TERLEZKI, STEFAN (1927 - 2006), dyn busnes a gwleidydd

Enw: Stefan Terlezki
Dyddiad geni: 1927
Dyddiad marw: 2006
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: dyn busnes a gwleidydd
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Matthew W. Day

Ganwyd Stefan Terlezki ar 29 Hydref 1927 yn Oleshiw, pentref yng Ngwlad Pwyl yr adeg honno (yn Ivano-Frankivsk Oblast, Wcráin bellach), yn fab i Oleksa Terletskyj (m. 1986), ffermwr a weithiai mewn ffatri friciau hefyd, a'i wraig Olena (m. 1943). Fe'i magwyd yn Antoniwka yn yr un ardal.

Meddiannwyd Gorllewin Wcráin gan Rwsia yn 1939 a daeth yn rhan o'r Undeb Sofietaidd. Arestiwyd nifer o aelodau o deulu Stefan a'u hanfon i Siberia dan amheuaeth o fod yn genedlaetholwyr Wcrainaidd. Yn 1941 goresgynnwyd yr ardal gan yr Almaen. Yn ystod y cyfnod hwn bu Stefan Terlezki yn dyst i lofruddiaethau nifer o Iddewon. Trefnodd ei dad iddo gaffael tystysgrifau bedyddio ffug er mwyn achub cynifer â phosibl o'u cymdogion Iddewig.

Yn 1942, roedd Terlezki ymhlith y plant ysgol a ddewiswyd gan yr Almaenwyr i wasanaethu'n gaethlafurwyr, ac ni fyddai'n gweld ei dad eto am 42 o flynyddoedd. Ar ôl cyrraedd canolfan ddosbarthu yn Awstria, fe'i prynwyd mewn marchnad gaethweision yn Voitsberg, Styria gan ddyn o'r enw Hansel Böhmer a'i gorfododd i weithio ar fferm ei deulu. Rhwng 1942-45 bu'n llafurwr ar amryw ffermydd yn yr ardal. Pan gyrhaeddodd y fyddin Sofietaidd ym Mai 1945 gwysiwyd Terlezki i'r Fyddin Goch i ymladd yn erbyn Siapan, ond llwyddodd i ddianc yn ôl i Voitsberg, a oedd erbyn hynny'n rhan o'r parth Prydeinig yn Awstria, lle cafodd waith fel cogydd mewn cantîn gwersyll milwrol. Yn 1948 ymfudodd i Brydain ac fe'i danfonwyd i weithio fel glöwr yng Nghymru.

Roedd ei brofiad arlwyo'n fodd iddo gael gwaith amgen yn coginio mewn llety glowyr. Ar ôl dilyn cwrs yng Ngholeg Technoleg Bwyd a Masnach Caerdydd, gweithiodd ei ffordd i fyny i fod yn rheolwr gwesty'r Cedars yn Llanisien, ac yn y pen draw daeth yn berchennog gwestai yn Aberystwyth a Chaerdydd. Priododd ei wraig Mary o Gwm Rhondda yn 1955 a chawsant ddwy ferch, Helena a Caryl.

Dechreuodd gyrfa wleidyddol Terlezki yn 1968 pan ddaeth yn aelod Ceidwadol o Gyngor Dinas Caerdydd. Safodd yn aflwyddiannus mewn dau etholiad seneddol yn 1974 yn erbyn James Callaghan yn sedd De Ddwyrain Caerdydd. Daeth yn adnabyddus yn gyhoeddus, gan wasanaethu fel cadeirydd Clwb Pêl-droed Caerdydd rhwng 1975 a 1977, ond penderfynodd beidio â theithio i'r Undeb Sofietaidd pan chwaraeodd Caerdydd yn erbyn Dinamo Tbilisi yng Nghwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop rhag ofn cael ei arestio a'i ddanfon i Siberia fel dihangwr o'r fyddin.

Yn dilyn ymddeoliad George Thomas, etholwyd Terlezki yn AS yn sedd Gorllewin Caerdydd ym muddugoliaeth ysgubol y Ceidwadwyr yn 1983. Daeth yn adnabyddus am ei ddaliadau adain dde, megis adfer dienyddio, gwasanaeth milwrol gorfodol a chosb gorfforol i hwliganiaid. Ceisiodd hefyd newid Gŵyl y Banc Calan Mai i fod yn ddiwrnod cenedlaethol Winston Churchill, gan mai Churchill oedd ei arwr gwleidyddol am iddo ennill y rhyfel. Oherwydd y driniaeth a ddioddefodd gan y Sofietiaid a'r Almaenwyr roedd yn casáu totalitariaeth o bob math, a disgrifiodd ei wlad fabwysiedig unwaith fel 'nef ar y ddaear'.

Roedd tad a chwaer Terlezki wedi cael eu danfon i Siberia yn y 1950au yn rhan o'r carthu a fu ar genedlaetholwyr Wcráin gan Stalin wedi'r rhyfel, a llwyddodd Terlezki i ddarbwyllo'r Ysgrifennydd Tramor Geoffrey Howe i godi'r mater gydag Andrei Gromyko. Yn Hydref 1984 cafodd ei dad ganiatâd i ddod i Lundain am fis, a dychwelyd wedyn i Wcráin lle bu farw yn 1986. Er na allai Terlezki fynd i'r angladd, aeth ef a'i deulu i'w bentref genedigol yn nes ymlaen.

Gweithiodd Terlezki yn galed dros ei etholwyr a llwyddodd i gynyddu ei bleidlais yn etholiad 1987, ond serch hynny collodd ei sedd i Rhodri Morgan o'r Blaid Lafur oherwydd cwymp pleidlais y Democratiaid Cymdeithasol. Yn 1989, oherwydd ei brofiadau adeg y rhyfel, penodwyd Terlezki gan y Llywodraeth Geidwadol yn gynrychiolydd y DU ar Bwyllgor Hawliau Dynol Cyngor Ewrop. Wedi chwalfa'r Undeb Sofietaidd yn 1991, bu Terlezki yn gefnogol i annibyniaeth Wcráin ac yn feirniadol o'r cysylltiadau agos a gadwodd â Rwsia. Treuliodd weddill ei fywyd yn hyrwyddo buddiannau Wcráin megis ymuno â'r Undeb Ewropeaidd. Dyfarnwyd CBE iddo yn 1992. Cyhoeddodd ei huangofiant, From War to Westminster, yn 2005.

Bu Stefan Terlezki farw o gancr y prostad ar 21 Chwefror 2006 yn Ysbyty Felindre, yr Eglwys Newydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2025-03-18

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.