Ganwyd Laura Ashley ar 7 Medi 1925 yn rhif 31 Station Terrace, Dowlais (cartref ei nain, Margaret Davies) yn ferch i Lewis Stanley Mountney a'i wraig Margaret (g. Davies), y ddau yn gefndryd cyntaf. Penderfyniad Margaret Mountney oedd encilio i'w chartref ar gyfer yr enedigaeth o Camden Road, Llundain, lle roedd wedi ymgartrefu ar ôl priodi, ac er iddi hi a'i baban ddychwelyd i'r ddinas wedi hynny, lle y daeth Laura yn y man yn ddisgybl yn ysgol Elmwood, Croydon, gadawodd cartref 'Grandma Wales' yn Dowlais Top argraff ddofn arni. Yma y treuliai ei gwyliau yn ystod ei phlentyndod, yn sylwi ar ddiwydrwydd y menywod wrth ei gwaith, yn creu clytwaith a matiau carpiau, yn coginio bwyd cartref heb ei ail, ac yn mynychu'r capel - lle na fenai'r ffaith fod y gwasanaethau'n cael eu traddodi drwy gyfrwng y Gymraeg ddim ar hudoliaeth yr atgof ohonynt, atgofion a roes sail i ffydd Laura fel Cristion.
Wedi i Brydain gyhoeddi rhyfel yn erbyn yr Almaen ddechrau Medi 1939, daeth yr encil yn fwy parhaol, a Margaret Mountney a'i phlant (Laura, yr hynaf, ynghyd â dau frawd ac un chwaer iau) yn symud i Station Terrace am noddfa rhag y bomiau yn Llundain. Ar ôl cyfnod yng Ngholeg Ysgrifenyddol Aberdâr, troes Laura yn ôl am Lundain, i gadw tŷ i'w thad a oedd, byth er ei brofiadau yn ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf, yn dioddef o effeithiau siel-syfrdandod ac yn cael trafferth ymdopi ar ei ben ei hun. Ymroes hefyd i'r ymdrech ryfel, gan ymuno â Chorfflu Hyfforddi y Merched yn 1941 a Gwasanaeth Llynges Brenhinol y Merched yn 1943, ac yn dilyn glaniadau D-Day ar draethau Normandi - a hithau bellach wedi cymhwyso'n Wren - bu'n gweithio yng ngogledd Ffrainc, Paris, a Brwsel. Fe'i dadfyddinwyd ym mis Awst 1946, a dychwelodd i weithio yn y Ddinas.
Daethai Laura yn gyfeillgar â llanc blwyddyn yn iau na hi, Bernard Albert Ashley (1926-2009) yn ystod blynyddoedd cynnar y rhyfel. Yn fab i groser, coleddai Bernard freuddwydion uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol, a rhoddodd cyfnod yn y Dwyrain Pell yn ymladd ar y cyd â'r Gyrcas fin ar ei benderfyniad. Yn Chwefror 1949, priododd y ddau. Er ei bod yn parhau i weithio - bellach ym mhencadlys Ffederasiwn Sefydliadau'r Merched yn Eccleston Street, Victoria - ymdrechai Laura hefyd i sicrhau cysur ei gŵr a chlydwch eu cartref (er mai fflat ddirodres dair ystafell ydoedd a 99 gris i'w chyrraedd o'r llawr), arwydd o bwysigrwydd sefydlogrwydd a chynnal traddodiad i'w hagwedd at fywyd. Yn ystod mis Mawrth 1952, bu ynghlwm wrth drefnu arddangosfa o waith llaw traddodiadol, crefftau oedd yn dwyn i gof ddiwydrwydd Grandma Wales a'r teulu yn Nowlais. Esgorodd y profiad hwn ar ymdrech i ganfod printiau mân y gellid eu defnyddio ar gyfer creu clytwaith a, gyda chymorth Bernard Ashley, at greu sgrîn sidan ar gyfer printio deunydd o'r fath ar decstiliau. Gosodwyd y sgrîn ar fwrdd y gegin yn y fflat fechan, a chychwyn ar argraffu matiau bwrdd a sgarffiau pen ar gyfer menywod ar sidan a chotwm, y defnyddiau naturiol oedd i ddod yn rhan mor bwysig o weledigaeth Laura Ashley fel dylunydd. Dosbarthwyd y cynnyrch yn lleol yn y lle cyntaf ond, ymhen ychydig fisoedd, roedd y galw'n cynyddu i'r fath raddau nes bod angen cartref mwy o faint i'r busnes. Diau nad oedd gwaredu'r fflat fechan o holl daclau'r gwaith yn dderbyniol iawn i Laura, hefyd, yn dilyn genedigaeth ei phlentyn cyntaf, Laura Jane, ar 1 Hydref 1953. Symudwyd y busnes, felly, i islawr yn Cambridge Street yn gynnar yn 1954 ac ar 19 Mawrth y flwyddyn honno, cymerwyd y cam o ffurfio cwmni yn swyddogol, Cwmni Ashley Mountney.
