Fe wnaethoch chi chwilio am osmond%20williams

Canlyniadau

ALBAN DAVIES, DAVID (1873 - 1951), gŵr busnes a dyngarwr

Enw: David Alban Davies
Dyddiad geni: 1873
Dyddiad marw: 1951
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gŵr busnes a dyngarwr
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Dyngarwch
Awdur: Mary Auronwy James

Ganwyd 13 Ebrill 1873 yng nghartref ei fam, Hafod Peris, Llanrhystud, Ceredigion, yn fab ieuengaf Jenkin Davies, capten llong, ac Anne (ganwyd Alban) ei wraig. Pan adawodd yr ysgol leol yn 14 oed aeth i weithio ar fferm ei ewythr yn Hafod Peris, gan fod ei dad newydd ddioddef colledion ariannol. Cawsai ei frodyr eu haddysg yng ngholeg Llanymddyfri, felly cynilodd ei enillion a mynychu Ysgol Owen yn Nghroesoswallt pan oedd yn 18 oed. Ar 28 Tachwedd 1899 priododd â Rachel Williams, Brynglas, Moria, Penuwch, yn Eglwys y Drindod, Aberystwyth, a bu iddynt 4 mab a merch. Aethant i weithio gydag Evan, brawd Rachel, a gadwai fusnes laeth lwyddiannus yn Llundain. Ymhen yrhawg prynodd David Alban Davies gwmni llaeth Hitchman a ddatblygodd yn fusnes lewyrchus o dan ei gyfarwyddyd. Yn 1933 cododd dŷ moethus, Brynawelon, Llanrhystud ac ymddeol yno, gan adael dau o'i feibion, Jenkin a David Harold, i ofalu am y busnes. Bu farw 2 Rhagfyr 1951 a'i gladdu ym Mhen-uwch.

Ar ddechrau ei yrfa ymdynghedodd i roi'r ddegfed ran o'i enillion i'r eglwys. O ganlyniad, ac mewn cydweithrediad ag ychydig aelodau eraill, daeth eglwys Moreia (MC), Walthamstow, i fod, a chynorthwyodd godi tŷ gweinidog yno. Cododd ysgoldy (MC) ger ei hen gartref yn Llanrhystud yn ogystal. Gwasanaethodd naw mlynedd ar Gyngor Bwrdeistref Walthamstow. Wedi dychwelyd i Gymru bu'n siryf Ceredigion yn 1940 a daeth yn aelod ac yn henadur (1949) Cyngor Sir Aberteifi, gan fod yn gadeirydd y pwyllgorau lles ac iechyd. Ef oedd cadeirydd Cymdeithas Tai Hen Bobl Aberystwyth a'r Cylch pan brynwyd Deva, cartref i'r hen y bu ef yn hael iawn ei roddion iddo. Cymerai ddiddordeb arbennig mewn gwelliannau mewn amaethyddiaeth a rhoddodd £10,000 i'r Adran Iechyd Anifeiliaid yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Bu'n llywydd Cymdeithas Gydweithredol Ffermwyr Gogledd Ceredigion am gyfnod. Cefnogai addysg, gan fod yn gadeirydd cyntaf rheolwyr Ysgol Uwchradd Fodern Dinas, Aberystwyth, ac yn rheolwr C.P.C., Aberystwyth a Phrifysgol Cymru. Ar fyr rybudd prynodd a chyflwynodd i'r coleg 200 erw o dir ar ystad Penglais rhag i adeiladau anaddas gael eu codi yno. Derbyniodd radd LL.D. er anrhydedd yn 1947 am ei gymwynas. Y flwyddyn ddilynol cyflwynodd ei wraig fen gyntaf y llyfrgell deithiol i'r Cyngor Sir i gynnal gwasanaeth a werthfawrogir yn fawr gan bobl cefn gwlad Ceredigion.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Canlyniadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.