HERKOMER, Syr HUBERT von (1849 - 1914), arlunydd, dylunydd ac arloeswr ffilm

Enw: Syr Hubert Von Herkomer
Dyddiad geni: 1849
Dyddiad marw: 1914
Priod: Anna Caroline Ada Herkomer (née Weise)
Priod: Eliza Louisa Herkomer (née Griffiths)
Priod: Margaret Herkomer (née Griffiths)
Plentyn: Siegfried Hubert Herkomer
Plentyn: Elsa Anna Iole MacDonald (née Herkomer)
Plentyn: Lorenz Hans Lawrence Herkomer
Plentyn: Gwenddydd Herkomer
Rhiant: Josephine Herkomer (née Niggl)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arlunydd, dylunydd ac arloeswr ffilm
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth; Eisteddfod
Awdur: Rita Singer

Ganwyd Hubert von Herkomer ar 26 Mai 1849 yn Waal ger Landsberg yn nhywysogaeth Almaenig Bavaria, unig blentyn Lorenz Herkomer (1815-1888), crefftwr coed, a'i wraig Josephine Niggl (1822-1879). Yn 1851, ymfudodd y teulu i America, lle gwnaeth Lorenz fywoliaeth trwy waith coed a Josephine trwy wersi cerddoriaeth, er na fedrai Saesneg ar y pryd. Effeithiodd yr hinsawdd ar iechyd Hubert a Josephine a chafodd Lorenz drafferth i gael comisynau creadigol, felly dychwelodd y teulu i Ewrop ac ymgartrefu yn Southampton yn 1857.

A'r teulu'n byw mewn llety di-nod yn Windsor Terrace, gwaith Josephine fel athrawes gerdd oedd eu prif ffynhonnell incwm. Gwnaeth Lorenz fân swyddi am dâl bychan, ac ef a fu'n gyfrifol am addysg Hubert, gan ddysgu egwyddorion gwaith coed ac arlunio iddo. Yr adeg honno y dysgodd Hubert Saesneg. Yn 1865, aeth Lorenz â Hubert i Munich i astudio celf, tra bu yntau'n gweithio ar gomisiwn am set o ffigyrau cerfiedig. Parhaodd Hubert â'i astudiaethau ffurfiol yn 1866 trwy ymgofrestru mewn dosbarth celf yn South Kensington. Dechreuodd roi gwersi arlunio a cherddoriaeth hefyd, a threfnodd ei arddangosfa gyhoeddus gyntaf. Cafodd gomisiynau'n fuan wedyn am ychydig o ddarluniau mewn papurau Saesneg, gan gynnwys y cyfnodolyn efengylaidd Good Words. Ei lwyddiant masnachol cyntaf oedd darluniau ar gyfer papur newydd darluniadol wythnosol, The Graphic.

Yn ystod haf 1870, arddangosodd ei waith yn Oriel Dudley ac ymsefydlu fel artist newydd ym myd celf Prydain. Gwnaeth ragor o ddarluniau ar gyfer The Graphic y flwyddyn wedyn, gan sicrhau incwm cyson iddo'i hun a'i rieni a digon o fodd iddo deithio i Bavaria am gyfnod hwy a gweithio ar lun olew mawr, 'After the Toil of the Day', a gyflwynodd wedyn i'r Academi Frenhinol. Ar 10 Ionawr 1872, daeth Hubert Herkomer yn ddinesydd Prydeinig.

Yn 1873, gwerthodd Herkomer lun dyfrlliw, 'Fairy Allegory', i Charles William Mansel Lewis (1845-1931) o Lanelli, a thrwy hynny gychwyn cyfeillgarwch oes. Roedd Mansel Lewis nid yn unig yn noddwr a chasglwr celf, ond hefyd yn artist ei hun a rannai lawer o ddelfrydau esthetaidd Herkomer. Bu'r cyfeillgarwch hwn yn fodd i ddenu Herkomer i Gymru am fwy nag un rheswm dros y blynyddoedd dilynol.

Gyda'i enillion o'r llun, rhentodd Herkomer fwthyn yn Bushey, Swydd Hertford, ar gyfer ymddeoliad ei rieni yn 1873. Tua'r un adeg, priododd Anna Caroline Ada Weise (1840-1883), hithau hefyd wedi ymfudo o'r Almaen. Ganwyd iddynt ddau o blant, Siegfried Hubert (1874-1939) ac Elsa Anna Iole (1876-1938), ond ni fu'r briodas yn ddedwydd. Roedd Anna'n byw gyda salwch cronig, ac i gynorthwyo gyda'i gofal hi a'r plant, cyflogwyd Eliza Louisa 'Lulu' Griffiths (1849-1885), nyrs o Ruthun, a symudodd i mewn gyda'r Herkomers ynghyd â'i chwaer iau, Margaret 'Maggie' Griffiths (1854-1934).

