Fe wnaethoch chi chwilio am 1941

Canlyniadau

EDWARDS, DAVID MIALL (1873 - 1941), diwinydd a llenor

Enw: David Miall Edwards
Dyddiad geni: 1873
Dyddiad marw: 1941
Priod: Lilian Clutton Edwards (née Williams)
Rhiant: Jane Edwards
Rhiant: William Edwards
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: diwinydd a llenor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Hywel David Lewis

Ganwyd 22 Ionawr 1873 yn Llanfyllin, mab William Edwards, groser a garddwr, a Jane Edwards. Addysgwyd ef i ddechrau yn ysgol y bwrdd, Llandderfel, ac ysgol ramadeg y Bala, ac aeth oddiyno gydag ysgoloriaeth i goleg y Brifysgol, Bangor. Gan nad oedd hawl y pryd hwnnw gan Brifysgol Cymru i roddi graddau, eisteddodd yr arholiad am Anrhydedd mewn Saesneg ym Mhrifysgol Llundain, a chafodd Anrhydedd yn yr ail ddosbarth yn 1896. Wedi hyn symudodd i goleg Mansfield, Rhydychen, ond lluddiwyd ef gan afiechyd rhag eistedd ei arholiad ar derfyn ei gwrs o dair blynedd yno, a derbyniodd alwad i Eglwys Annibynnol Salem, Ffestiniog, ac ordeiniwyd ef yn 1900. Ni rwystrodd hyn ef, fodd bynnag, rhag dychwelyd i Rydychen lle y graddiodd yn 1901 o Goleg Mansfield gydag Anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn Diwinyddiaeth. Yna dychwelodd i Ffestiniog ac arhosodd yno hyd 1904 pryd yr aeth yn weinidog ar gapel y Plough, Aberhonddu. Yn 1909 etholwyd ef i gadair Athroniaeth Crefydd ac Athrawiaeth Gristionogol yn y Coleg Coffa, Aberhonddu, lle yr arhosodd hyd 1934 pryd yr aeth yr afiechyd y brwydrodd mor gyson a gwrol yn ei erbyn yn drech nag ef a'i orfodi i ymddeol o'i Gadair, gan barhau, fodd bynnag, yn weithgar mewn amryw gyfeiriadau eraill hyd ei farw yn 1941. Yr oedd ei yrfa fel athro mewn diwinyddiaeth, llenor, a phregethwr yn un nodedig, a theimlid dylanwad ei waith a'i bersonoliaeth ymhell, yn enwedig yng Nghymru lle y gwnaethpwyd ei angerdd crefyddol yn amlwg mewn amryw gylchoedd cymdeithasol a diwylliadol. Diogelwyd ei safle ym myd diwinyddiaeth yn gyffredinol gan ddau lyfr, The Philosophy of Religion (1929) a Christianity and Philosophy (1932), gweithiau a enillodd iddo radd doethor ym Mhrifysgol Llundain, a chan gyfraniadau niferus i gylchgronau dysgedig. Dilynwyd ei lyfr Cymraeg cyntaf, Crefydd a Bywyd (1915), gan amryw lyfrau eraill yn trafod pynciau crefyddol gyda threiddgarwch ac eglurder nodedig, a pharatôdd hyn y ffordd i'w brif waith llenyddol, Bannau'r Ffydd (1939), lle y gwnaeth ymdrech dra llwyddiannus i sicrhau dehongliad cynhwysfawr o'r prif athrawiaethau Cristionogol yn nhermau bywyd a diwylliant modern. Cyfrannodd yn helaeth iawn i gyfnodolion Cymraeg a bu ef ei hunan yn olygydd y Dysgedydd (1915-18) a'r Efrydydd (1920-8) yn ogystal a'r gyfres traethodau dylanwadol a gyhoeddwyd gan Urdd y Deyrnas dan y teitl ' Efengyl y Deyrnas '. Deillia llawer o olygiadau athronyddol a chrefyddol Edwards o idealaeth bersonol fel ei cyflwynir yng ngwaith James Ward, Pringle-Pattison, a W. R. Sorley, ond yn ddiweddarach daeth yn drwm dan ddylanwad Otto yn ei The Idea of the Holy. Y nodwedd amlycaf yn ei feddwl ef ei hun yw'r pwylais ar y syniad am y Sanctaidd fel sylfaen y gwerthoedd eraill, ond yr oedd ei waith yn fwyaf nodedig, nid yn gymaint ar gyfrif datblygiadau gwreiddiol o'r safbwyntiau a fabwysiadodd ef ei hun, ond ar bwys ei amddiffyniad grymus o'r safbwyntiau hynny a'i feirniadaeth ar athrawiaethau gwrthgyferbyniol. Efallai mai ei brif ddiddordeb i'r dyfodol fydd ei waith fel arloeswr yn y gelfyddyd o ysgrifennu mewn arddull Gymraeg ddarllenadwy ar bynciau athronyddol. Mawr yw dyled athroniaeth Gymraeg i'w waith a'i esiampl.

Priododd 1914 Lilian Clutton Williams, Manceinion. Bu farw 29 Ionawr 1941 a chladdwyd yn Aberhonddu 1 Chwefror.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Canlyniadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.