Ganwyd Morris Wartski yn 1855 mewn teulu Iddewig yn Turek, ger Kalisch (Kalisz), Gwlad Pwyl (yn rhan o Ymerodraeth Rwsiaidd y Tsariaid ar y pryd), yn un o dri mab Shemaya Wartski a'i wraig Rosa (g. Darlski). Ynghyd â'i ddau frawd, Joseph a Philip, ymfudodd Morris i Brydain. Cyrhaeddodd Lundain yn 1872, ac roedd wedi sefydlu busnes yno erbyn 1876. Erbyn 1876. By 1882, roedd wedi ymsefydlu ym Mangor yn bedler trwyddedig, wedi dilyn ei frawd hŷn, Philip, a oedd eisoes wedi sefydlu busnes ym Mangor ac yn byw gyda'i wraig Sarah yn Nheras Parry. Cofnodir Joseph yn Slater's Directory fel gemydd yn 1883.
Pan ddaeth i Fangor yn 1882 yn saith ar hugain oed, roedd Morris yn briod â Flora Callamon a anwyd yn 1847 yn Ostrovo, ar y ffin rhwng yr Almaen a Gwlad Pwyl. Roedd ganddynt dri o blant, Isidore (1878-1965), Charles (1879-1914) a Gertrude (1881-1923). Symudodd y pump ohonynt i fyw gyda Philip a Sarah. Yn y pen draw ymfudodd Philip i Dde Affrica lle bu'n cadw siop dybaco. Cafodd Morris a Flora bedwar o blant eraill: Harry (g. 1884), Rosie (g. 1886), Harriet (g. 1890) a Sarah (g. 1892). Dengys cyfrifiad 1891 fod Morris (a ddisgrifir fel gemydd ac yn medru Saesneg, Cymraeg ac Almaeneg) wedi symud gyda'i deulu i dŷ mwy o faint, 8 Teras Eldon, Bangor.
Dilynodd Morris yr arfer deuluol drwy deithio gyda'i stôr o watsys arian, gemau a dillad a'u cynnig ar werth i 'foneddigion a ffermwyr lleol'. Gwnaeth ei frawd Joseph yr un math o fusnes o Stryd Russell, Lerpwl, wedyn 72 Stryd Fawr, Bangor, ac yn nes ymlaen yn Birmingham House, Bae Colwyn. Daeth Morris yn ddinesydd Prydeinig yn 1893 pan restrwyd ef yn byw yn 21 Stryd Fawr a'i ddisgrifio'n emydd a masnachwr dodrefn. Roedd yn ddyn crefyddol a chynhaliwyd y gwasanaethau Iddewig cyntaf yn ei gartref ar 21 Ionawr 1893 i ddynodi bar mitzvah ei ail fab Charles.
Lleoliad busnes cyntaf Wartski oedd 21 Stryd Fawr, Bangor, lle agorodd siop gemydd yn 1895. Nodir y busnes yn Slater's Directory y flwyddyn honno fel 'Wartski and Bolloten, Drapers and Clothiers'. Llwyddodd y busnes yn syth, ac erbyn 1904 roedd y teulu wedi uwchraddio i eiddo mwy, Lluesty.
Creodd Morris gyfres o gysylltiadau dylanwadol, gan ddod yn gyfrinachddyn i'r Prif Rabbi, Hermann Adler a'i olynydd Joseph Hertz, yn ogystal â'r AS Rhyddfrydol a darpar Brif Weinidog, David Lloyd George, a ddaeth yn gynghorydd cyfreithiol i Morris. Arwydd o ddylanwad Morris oedd priodas fawreddog ei ferch, Gertrude, â Joseph Sions o Lundain yn 1903. Cynhaliwyd derbyniad yn y Gwesty Prydeinig ym Mangor i dros 200 o westeion, gan gynnwys Ardalydd Môn a oedd wedi cynorthwyo Wartski i sefydlu ei fusnes ac a oedd yn un o'i gwsmeriaid.
Bu farw gwraig gyntaf Morris, Flora, yn sydyn yn 1903, yn 56 oed. Cafwyd teyrnged helaeth yn y Jewish Chronicle, gan ei disgrifio fel 'the most prominent and the most representative Jew in North Wales' a gynorthwyai ei gŵr yn ei holl waith cymunedol a dyngarol. 'It was largely due to her piety, hospitality and vigorous commonsense, that our community is now so highly respected and Judaism in its best form is understood by our Christian fellow-citizens.' Yn aelod gwerthfawr ac uchel ei pharch o'r gynulleidfa, agorodd ei drysau i'r rhai tlotach yn y gymuned ac i ymwelwyr gyda'r hyn a ddisgrifir fel croeso cynnes ei chartref Cymreig.
Erbyn 1907, roedd Morris wedi symud ei fusnes gemydd i leoliad newydd llawer mwy yn 202 Stryd Fawr lle buasai Gwesty'r Seren gynt. Nodir hyn fel 'C & H Wartski' yn Bennett's Business Directory, wedi ei enwi ar ôl ei feibion Charles a Harry. Y flwyddyn wedyn, ehangodd y busnes i 33 Stryd Mostyn Llandudno, tref ffynhonnau fwy ffasiynol a llewyrchus, ac yn fuan wedyn agorodd ddwy siop bellach yn rhifau 31 a 93.
Roedd gan Wartski reswm arall dros symud i Landudno. Yn un ar bymtheg oed, roedd Charles wedi dioddef anaf enbyd wrth seiclo, heb wella'n llawn fyth, a chredai Wartski y byddai awyr y môr yn llesol i iechyd ei fab. Yn 1909, sefydlodd Wartski synagog cyntaf Llandudno yn Stryd Mostyn Uchaf lle bu i'w ferch Harriet briodi yr entrepreneur o Lundain Emmanuel Snowman - uniad a fu'n fodd i'r busnes ddatblygu'n rhyngwladol ddwy flynedd yn ddiweddarach pan agorwyd cangen yn Llundain, siop a elwir yn 'Wartski's of Llandudno' hyd heddiw. Y flwyddyn honno, aeth Morris i Balas Buckingham lle bu iddo werthu tlysau i'r Brenin.
Yn 1913, priododd Morris â Lily Lawrence a anwyd yn Llundain yn 1868. Y flwyddyn wedyn, ym Mai 1914, bu farw Charles yn 35 oed. Fel ei fam, claddwyd ef ym mynwent Green Lane, Lerpwl. Cafodd marwolaeth Charles effaith fawr ar Wartski ac ymroddodd i fywyd cymunedol, gan roi'n hael i achosion da lleol. Bu Morris Wartski farw ar 19 Gorffennaf 1946, gan adael ei ail wraig Lily a fu farw ychydig wythnosau ar ei ôl. Claddwyd ef ym mynwent Long Lane yn Lerpwl.
Roedd Morris yn ddeallus ac yn swynol. Roedd yn ddyn tal - yn 6'2" ac yn gydnerth gyda llygaid gleision treiddgar, pryd gwritgoch a barf fach. Roedd yn allblyg ond hefyd yn ymfflamychol. Yn ieithydd dawnus, medrai Rwsieg, Pwyleg, Iddeweg, Almaeneg a Chymraeg yn rhugl ond ni chollodd yr acen Bwylaidd ar ei Saesneg. Cafodd fywyd llawn a diddan, gan fyw i fod yn 91 oed. Bu iddo saith o blant, pymtheg o wyrion, a deunaw o orwyrion. Ei esboniad ef ar ei hirhoedledd oedd 'digon o wisgi, sigârs da a dim ymarfer corff'.
Dyddiad cyhoeddi: 2025-01-23
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.