Ganwyd Giuseppe Rinvolucri ar 8 Medi 1890 yn Savigliano, Piedmont, yr Eidal, yn fab i Guglielmo Rinvolucri, peiriannydd, a'i wraig Maria Anna Ferrero. Mae'n debyg ei fod yn unig blentyn, a bu farw ei dad mewn damwain trên pan oedd Guiseppe yn ifanc iawn. Bu farw ei fam hefyd cyn iddo dyfu'n oedolyn. Ar ôl mynychu ysgolion ym Mondovì, Piedmont, astudiodd beirianneg ym Mhrifysgol Bolitechneg Turin, gan arbenigo mewn peirianneg fwyngloddio a graddio gyda doethuriaeth yn 1914.
Yn 1915 ymunodd â byddin yr Eidal fel is-lefftenant yn Ail Gatrawd y Peirianwyr. Bu'n ymladd yng ngogledd yr Eidal yn erbyn yr Ymherodraeth Awstro-Hwngaraidd, hyd at frwydr dyngedfennol Afon Piave yn 1918. Parhaodd yn swyddog wrth gefn yn y gatrawd, a'i ddyrchafu'n gapten, tan 1929. Ar yr un pryd gweithiodd fel peiriannydd sifil yn Turin yn adeiladu ffyrdd a phontydd i lywodraeth leol.
Priododd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ond chwe mis wedyn bu farw ei wraig (enw anhysbys) o'r ffliw Sbaenaidd. Yn y 1920au cwrddodd ag Anna Gwenmore Sopwith (1879-1931), Saesnes o Swydd Stafford a oedd ar ei gwyliau yn yr Eidal. Priododd y ddau yn Turin yn 1925. Dychwelasant i Swydd Stafford yn 1928, a symud wedyn i Gonwy yn 1929. Bu Anna farw yn 1931, ac yn ei alar trodd Giuseppe at grefydd, gan dreulio rhai misoedd yn Piedmont yn hyfforddi i fod yn offeiriad, ond penderfynodd nad oedd y bywyd crefyddol yn gweddu iddo, ac arhosodd yn ŵr lleyg.
Dychwelodd Rinvolucri i Gymru wedyn a bwrw ymlaen â'i yrfa mewn pensaernïaeth eglwysig. Yn 1930 roedd wedi cynllunio newidiadau ac ychwanegiadau i hen neuadd ddrilio filwrol yng Nghonwy, ar Frynhyfryd y tu allan i furiau'r dref, i fod yn neuadd blwyf ar gyfer Eglwys Gatholig Sant Mihangel a'r Holl Angylion. Wedyn, cynlluniodd Groto wedi ei ysbrydoli gan Lourdes y tu ôl i'r eglwys, gan gynnwys cerflun Calfari o faintioli llawn, a godwyd yn 1932, a deuddeg Safle'r Groes, y rhan fwyaf wedi eu mewnosod ym muriau'r dref gerllaw, a gysegrwyd yn 1934.
Yn gysylltiedig â hyn gwnaeth Rinvolucri ysgrifennu a chynllunio Ddrama'r Dioddefaint, mewn cydweithrediad â'r offeiriad plwyf y Tad McCullagh. Roedd y ddrama i fod yn gorymdaith drwy strydoedd Conwy i'r Groto ar Wener y Groglith 1934. Dywedodd Rinvolucri amdani, 'hardly any town in Europe could give a better architectural image of Jerusalem or form a more ideal setting of the tragic processional way to Calvary.' Ond nid felly y gwelodd yr heddlu bethau, a gwaharddwyd yr orymdaith ganddynt oherwydd y perygl o amharu ar drafnidiaeth.
Dros y blynyddoedd nesaf cynlluniodd Rinvolucri nifer o eglwysi Catholig arloesol yng ngogledd Cymru a Sir Amwythig. Y gyntaf oedd Eglwys y Prynwr Sanctaidd, Porthmadog, a agorwyd yn 1933. Mae yn y dull Romanésg syml, gyda dylanwadau Celf a Chrefft. Mae corff yr eglwys a'r gangell yn hirsgwar, uchel a chul, gyda muriau o feini rwbel plaen y tu fewn a'r tu allan. Concrit oedd y to yn wreiddiol, gyda nenfwd mewnol crwm, ond to llechi serth sydd arni bellach. Flwyddyn yn ddiweddarach agorwyd ei eglwys St Therese o Lisieux yn Abergele. Adeilad neo-Bysantaidd ydyw ar ffurf croes gyda thalcenni crynion hanner cylch, o goncrit cyfnerthedig ag arwyneb o feini y tu allan. Ei eglwys nesaf, a agorwyd yn 1936, oedd San Pedr yn Llwydlo, Sir Amwythig, eglwys a gyfunai ddylanwadau Byzsantaidd a Romanésg. Adeilad concrit cyfnerthedig gydag arwyneb o feini oedd hwnnw hefyd.
Y flwyddyn wedyn, 1937, yr agorwyd ei eglwys hynotaf a mwyaf modernaidd, Eglwys Fair, Seren y Môr a Santes Gwenfrewi, yn Amlwch, Môn. Ar gyfer hon hepgorwyd y gyfeiriadaeth arferol at bensaernïaeth eglwysig gynnar, gan gymryd ysbrydoliaeth o dreftadaeth forwrol Amlwch. Wedi ei hadeiladu o goncrit cyfnerthedig yn bennaf, mae'r to ar ffurf parabola sydd i fod i edrych fel corff llong ar i fyny, ac mae'r ffenestri yng ngodre sylfaen yr adeilad yn debyg i bortyllau. Mae rhesi o ffenestri gwydr lliw bychain yn y to, a ffenestr ar ffurf seren uwchben y fynedfa. Fe'i disgrifiwyd fel 'a piece of Italian architectural daring' yn llawlyfr Pevsner ac fel 'a rare and unique church' gan Gymdeithas yr Ugeinfed Ganrif.