Roedd sgiliau peirianyddol Bernard Ashley, ynghyd â'i benderfyniad diwyro, yn greiddiol yn nyddiau cynnar y bartneriaeth busnes a oedd yn awr yn datblygu rhwng Laura a'i gŵr. Rhoddodd ef ei feddwl ar waith i greu peiriant enfawr a allai brintio defnydd yn ddi-dor, datblygiad a arweiniodd at dwf sylweddol yng nghynnyrch wythnosol yr egin fenter. Ysgogwyd Laura, hithau, i chwilota ymhellach am ysbrydoliaeth ar gyfer patrymau atyniadol. Daeth elfen Fictoraidd yn greiddiol i'r cynnyrch wedi llwyddiant ysgubol llieiniau sychu llestri a gynhyrchwyd ar thema o'r cyfnod hwn. At hyn, pan symudwyd i fwthyn gwledig ger Limpsfield ar y ffin rhwng Caint a Surrey yn dilyn genedigaeth ail blentyn, David, ar 1 Tachwedd 1954, daeth byd natur - blodau gwyllt, coedwrychoedd, caeau bychain twt, a phleser tyfu cynnyrch yn yr ardd - yn rhan o esblygiad syniadau Laura ynghylch datblygiad artistig y cwmni.
Roedd cyfnod Limpsfield yn gyfnod o dwf i Gwmni Ashley Mountney, gyda gwerthiant yn codi o £2000 i £8000 y flwyddyn rhwng 1955 ac 1960. Serch hynny, yn sgil tensiynau cynyddol rhwng Laura a'i gŵr - ei absenoldebau mynych ef, tlodi materol y teulu, a straen gofalu, bellach, am dri phlentyn bychan, yn dilyn genedigaeth Nick ar 15 Ionawr 1956 - heb sôn am niwed sylweddol i offer y busnes yn dilyn llifogydd ar afon Darent gerllaw ym Medi 1958, cymerodd Laura'r cam digynsail o ymadael â'r cartref priodasol gan yrru ymaith gyda'r plant yn ei Morris Minor rhacsiog, yn gyntaf i Eastbourne, Dwyrain Sussex, ac yna i Gymru, lle bu'n gwersylla ar lan afon Mawddach, ger Dolgellau yn sir Feirionnydd, yn ystod haf 1961. Nid oedd y briodas na'r bartneriaeth busnes drosodd, serch hynny. Yn y man fe'i dilynwyd gan Bernard ac ailymgartrefwyd yn Gwalia House, Machynlleth, lle cychwynnodd y busnes ar y bennod nesaf yn ei hanes. Â Laura yn rhedeg siop o'r cartref ym Machynlleth - gofod a ddaeth yn ganolbwynt cymunedol, diolch i'w phersonoliaeth dawel, ddigynnwrf a'i gallu i feithrin naws gartrefol a deniadol - llwyddodd Bernard i adleoli'r busnes â'i holl beirianwaith ar safle hen glwb cymdeithasol Tybrith, ger Carno, yn y lle cyntaf, cyn sicrhau gofod mwy sylweddol hen orsaf Fictoraidd Carno yn ddiweddarach.
