Fe wnaethoch chi chwilio am 1941

Canlyniadau

DAVIES, EDWARD TEGLA (1880 - 1967), gweinidog (EF) a llenor

Enw: Edward Tegla Davies
Dyddiad geni: 1880
Dyddiad marw: 1967
Priod: Jane Eleanor Davies (née Evans)
Plentyn: Gwen Davies
Plentyn: Dyddgu Jones (née Davies)
Plentyn: Arfor Davies
Rhiant: Mary Ann Davies
Rhiant: William Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (EF) a llenor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Islwyn Ffowc Elis

Ganwyd 31 Mai 1880, yn yr Hen Giât, Llandegla-yn-Iâl, Sir Ddinbych, y pedwerydd o chwe phlentyn William a Mary Ann Davies. Chwarelwr oedd ei dad, a anafwyd yn ddrwg yn y Foel Faen ond a ddaliodd i weithio yno ac wedyn yn chwarel galch y Mwynglawdd, rhag cyni. Yn 1893 symudodd y teulu i Bentre'r Bais (Gwynfryn) ac yn 1896 i Fwlch-gwyn. Yn 14 oed dechreuodd Edward yn ddisgybl-athro yn ysgol Bwlchgwyn. Daeth dan ddylanwad Tom Arfor Davies, athro ifanc ym Mwlch-gwyn am gyfnod byr cyn ei farw cynnar; ef a ddeffrôdd ei ddiddordeb yn hanes a llenyddiaeth Cymru.

Cafodd dröedigaeth ysgytiol ar ôl cyrddau pregethu yng Nghoed-poeth, a phenderfynodd fynd i'r weinidogaeth. Yn 1901 derbyniwyd ef yn weinidog ar brawf, ac ar ôl blwyddyn yng nghylchdaith Ffynnongroyw aeth i Goleg Didsbury, Manceinion. Bu'n weinidog yn Abergele, Leeds, Porthaethwy, Y Felinheli, Tregarth deirgwaith, Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Dinbych, Manceinion ddwywaith, Lerpwl, Bangor a Choed-poeth.

Yn 1908, priododd Jane Eleanor (Nel) Evans, Siop y Gwynlys, Bwlchgwyn, a ganwyd iddynt dri o blant: Dyddgu, Arfor a Gwen. Ymddeolodd yn 1946 oherwydd gwaeledd ei briod a symud i Fangor, lle y bu hi farw yn 1948. Bu'n llywydd y Gymanfa Fethodistaidd Gymreig yn 1937. Bu farw 9 Hydref 1967, a chladdwyd ef ym mynwent Y Gelli, Tregarth.

Er na chafodd erioed wers Gymraeg yn yr ysgol nac addysg prifysgol, daeth yn un o'r llenorion mwyaf toreithiog yn y Gymraeg. Bu ei gyfeillgarwch ag Ifor Williams, T. Gwynn Jones, David Thomas Bangor, (1880 - 1967), a gwyr llên eraill yn hwb nid bychan iddo. Bu'n olygydd Y Winllan, 1920-28, a'r Efrydydd, 1931-35, ac ef a olygydd Gyfres Pobun, 1944-50. Cyhoeddodd ei storïau am fechgyn yn Y Winllan ac yna'n gyfrolau. Daeth y cyntaf, Hunangofiant Tomi (1912) yn dra phoblogaidd, a dilynwyd ef gan Nedw (1922), Rhys Llwyd y lleuad (1925) a Y doctor bach (1930). Cyhoeddodd nifer o lyfrynnau i blant ar gymeriadau chwedlonol a Beiblaidd, ac addasiad o Taith y pererin (1931). Gwelir ei ddychymyg ar ei hynotaf yn Hen ffrindiau (1927), ac yn ei ffantasïau Tir y dyneddon (1921) a Stori Sam (1938). Beirniadwyd y moesoli a'r alegoreiddio yn y rhain, ond erys eu dyfeisgarwch a'u hadroddiant yn rhyfeddod. Ymddangosodd ei unig nofel hir, Gwr Pen y Bryn, yn benodau yn Yr Eurgrawn ac yn llyfr yn 1923. Beth bynnag yw ei gwendidau, mae'n garreg filltir yn hanes y nofel Gymraeg oherwydd ei chynllun trefnus a'i hastudiaeth dreiddgar o wewyr enaid. Cyfieithwyd hi i'r Saesneg. Un nofel arall yn unig a gyhoeddodd: y nofel fer ddychanol Gyda'r glannau (1941). Yr oedd wedi ysgrifennu storïau byrion i gyfnodolion, a chasglodd hwy ynghyd yn Y Llwybr arian (1934).

Ac eithrio nifer o lyfrau crefyddol i bobl ifainc, cyfrolau o ysgrifau a gyhoeddodd yn bennaf rhwng 1943 a diwedd ei oes: detholion, gan mwyaf, o'i ysgrifau wythnosol i'r Herald Cymraeg o 1946 hyd 1953 dan y ffugenw ' Eisteddwr ' a sgyrsiau radio. Dengys Rhyfedd o fyd (1950) ei ddychan ar ei fwyaf deifiol; eglurebau grymus y pregethwr creadigol sydd amlycaf yn Y Foel Faen (1951) ac Ar ddisberod (1954). Dilynwyd ei hunangofiant, Gyda'r blynyddoedd, gan gyfrol bellach o atgofion, Gyda'r hwyr, a detholiad o'i bregethau yw Y Ffordd. Cyhoeddodd fwy na 40 o lyfrau a llyfrynnau i gyd.

Ystyriai Tegla 'i hun yn wrthryfelwr ar hyd ei oes. Er ei fod yn un o bregethwyr amlycaf a gwyr mwyaf dylanwadol ei enwad, ni pheidiodd â beirniadu a dychanu cyfundrefnaeth, boed grefyddol neu seciwlar. Yr oedd yn un o hyrwyddwyr cynnar beirniadaeth feiblaidd yng Nghymru a pharodd Llestri'r trysor (1914), a olygodd gyda'i gyfaill D. Tecwyn Evans, a'i ragymadrodd i'r Flodeugerdd Feiblaidd (1940) gryn gyffro. Ond yr oedd yn Weslead i'r carn. Cyfrannodd ysgrifau ar weinidogion Wesleaidd i'r Bywgraffiadur ac erthygl ar Wesleaeth Gymreig i The Methodist Church, 1932, yn ogystal ag ysgrifau i'r Geiriadur Beiblaidd, ac yr oedd ar gyd-bwyllgor llyfr emynau'r Methodistiaid, 1924-26. Bu'n aelod o gyngor a phwyllgor gwaith yr Eisteddfod Genedlaethol am flynyddoedd ac yn feirniad eisteddfodol mynych. Derbyniodd radd M.A. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1924 am ei gyfraniad i lenyddiaeth Gymraeg, a D.Litt. yn 1958.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Canlyniadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.