Eglwys olaf Rinvolucri oedd 'St Teresa of the Child Jesus', yn Princes Risborough, Swydd Buckingham, a agorwyd yn 1938. Gwelir yn hon y dylanwadau Baróc a Bysantaidd arferol, ac yn wahanol i'w eglwysi eraill adeilad o friciau ydyw ar ffurf drionglog a hecsagonol yn hytrach nag ar ffurf croes neu hirsgwar.
Yn 1936 dyweddïodd Rinvolucri â Lucy Cecilia Shaw, athrawes lefaru o Landrillo-yn-Rhos, ond ni ddigwyddodd y briodas. Dair blynedd wedyn, ar 29 Mehefin 1939 yn Eglwys San Pedr, Caerdydd, priododd Dr Mina Josephine Moore (1902-1991), darlithydd yn Adran Hyfforddi Athrawon Coleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy a anwyd yn Lerpwl ac ennill ei doethuriaeth o Brifysgol Strasbourg yn Ffrainc. Ar ôl iddynt briodi aeth hi i fyw gydag ef yng Nghonwy a chymryd swydd darlithydd ym Mhrifysgol Lerpwl, lle cafodd yrfa academaidd lwyddiannus iawn ym maes addysg, gan gyhoeddi'n helaeth. Dyfarnwyd iddi'r Médaille de Vermeil a'r Officier d'Académie gan Lywodraeth Ffrainc am ei gwasanaeth i ddiwylliant Ffrengig ym Mhrydain.
Ar ôl i'r Eidal gyhoeddi rhyfel â'r DU ym Mehefin 1940 dynodwyd pob dinesydd Eidalaidd, gan gynnwys Rinvolucri, yn estron-elynion. Fe'i daliwyd, ond cafodd ei ryddhau ddeufis yn ddiweddarach oherwydd diffyg cyfleusterau meddygol yn y gwersyll. Serch hynny, ym Mawrth 1941 fe'i carcharwyd eto mewn gwersyll ar Ynys Manaw oherwydd honiadau am gydymdeimlad Ffasgaidd. Yn y blynyddoedd ar ôl marwolaeth ei wraig Anna arferai wisgo dillad duon. Honnodd ef mai ei uchelgais i fod yn offeiriad oedd y rheswm am hynny, ond roedd eraill yn ei gweld yn wisg Ffasgaidd. Gwyddid iddo gwrdd â chyn-swyddogion Eidalaidd eraill yn Lerpwl ar adegau, ac aeth yn ôl i'r Eidal yn 1935 am hyfforddiant milwr wrth gefn. Rheswm arall am ei ddrwgdybio oedd y ffaith ei fod yn gyfeillgar iawn â Robert O. F. Wynne, perchennog ystad Garthewin yn Llanfair Talhaearn a oedd yn genedlaetholwr Cymreig blaenllaw ac yn gefnogwr i Saunders Lewis yn ystod achos yr Ysgol Fomio yn 1936.
Cynhaliodd ei wraig Mina ymgyrch lythyru daer i ddarbwyllo'r awdurdodau ei fod yn deyrngar ac y dylai gael ei ryddhau, ac enillodd gefnogaeth nifer o bobl flaenllaw, gan gynnwys yr ASau Megan Lloyd George ac Ivor Thomas, yn ogystal ag Archesgob Caerdydd Michael Joseph McGrath a'r pensaer Clough Williams-Ellis. Rhyddhawyd ef yn y pen draw ym Mawrth 1943 ar raglen waith i garcharorion ac anfonwyd ef i weithio ar fferm yn Swydd Rydychen am rai misoedd cyn dychwelyd adref i Gonwy. Ddaeth yn ddinesydd Prydeinig o'r diwedd yn 1951, wedi i'w gais cyntaf gael ei wrthod yn 1938.
Ganwyd mab cyntaf Guiseppe a Mina, Mario, ychydig cyn iddo gael ei garcharu, a ganwyd mab arall, Bernardo, yn 1947. Addysgwyd y ddau gartref gan eu rhieni. Cartref y teulu oedd St Francis Grange, Glan Conwy, tŷ art deco a ddyluniwyd ac a adeiladwyd gan Rinvolucri ei hun yn 1937.
Rhoddodd y gorau i'w waith pensaernïol ar ôl cwblhau ei res o eglwysi yn y 1930au; yng Nghofrestr 1939 disgrifiodd ei alwedigaeth fel 'Engineer retired and market gardener'. Roedd ganddo ryw ddwy erw o dir lle bu'n tyfu cennin Pedr a mefus ar gyfer gwestai Llandudno, a chadwai ieir a geifr. Rhoddod wersi Eidaleg hefyd, gan arwain teithiau iaith a diwylliant i'r Eidal. Sefydlwyd Gwobr Giuseppe Rinvolucri, i'r myfyriwr gorau ar y cwrs Eidaleg i ddechreuwyr, ym Mhrifysgol Lerpwl er cof iddo gan ei wraig.
Bu Giuseppe Rinvolucri farw o drawiad ar y galon yn ei gartref ar 22 Mawrth 1962. Fe'i claddwyd ym Mynwent St Agnes, Conwy, ynghyd â'i wraig Mina.
Dyddiad cyhoeddi: 2025-01-10
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.