Y gwaith a fu'n drobwynt yng ngyrfa Herkomer oedd 'The Last Muster' (1875), darlun a gafodd glod mawr pan ddangoswyd ef yn yr Academi Frenhinol gan arwain at ei ethol yn Aelod Cyswllt o'r Academi (ARA) a sefydlu ei enw yn rhyngwladol trwy ennill medal aur yn Exposition Paris yn 1878. Prynodd dŷ i'w rieni yn Landsberg am Lech yn yr Almaen yn 1878, a symudodd ef a'i deulu i Bushey ynghyd â'r chwiorydd Griffiths. Ar ôl marwolaeth ei fam gwta flwyddyn wedyn, dychwelodd ei dad i fyw gydag ef. Yn gofadail i'w fam gwnaeth Herkomer gynllunio a chomisynu'r 'Mutterturm', tŵr ffug-ganoloesol ynghlwm wrth y tŷ yn Landsberg sydd yno o hyd.

Yn ystod haf 1879, aeth Herkomer a Mansel Lewis ar y gyntaf o nifer o deithiau arlunio a gwersylla yn Eryri. Yn nes ymlaen dyfeisiodd Herkomer gaban cludadwy fel stiwdio iddynt. Bu'r teitihiau hyn yn fodd i gyflwyno Herkomer i dirlunio Cymru, a chynhyrchodd nifer o weithiau mewn olew, dyfrlliw a phrint, gan arddangos rhai yn yr Academi Frenhinol.

Yn yr un cyfnod â'i deithiau blynyddol i Gymru, newidiodd ffocws gwaith Herkomer o genre a thirluniau tuag at bortreadau. Lluniodd gyfanswm o dros ddau gant o bortreadau, y rhan fwyaf o ddynion blaenllaw yng nghymdeithas Prydain. Ei bortread enwocaf, serch hynny, oedd un o gymdoges iddo, Katherine Grant (1865-1952), llun a elwid yn gyffredin 'The Lady in White' (1885). Teithiodd y llun droeon rhwng Ewrop a Gogledd America gan ennill clod mawr gan y cyhoedd yn ogystal â nifer o wobrau.

Yn 1881, rhannwyd y teulu Herkomer am resymau iechyd a gwaith. Ar gyngor eu meddyg, aeth Anna a'r plant i'r Almaen ac Awstria yng nghwmni Maggie Griffiths, tra aeth Herkomer gyda'i dad a Lulu Griffiths i'r Unol Daleithiau i weithio. Fe awgrymwyd bod y briodas wedi methu'n llwyr erbyn hynny, a bod Hubert eisoes wedi ymroi i berthynas â Lulu. Derbyniodd Herkomer y newyddion am farwolaeth Anna yn Vienna pan ddychwelodd o America. Cymerodd Lulu a'i chwaer reolaeth dros y cartref teuluol.

Yn Hydref 1883, agorodd Herkomer ysgol gelf yn Bushey gyda dosbarth cychwynnol o bump ar hugain o fyfyrwyr. Tan ei ymddeoliad yn 1904, dysgodd dros bum cant o fyfyrwyr, yn ddynion a menywod. Yn sgil llwyddiant ei ddarluniau arobryn, ei ethol yn ARA a sefydlu ei ysgol gelf ei hun, fe'i penodwyd i Gadair Slade mewn Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Rhydychen yn 1885, swydd a ddaliodd hyd 1894.

Tra'n llwyddo yn ei yrfa broffesiynol, profodd Herkomer hapusrwydd a thristwch yn ei fywyd personol. Ar 12 Awst 1884, priododd Lulu Griffiths yn Rhuthun. Roedd y briodas yn ddedwydd ond yn enbyd o fyr. Yn haf 1885, collodd Lulu faban drwy gamesgor, a bu farw'n sydyn o drawiad ar y galon ar 24 Tachwedd. Er mwyn ymdopi â'r golled, ymdaflodd Herkomer i'w waith yn eithafol am sawl blwyddyn. Ymhlith pethau eraill, dechreuodd godi cartref teuluol mawreddog a stiwdio, Lululaund, wedi ei enwi ar ôl ei ail wraig. Roedd arddull yr adeilad yn gymysgedd o Gelf a Chrefft, Romanésg a Gothig Almaenaidd. Yn nes ymlaen, cododd theatr ar y safle ar gyfer ei ddramâu cerdd ei hun. Rhoddodd ei blant yng ngofal Maggie Griffiths, ac yn 1888, ychydig cyn marwolaeth ei dad annwyl, gofynnodd iddi ei briodi. Gan fod priodas rhwng brawd a chwaer yng nghyfraith yn waharddedig dan gyfraith Prydain, cymerodd Herkomer ddinesyddiaeth Almaenig eto a phriodwyd ef a Maggie yn Landsberg ar 2 Medi 1889. Ganwyd iddynt ddau o blant, Lorenz Hans Lawrence (1889-1922) a Gwenddydd (1893-1927).

