Ganwyd Harry O'Connell ar 14 Mai 1886 yn Georgetown, British Guiana (Guyana bellach). Daeth i Gaerdydd tua dechrau'r 1910au, a bu'n byw am flynyddoedd lawer yn 27 Stryd Maria yn Nhre-biwt gyda'i wraig o Gymru. Saer llongau ydoedd wrth ei grefft, ac ymfalchïai yn ei allu i sbleisio rhaffau a rigio llongau. Dyfarnwyd iddo Ruban y Llynges Fasnachol a Rhuban Medal Prydain am ei wasanaeth ar longau masnachol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Erbyn y 1920au cynnar roedd wrthi'n trefnu gwrthwynebiad i bolisïau hiliol Undeb Cenedlaethol y Morwyr a'r Tanwyr, a ddaeth yn 1926 yn Undeb Cenedlaethol y Morwyr (NUS). Yn Ionawr 1922 arweiniodd ddirprwyaeth o forwyr o liw at bwyllgor gwaith yr undeb i brotestio yn erbyn eu triniaeth anghyfartal fel aelodau o'r undeb, gan dynnu sylw at arferion hurio gwahaniaethol a diweithdra sylweddol ymhlith morwyr o liw ar y pryd. Nododd O'Connell yn y drafodaeth ddilynol ei fod ef ei hun wedi bod allan o waith ers dwy flynedd.
Honnodd yr Affricanwr Americanaidd St Clair Drake, anthropolegydd a dreuliodd gyfnod yng nghymuned dociau Caerdydd ar ddiwedd y 1940au, mai O'Connell oedd 'the best known, most aggressive and most vocal leader in the community' yn y cyfnod 1927-1939.
Yn y blynyddoedd rhwng y rhyfeloedd parhaodd O'Connell yn weithgar mewn ymdrechion yn erbyn yr Undeb a'i gysylltiadau â pherchnogion llongau, yr heddlu a Chyngor Dinas Caerdydd. Yn 1927 chwaraeodd ran ganolog yn ffurfio'r 'Colonial Defence Association' (CDA), cymdeithas yng Nghaerdydd gyda chysylltiad â Phlaid Gomiwnyddol Prydain Fawr â'r nod o herio hiliaeth ac anffafriaeth. Bu'n gadeirydd ar y gymdeithas gan gydweithio â'r morwr o Farbados Jim Nurse, yr is-gadeirydd, a rhai dynion gwyn adain chwith fel yr undebwr Jim Henson a ddiarddelwyd o'r NUS am ddilyn y Streic Gyffredinol yn 1926, ac a oedd wedi ymbellhau, yn rhannol o leiaf, o safbwyntiau hiliol cynharach.
Cymerodd O'Connell a'r CDA ran mewn nifer o ymgyrchoedd megis herio cyfraddau cymorth diweithdra yn y ddinas a wahaniaethai ar sail hil. Yn 1935 bu O'Connell ar flaen y gad gyda'r gwrthwynebiad yng Nghaerdydd i'r 'Tramp Shipping Subsidy Act' a oedd yn seiliedig ar gyfaddawd gyda'r NUS yn cefnogi cymorthdaliadau i berchnogion llongau tramp yn gyfnewid am flaenoriaethu cyflogaeth morwyr 'gwyn Prydeinig'. Roedd y llongau tramp a gludai gargo o borthladd i borthladd yn ganolog i economi porthladd Caerdydd, ond roedd y fasnach yn dirywio erbyn y 1930au. Yn sgil gweithredu'r ddeddf daeth yn gynyddol anodd i forwyr o liw gael gwaith ar longau tramp, ac wrth ymgyrchu'n erbyn yr anffafriaeth cydweithiodd O'Connell â'r 'League of Coloured Peoples', a hefyd y Capten Arthur Evans, AS Ceidwadol De Caerdydd, a bu'n trefnu ymhlith morwyr o wahanol ethnigrwydd yn Nhre-biwt.
Dengys y cysylltiadau hyn ei fod yn medru gweithio ar draws rhaniadau gwleidyddol pan oedd angen, er gwaethaf ei ddaliadau cadarn ei hun fel comiwnydd. Yn ogystal â'r gwaith trefnu, lleisiodd O'Connell feirniadaeth chwyrn o ddarluniadau hiliol o Dre-biwt. Mewn llythyr a gyhoeddwyd yn y Western Mail yng Ngorffennaf 1935, beirniadodd adroddiad yn ailgylchu rhagfarnau difrïol am yr ardal a gawsai gyhoeddusrwydd yn y papur. Heriodd O'Connell y ffordd yr oedd yr awdur yn patholegu plant o uniadau hil-gymysg yng Nghaerdydd ac amlygodd y rhagdybiaethau trefedigaethol y tu ôl i'r adroddiad. Cwynodd y llythyr hefyd am ymosodiadau ar ferched gwyn dosbarth canol, fel gwraig O'Connell ei hun, a oedd wedi priodi morwyr Du gan wynebu cryn ragfarn yn aml.
