Fe wnaethoch chi chwilio am *
Ganwyd 20 Gorffennaf 1844 yng Nghastell y Waun, Tregastell, Llanuwchllyn, mab John a Catherine Evans; am dymor bu yn yr ysgol a gadwai'r Parch. Thomas Roberts, 'Scorpion' yn yr Hen Gapel, Llanuwchllyn, a dywedir ei fod wedi mynychu ysgol ramadeg y Bala am ryw hyd, ond nid oes gadarnhâd i hyn. Fel hogyn cyfrifid ef yn ddeallgar a chraffus tuhwnt, yn enwedig mewn rhif a mesur. Cymerodd ddiddordeb dwfn yn nhraddodiadau ei ardal a gadawodd dair cyfrol llawysgrif. Nid oes brawf iddo fod dan ddisgyblaeth yng ngholeg y Normal ym Mangor nag mewn unrhyw sefydliad arall o'r fath, ond bu'n ddisgybl a disgybl-athro yn ysgol Frutanaidd y Bala. Dywedir iddo fod yn athro yn ysgol Corwen. Bu'n athro ysgol yn Devonport o 1864, ac ar ôl priodi Jessie, merch William Henry Beal, yno yn 1868 bu'n cadw ysgol ar ei gyfrif ei hun. Erbyn 1871 yr oedd yn Harrogate.
Yr oedd y bywyd cyfyngedig hwn ymhell o fodloni ei uchelgais, ac yn y saith degau, er ei fod yn briod ac amryw blant ganddo, penderfynodd fyned i Lundain i ddyfnhau ei fyfyrdod mewn gwyddoniaeth. Erbyn 1877 yr oedd yn aelod o'r Royal College of Chemistry, ac yn dysgu eraill yn y coleg gyda hynny; yn 1878-9 yr oedd ynghanol gwaith ymchwil o dan y cemegwr enwog Syr Edward Frankland, gan drafod yn arbennig adweithiau zinc-ethyl; yn 1879-80 bu dros dro yn ddarlithydd mewn cemeg yn y City and Guilds Technical College yn Finsbury, gan godi'n ddiweddarach yn brif ddarlithydd yno o dan Henry Armstrong, gyda chyfrifoldeb dros fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf; daeth yn F.C.S. yn 1880, ac yn F.I.C. yn 1888. Bu'n astudio trefniadau addysg dechnegol yn yr Almaen. Yn ddiweddarach cymerodd ofal yr hyfforddiant cemegol ar waith mewn metelau. Defnyddiai fwynau a gasglodd ef ei hun ym Mhatagonia. Cyhoeddodd yn 1902 ei gyfrol gyntaf ar Physico-Chemical Tables, gwaith a gydnabyddir gan yr awdurdodau fel un cynhwysfawr a manwl iawn; ysgrifennodd lyfr hefyd a enwid A New Course of Experimental Chemistry, (1892), a ail-argraffwyd fwy nag unwaith.
O ran argyhoeddiad Bedyddiwr ydoedd, dechreuodd bregethu gyda'r Bedyddwyr, a bu'n swyddog prysur yn achosion Seisnig Forest Gate a Ferme Park, heblaw cadw mewn cyswllt clós â'r eglwys Gymraeg yn Castle Street. Bu farw yn Ilford, 13 Mai 1909.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.