Yn sgil cyfres o arddangosfeydd RA a sawl anrhydedd rhyngwladol, etholwyd Herkomer yn Aelod o'r Academi Frenhinol yn 1890. Dros y blynyddoedd dilynol, arbrofodd gyda thechnegau argraffu a dyfeisiodd ei ddull atgynhyrchu ei hun, 'Herkomergravure'. A dyma'r degawd y bu i Herkomer adael ôl gweledol trawiadol ar yr Eisteddfod a Gorsedd y Beirdd.

Yn 1895, ymwelodd â'r Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli fel beirniad ar y gystadleuaeth gelf dan nawdd Mansel Lewis. Ar yr un achlysur, fe'i derbyniwyd i'r Orsedd dan yr enw 'Gomer'. Er nad oedd ganddo fawr o feddwl o ansawdd celf Cymru ac iddo wneud sylwadau deifiol am ei chyflwr yn ei feirniadaeth, roedd yn hoffi natur theatraidd yr Orsedd, a gwnaeth frasluniau o Rowland Williams ('Hwfa Môn') yn ei wisg gyda'i gadwyn aur a'i feitr esgobaidd, ac o Evan Jones ('Gurnos'). Gwnaeth y digwyddiad y fath argraff ar Herkomer fel y bu iddo gynnig ei wasanaeth yn frwd ac awgrymu ail-ddylunio regalia'r Archdderwydd. Yn Eisteddfod Llandudno y flwyddyn ddilynol, bu'n llywydd ar y diwrnod cyntaf gan draddodi anerchiad. Cwblhaodd Herkomer dorch aur a choron newydd yr Archdderwydd erbyn Eisteddfod Casnewydd 1897, a bu'n feirniad eto ar y gystadleuaeth gelf. Yn y blynyddoedd dilynol, gwnaeth ragor o darluniau a pheintiadau o Hwfa Môn yn ei regalia newydd. Efallai mai'r cyfraniad mwyaf trawiadol a wnaeth Herkomer oedd ei ddyluniad ar gyfer cleddyf yr Orsedd newydd 6-throedfedd gyda dwrn aur addurnedig a maen crisial mawr a ddefnyddiwyd am y tro cyntaf yn Eisteddfod Caerdydd 1899. Defnyddir y dorch, y goron a'r cleddyf hyd heddiw.

Yn 1899, derbyniodd Herkomer anrhydedd aruchaf yr Almaen wrth gael ei ddyrchafu'n 'Ritter von Herkomer'. Rhoddwyd iddo hefyd 'Verdienstorden der Bayerischen Krone' (Urdd Teilyngdod Coron Bavaria) and 'Pour le Mérite' dosbarth sifil Prwsia am gyflawniad personol eithriadol. Er gwaethaf dirywiad hir ei iechyd oherwydd briwiau ar y stumog, daliodd Herkomer ati i arlunio, dysgu a theithio gyda'i frwdfrydedd arferol. Cyhoeddodd nifer o weithiau hunangofiannol hefyd, yn enwedig My School and My Gospel (1908) a The Herkomers (1910). Yn 1912, cafodd lawdriniaeth fawr ar ei stumog. Yn fuan wedyn, dechreuodd Herkomer a'i fab, Siegfried, wneud ffilmiau gyda'i gilydd, gan droi theatr y teulu yn stiwdio ffilmiau. O fewn ychydig llai na dwy flynedd, cynhyrchwyd saith ffilm ganddynt, ond ni oroesodd yr un o'r printiau.

Bu Hubert von Herkomer farw'n sydyn yn sba glan môr Budleigh Salter ar 31 Mawrth 1914. Daeth nifer o urddasolion Prydain a'r Almaen i'w angladd yn Lululaund, ac fe'i claddwyd ym meddrod y teulu ym mynwent Eglwys St James, Bushey, lle gorweddai ei dad a'i ail wraig.

Disgrifiwyd Herkomer gan gyfoedion yn siaradwr egotistaidd gyda phersonoliaeth ddiwrthdro. Yn aflonydd, obsesiynol a brwdfrydig yn ei holl weithgareddau artistig, tueddai i wthio ei farn esthetig ar bobl eraill. Serch hynny, roedd yn adnabyddus hefyd am ei garedigrwydd di-ffael, ei anwyldeb rhadlon a'i hiwmor. Cofiodd Katherine Grant iddo gael ei lethu gan alar am Lulu, ac awgrymodd mai ei awydd am gydymdeimlad a chariad a esboniai ei bersonoliaeth angerddol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2025-01-17

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.