Wrth herio anffafriaeth a hiliaeth yng Nghaerdydd ac mewn undebau llafur tynnai O'Connell ar ei brofiad hir o ymwneud â rhwydweithiau'r chwith rhyngwladol. Ymunodd â Phlaid Gomiwnyddol Prydain Fawr - yn rhan gyntaf y 1920au yn ôl pob tebyg - ac roedd yn ffigwr allweddol yn y 'Seamen's Minority Movement' a sefydlwyd yn y 1920au i herio'r NUS. Yn sgil y gweithgarwch hwn bu'n rhan o drefniadaeth forwrol cysylltiedig â Chymdeithas Gydwladol y Gweithwyr a chydweithiodd â ffigyrau dylanwadol fel y radicalydd o Drinidad George Padmore. Ysgrifennodd O'Connell i'r Negro Worker, papur yr 'International Trade Union Committee of Negro Workers', lle disgrifiwyd ef fel 'leader of Communist seamen in England'. Bu'n gynrychiolydd yng Nghyngres Ryngwladol y Morwyr a Gweithwyr Porthladdoedd yn Altona, ger Hamburg yn 1932 lle dadleuodd fod 'opportunistic tactics' wedi achosi i forwyr Arabaidd, Du a Somali golli ffydd yn y mudiad.
Nid ar chwarae bach y bu i O'Connell leisio'r fath safbwyntiau beirniadol mewn sefydliadau Comiwnyddol wedi eu dominyddu gan bobl wyn. Daliodd ei dir hefyd yn erbyn rhai o fawrion y Blaid megis George Hardy a oedd yn ei farn ef yn rhwystro trefnwyr Du rhag cael swyddi arweiniol. Serch hynny, arhosodd O'Connell yn aelod teyrngar o'r Blaid gan sefyll (yn aflwyddiannus) mewn etholiad Cyngor Caerdydd yn ward Adamsdown yn 1950. Mae llythyr at ei gyfaill Peter Blackman, Comiwnydd o Farbados, yn Ionawr 1940 lle mynegodd ei bryder 'all activities on behalf of our People have come to a close' yn dangos nad oedd, serch hynny, yn derbyn yn ddigwestiwn safbwyntiau a record y Blaid ar faterion hil. Sonnir yn y llythyr hefyd am effaith andwyol cyfnodau hir i ffwrdd ar y môr ar ei waith trefnu gwleidyddol a'i gysylltiadau.
Yn sgil ei weithgareddau gwleidyddol adain chwith dioddefodd aflonyddu a gormes gan yr heddlu a'i wahardd gan gyflogwyr. Cafodd ei arestio yn Hydref 1935 am arwain protest i swyddfa conswl yr Eidal yng Nghaerdydd yn rhan o wrthwynebiad byd-eang i ymosodiad Mussolini ar Ethiopia. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, tra'n gwneud gwaith ar y lan, cafodd ei wahardd a chollodd ei docyn mynediad i'r dociau. Mewn ymateb i gwestiwn seneddol gan Arthur Evans AS am achos O'Connell dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref Herbert Morrison na fyddai 'in the national interest' i ganiatáu iddo wasanaethu ar longau Prydeinig nac estron. Gwrthwynebwyd ei waharddiad gan Bwyllgor Tramor Cyngor Cenedlaethol Hawliau Dinesig - sefydliad a gynhwysai radicaliaid gwrth-drefedigaethol allweddol megis V.K. Krishna Menon a Peter Blackman.
Bu i'w Gomiwnyddiaeth ddogmatig - roedd ganddo bortread crôm o Stalin yn ei gartref ar Stryd Maria - achosi peth tensiwn rhyngddo a'i gyd-radicaliaid Du. Broliodd am chwalu grwpiau yng Nghaerdydd a ffurfiwyd i brotestio yn erbyn cynlluniau am dai didoledig oherwydd bod rhai ymgyrchwyr, fel Jim Nurse ac Aaron Mossell, wedi cymryd rhan yn y Gyngres Holl-Affricanaidd ym Manceinion yn 1945, cyfarfod a gondemniwyd gan O'Connell fel un Trotskyaidd. Dyna arwydd o'r math o densiynau o fewn y CDA a achoswyd gan wahanol sabwyntiau gwleidyddol y chwith Du, a chododd tensiynau tebyg rhwng O'Connell a rhai o arweinwyr cymunedau Arabaidd Caerdydd. Roedd gwrywoldeb ymosodol yn wedd arall ar ei wleidyddiaeth a achosodd densiynau. Tystiodd merched iau yn y gymuned megis Olwen Watkins eu bod yn gweld O'Connell a dynion Du eraill y Chwith yn llym a bygythiol.
Ar ddiwedd y 1940au ymosododd yr NUS ar forwyr o liw eto, gan basio cynnig yn ei gynhadledd yn 1948 i gefnogi'r 'bar lliw'. Gweithiodd O'Connell gyda'i gyd-forwyr o liw i herio hiliaeth cangen Caerdydd yr undeb unwaith yn rhagor. Trwy gefnogi enwebiadau ei gilydd, llwyddodd O'Connell a Dualeh Mohammed Aftaag, taniwr llong Somali a chenedlaetholwr gwrth-drefedigaethol a oedd yn aelod o'r Gynghrair Ieuenctid Somali, i gael swyddi yn y gangen a phasio pleidlais diffyg hyder mewn swyddog hiliol. Yn y pen draw daeth O'Connell yn gadeirydd cyfarfodydd yn y gangen yr oedd wedi ymgyrchu yn ei herbyn yn gyson rhwng y rhyfeloedd. Parhaodd i arddel polisi milwriaethus yn yr undeb tan ddechrau'r 1950au o leiaf. Yn y cyfraniad olaf ganddo i drafodaethau yn y gangen a gofnodwyd, mewn cyfarfod ar 4 Ionawr 1952, soniodd am ei obaith y byddai'r dydd yn dod 'when Union members joined ships and not just a certain type of nationality or tribe, as we were going forward as Union members now'.
Mae dyddiad marwolaeth Harry O'Connell yn anhysbys.
Dyddiad cyhoeddi: 2025-02-24
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.