Fe wnaethoch chi chwilio am 1941

Canlyniadau

DAVIES, TUDOR (1892 - 1958), datganwr

Enw: Tudor Davies
Dyddiad geni: 1892
Dyddiad marw: 1958
Priod: Ruth Davies (née Packer)
Rhiant: Sarah Davies
Rhiant: David Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: datganwr
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: Huw Williams

Ganwyd 12 Tachwedd 1892 yn y Cymer, Porth, Rhondda, Morgannwg, pumed mab David a Sarah Davies. Cyn cymryd at yrfa gerddorol bu'n gweithio yn y lofa ac yn ystod rhyfel 1914-18 fel peiriannydd yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain, a bu'n canu opera a chyngherdda yn T.U.A., Canada ac Awstralia. Yn 1922 ymunodd â'r Cwmni Opera Cenedlaethol Prydeinig a pharhaodd gyda'r cwmni hwnnw weddill ei yrfa. Portreadodd Rudolfo gyda'r cwmni yn Llundain yn 1922, ac yn 1924 ef a ganai ran y prif gymeriad yn y perfformiad cyhoeddus cyntaf o Hugh the drover (Vaughan Williams) yn His Majesty's Theatre. Bu hefyd yn brif denor yn Sadler's Wells, 1931-41, a chyda chwmni opera Carl Rosa, 1941-6, ac fel aelod parhaol o'r cwmni yn Sadler's Wells ef a brotreadai'r prif gymeriad yn y perfformiad Saesneg cyntaf o Don Carlos (Verdi) yn 1938. Cafodd ei wahodd i ganu ymhob un o'r prif wyliau cerddorol ym Mhrydain ac yn T.U.A. Yr oedd yn berchen llais ffres a chynnes, a chanai bob amser gydag urddas ac argyhoeddiad. Bu'n recordio rhwng 1925-30, ac y mae'r rhan o The dream of Gerontius (Elgar) a recordiwyd yn eglwys gadeiriol Henffordd yn 1927, gyda'r cyfansoddwr yn arwain, yn enghraifft nodedig o'i arddull. Priododd y soprano Ruth Packer. Bu farw 2 Ebrill 1958.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Canlyniadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.