn 1926, ac Alfred Mond oedd y cadeirydd cyntaf. Daeth ICI yn un o gwmnïau cemegol mwyaf a mwyaf dylanwadol y byd, gydag arweinyddiaeth Alfred Mond yn allweddol yn ei ddatblygiad. Cyfrannodd ei graffter ym myd busnes a'i ysbryd arloesol at foderneiddio diwydiannau Prydain, ac roedd yn eiriolwr cryf dros ymchwil wyddonol ac effeithlonrwydd diwydiannol.
Gwasanaethodd Alfred Mond fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros seddau Caer (1906-1910), Tref Abertawe (1910-1918), Gorllewin Abertawe o 1918 hyd pan drechwyd ef yn 1923, a Sir Gaerfyrddin rhwng 1924 a 1928, gan ymuno â'r Blaid Geidwadol ym mis Ionawr 1926. Gwrthwynebai Bolisi Tir Lloyd George, a oedd, yn ei farn ef, yn gynllun i wladoli tir amaethyddol, ac yn groes i'w egwyddorion unigolyddol oedd yn ymwrthod â sosialaeth.
Roedd ei ddadleuon dros fasnach rydd a chynnydd diwydiannol yn nodweddu ei yrfa wleidyddol. Roedd yn ddyn mawr gydag acen Almaenig amlwg. Gallai fod yn ddiflewyn-ar-dafod, yn ddi-lol ac ar adegau yn anfoesgar, ac fe'i hystyrid yn ecsentrig. Daliodd sawl swydd yn y llywodraeth, gan gynnwys bod yn Brif Gomisiynydd Gweithfeydd Cyhoeddus (1916-1921), pan awgrymodd sefydlu Amgueddfa Ryfel Ymerodrol, ac yn Weinidog Iechyd (1921-1922). Roedd yn credu ei bod yn bwysig cael cydweithio agos rhwng cyflogwyr a gweithlu. Bu'n gyd-gadeirydd ar gynadleddau heddwch diwydiannol Mond-Turner (1928-1930), a oedd yn ymgais aflwyddiannus i wella'r berthynas rhwng rheolwyr ac undebau yn dilyn Streic Gyffredinol 1926.
Yng Nghlydach, parhaodd Alfred Mond ag agwedd dadol ei dad tuag at eu gweithwyr, gan gyflwyno gwyliau â thâl i'r sawl oedd yn ennill cyflog wythnosol. Talai naw swllt yr wythnos yn fwy na'r cyfartaledd cenedlaethol i'w weithlu. Darperid llawer o fwyniannau yn ogystal: creodd barciau hamdden, lawntiau bowlio a chyfleusterau chwaraeon eraill er budd a mwynhad ei weithwyr. Datblygodd gwrs golff hefyd ar gyfer y gweithlu mewn cyfnod pan ystyrid golff yn rhywbeth ar gyfer y dosbarthiadau uwch yn unig. Mae'r clwb hwnnw yn dal i fodoli yng Nghlydach. Mae beirniaid yn dadlau bod ganddo ddiddordeb yn lles ei weithwyr, ond nid mewn hawliau gweithwyr.
Gwnaed ef yn farwnig yn 1910. Yn 1928, fe'i dyrchafwyd i fod yn Farwn Melchett o Landford, yn gydnabyddiaeth o'i gyfraniad i ddiwydiant a gwasanaeth cyhoeddus. Cafodd ei ethol yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol yn 1928.
Ni chafodd Alfred Mond ei fagu'n Iddew, a phriododd yn Eglwys Loegr, ond roedd yn dal i ddioddef ymosodiadau gwrth-semitaidd. O ganlyniad, yn dilyn Datganiad Balfour yn 1917, daeth yn gefnogwr cadarn ac ymroddgar i Seioniaeth. Rhoddodd gefnogaeth ariannol i ymsefydlwyr Iddewig yn y Mandad Prydeinig a sefydlodd dref yn rhanbarth Sharon yn Israel o'r enw Tel Mond. Mae'r tŷ oedd ganddo yno bellach yn amgueddfa.
Bu farw Alfred Mond yn ei gartref yn Llundain, 35 Lowndes Square, ar 27 Rhagfyr 1930, a chladdwyd ef ym meddadail y teulu ym Mynwent Islington a St Pancras, East Finchley, Llundain. Mae'n cael ei gofio am ei ran ganolog yn natblygiad diwydiant cemegol Prydain yn sgil ei arweinyddiaeth yn ICI, am y cyfraniadau a wnaeth i wasanaeth cyhoeddus a lles cymdeithasol, am ei gefnogaeth i Seioniaeth ac achosion Iddewig, ac am ei ymdrechion diwylliannol a dyngarol. Arloesiad, ymrwymiad cymdeithasol a dylanwad parhaol ar ddiwydiant a chymdeithas yw ei etifeddiaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 2025-01-29
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.