Yn ganolog i'r datblygiadau hyn yr oedd twf gweithlu'r cwmni. Mewn ardal wledig oedd yn dioddef diboblogi cyson oherwydd diffyg cyfleoedd gwaith, cynigiai Cwmni Ashley Mountney obaith am adfywiad i'r gymuned leol. Gan dynnu ar eu profiadau eu hunain o weithio'n hyblyg, yn arbennig yn achos Laura fel mam (ganwyd Emma Mary, yr olaf o'i phedwar plentyn, ym mis Ebrill 1965), roedd gofal Bernard a Laura dros eu gweithlu yn benigamp ac yn dangos nodweddion blaengar a wnâi fywyd gwaith yn bosibl i aelodau cymunedau gwledig canolbarth Cymru, yn wryw a benyw fel ei gilydd. Gallai Bernard greu cyswllt naturiol a diymdrech â gŵr lleol ar ymweliadau cymdeithasol â'r dafarn, a gweld potensial ar gyfer Cwmni Ashley Mountney mewn rhai megis y pencampwr cneifio lleol Meirion Rowlands (m. 2008), a oedd ar fin gadael yr ardal oherwydd diffyg cyfleon gwaith. Flaenaf ym meddwl Laura, roedd estyn hyblygrwydd gweithio o'r cartref i famau ifanc, ac yn nodweddu agwedd y ddau roedd y gred mewn cyflog da, a'r diffyg pwyslais ar hyfforddiant ffurfiol - fel petai gan lechen lân y dibrofiad fwy i'w gynnig.
Newidwyd enw'r cwmni i 'Laura Ashley' yn 1961, ac erbyn canol y 1960au roedd ei gynnyrch yn gwerthu'n dda mewn siopau cegin a chrefft ym Mhrydain ac mewn siopau mawr drwy'r byd. Yn 1967, agorwyd y gyntaf o gyfres o siopau yn Llundain, yn 23 Pelham Street. Yma, rhoddwyd cyhoeddusrwydd prifddinas i ddillad Laura Ashley, gan arwain at lwyddiant oherwydd yn hytrach nag er gwaethaf eu diffyg modernrwydd. Nid ymhonnai Laura Ashley soffistigedigrwydd afieithus y chwedegau; yn wir, meddai mewn cyfweliad yn ddiweddarach, 'I am very Welsh, and... looking on at all this from the quiet mountains'. Eitemau megis y goban nos laes, Fictoraidd, a'r ffrog ddydd syml a seiliwyd ar yr un patrwm â'u hapêl hiraethlon, benywaidd, a ddenai tyrfaoedd Llundain, hyd yn oed yn oes aur y sgert fini. Wrth i'r busnes yn y brifddinas dyfu, caewyd Gwalia House ym Machynlleth, gan agor siopau pellach yn Amwythig a Chaerfaddon, ynghyd â siop Ewropeaidd gyntaf y cwmni, yng Ngenefa.
Parhawyd hefyd i ddatblygu cartref y cwmni yng Ngharno a chanolbarth Cymru, a gyda'i dwf diymarbed, penderfynwyd ffurfioli elfennau ar drefn y busnes. Penodwyd John James yn rheolwr ariannol ym mis Awst 1974, yn rhannol er mwyn rhoi sylw i'r trafferthion oedd yn codi o orfasnachu ac ehangu mor gyflym fel nad oedd byth ddigon o arian mewn llaw, a dechreuwyd cynnal cyfarfodydd bwrdd ffurfiol am y tro cyntaf. Er bod Laura'n bresennol fel dirprwy i Bernard, y Cadeirydd, delwedd y cwmni oedd o ddiddordeb iddi hi. Yn ôl y dylunydd mewnol Carolyn Warrender, 'In fact, she really wasn't a businesswoman; marketing was such a nasty word to her'. I adlewyrchu ei diffyg ymrwymiad wrth reolaeth y bwrdd, yn 1980, cyfnewidiwyd swyddogaeth Laura fel dirprwy ar Grŵp Laura Ashley am safle Cyfarwyddwr Dylunio, rôl a roddai iddi gyfrifoleb dros athroniaeth artistig y busnes. Wrth i weithgaredd y cwmni droi fwyfwy i gyfeiriad dylunio mewnol, dirprwywyd y cyfrifoldeb dros ddillad i aelod arall o'r staff, gan adael Laura'n rhydd i ddatblygu defnyddiau ac ategolion ar gyfer addurno cartrefi. Bellach, roedd Laura a'i gŵr wedi ffarwelio â Rhydoldog, y plasty ger Rhayader yng Nghanolbarth Cymru a brynwyd ganddynt yn 1973 (er iddo aros yn eu meddiant), ac yn treulio eu hamser ar y Cyfandir, i raddau helaeth er mwyn osgoi goblygiadau treth. Yn 1978, daethant yn berchnogion ar chateau Remaisnil ym Mhicardi, adeilad o'r ddeunawfed a roddai gyfle euraid i arbrofi ag addurno ystafelloedd mawreddog mewn arddull hanesyddol, gwaith oedd at ddant Laura yn y cyfnod hwn. Rhoddwyd cyfleoedd pellach iddi weithio ar addurno mewnol pan brynwyd ffermdy carreg Le Preverger ger St Tropez ar y Côte d'Azur (eiddo i'r actores Jeanne Moreau (1928-2017) yn flaenorol), ynghyd â 43 Rue Ducale, Brwsel, cartref honedig Llysgenhadaeth Ffrainc yn ystod y cyfnod Napoleonaidd, yn 1982 ac 1983.
