Ganwyd 15 Tachwedd 1882 yn 3 Libanus Terrace, Bontnewydd, yn fab i Robert ac Ellen Roberts. O'r ysgol elfennol aeth i ysgol sir Caernarfon, coleg y Brifysgol, Bangor (1901-1904), coleg y Bala, ac am flwyddyn i Brifysgolion Berlin a Marburg. O 1908-1912 bu'n ddarlithydd cynorthwyol mewn Hebraeg ym Mhrifysgol Glasgow. Ordeinwyd ef yn 1912, a bugeiliodd eglwysi Maenofferen, Blaenau Ffestiniog 1912-1921, Fitzclarence Street, Lerpwl 1912-1929, capel Tegid a'r capel Saesneg, Bala, a Llanfor 1929-1945. Priododd 18 Awst 1921 Sarah Ann Davies merch hynaf G. G. Davies, Glan-y-pwll Villa, Blaenau Ffestiniog. Cyfrannodd yn helaeth i lenyddiaeth Feiblaidd : sgrifennodd werslyfrau, llyfr ar Hanes yr Hebreaid esboniad ar Hagai a Secharïa, ac ysgrifau lawer i gylchgronau ei enwad. Bu ganddo hefyd erthyglau yn yr International Bible Standard Encyclopaedia. Ef oedd is-olygydd y Geiriadur Beiblaidd a gyhoeddwyd yn 1926, a golygydd cyffredinol y Geiriadur Diwinyddol y dechreuwyd ei baratoi dan nawdd Prifysgol Cymru, gwaith a ataliwyd gan yr ail Ryfel Mawr. Bu'n un o olygyddion y Traethodydd o 1929-1945, yn ysgrifennydd ac yn llywydd adran ddiwinyddol Urdd y Graddedigion, a gwnaeth lawer o waith ynglŷn â'r cyfieithiadau newydd o'r Beibl a gyhoeddir dan nawdd y Brifysgol. Gwasanaethodd fel ysgrifennydd pwyllgor Ysgol Sul y Gymanfa Gyffredinol o 1932-1937, ysgrifennydd Cymdeithasfa'r Gogledd o 1936-1938 ac wedyn am 1940, ac fel llywydd Cymdeithasfa'r Gogledd am 1941. Yn ddiweddarach penodwyd ef yn ysgrifennydd dros y gogledd i Gomisiwn Ad-drefnu ei enwad.
Yr oedd yn ŵr o argyhoeddiadau cryfion, yn ddiddichell a mawrfrydig ei ysbryd, yn gydwybodol a thrylwyr yn ei holl waith. Bu farw yn y Bala 9 Medi 1945, yn 62 oed, a chladdwyd ef yn Nghaeathro.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.