Addurno oedd ar feddwl Laura wrth iddi ddynesu at ei phen-blwydd yn drigain oed ym mis Awst a Medi 1985. A hithau wedi gorfod cadw draw o Brydain am gyfnodau estynedig er mwyn boddhau gofynion treth (a cholli digwyddiadau pwysfawr megis derbyn Gradd Doethur mewn Llenyddiaeth er Anrhydedd o Brifysgol Llundain a mynychu priodas ei mab ieuengaf, Nick, yn 1984), daeth cyfle i ddychwelyd ar yr adeg arwyddocâol hon, i gynorthwyo ei merch hynaf, Jane, a oedd yn disgwyl ei baban cyntaf, i ailwneud bwthyn yn y Cotswolds, sir Gaerloyw. Gan ymroi i'w swyddogaeth fel mam yn ogystal ag ymbleseru drwy sicrhau clydwch a hyfrydwch y cartref newydd, gwnaeth Laura benderfyniad arwyddocaol i un o'i phlant eraill, yn ogystal, drwy ysgrifennu at ei mab Nick ar 24 Awst 1985 yn ymddiswyddo fel Cyfarwyddwr Dylunio Grŵp Laura Ashley (oedd o fewn dim i gael ei arnofio ar y farchnad stoc) ac yn trosglwyddo'r cyfrifoldeb i'w ddwylo ef.
Yn unol â'i dymuniad, dathliad cwbl ddirodres o'i phen-blwydd a gafodd Laura, yng nghwmni ei merch a'r ŵyr newydd, ei mam, ei chwaer, Mary Coates, a Bernard. Y noson honno, cododd o'i hystafell wely ym mwthyn ei merch heb roi'r golau ymlaen, a syrthiodd i lawr y grisiau gan arwain at anafiadau difrifol i'r pen. Er iddi gael ei hedfan i ysbyty Walsgrave, Coventry, a goroesi am ddeng niwrnod ar beiriant cynnal bywyd, nid adenillodd ymwybyddiaeth a bu farw ar 17 Medi 1985. Cynhaliwyd gwasanaeth angladdol yn eglwys plwyf Carno, gyda Chôr Meibion Dowlais (y bu hi'n is-lywydd arno) yn bresennol i ganu emyn, cyn ei rhoi i orffwys yn y fynwent.
Ymhen deufis wedi ei marwolaeth, arnofiwyd y cwmni, ei werth yn bron i £270 miliwn, gyda £1.25 miliwn o gyfranddaliadau yn cael eu neilltuo heb gost i'r staff - arwydd olaf o ofal Laura dros y 'teulu' estynedig hwn. Er gwaethaf y diddordeb cychwynnol eithriadol, blinwyd y cwmni gan helyntion yn y blynyddoedd dilynol ac erbyn 2001 roedd cysylltiadau'r teulu â'r busnes wedi dod i ben. Serch hynny, bu Jane, y ferch hynaf, yn gweithredu hyd 2020 fel Cyfarwyddwr yr elusen gofrestredig Ymddiriedolaeth Teulu Ashley, a sefydlwyd yn wreiddiol yn 1986 o dan yr enw 'Ymddiriedolaeth Laura Ashley', a'i chwaer Emma Shuckburgh yn Gyfarwyddwr Cymru'r Ymddiriedolaeth o 1999.
Dyddiad cyhoeddi: 2025-01-13
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.